English icon English
Primary School Free Scool Meals FSM Prydau Ysgol Am Ddim-2

Mwy o blant yn dechrau derbyn prydau ysgol am ddim wrth fynd ati i fynd i'r afael ag argyfwng costau byw

More children in Wales start receiving free school meals in action to tackle cost-of-living crisis

Wrth i blant fynd yn ôl i’r ysgol, mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, ac arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, wedi croesawu’r ffaith bod rhoi prydau ysgol am ddim yn mynd i gael ei ehangu i blant cynradd yng Nghymru.

Mae dosbarthiadau cyfan o blant cynradd ledled Cymru yn mwynhau prydau ysgol am ddim gyda’i gilydd am y tro cyntaf o ddechrau’r flwyddyn ysgol newydd.

Wrth i’r Prif Weinidog a Siân Gwenllian, Aelod Dynodedig Plaid Cymru, ymweld ag ysgol gynradd ddydd Mercher (Medi 7), byddant yn cyhoeddi bod prydau ysgol am ddim yn cael eu hehangu i fwy na 6,000 o blant oedran meithrin mewn ysgolion.

Bydd disgyblion meithrin sy’n mynychu ysgol a gynhelir am o leiaf ddwy sesiwn lawn unrhyw ddiwrnod o’r wythnos yn gymwys i gael pryd ysgol am ddim.

Bydd £35m o gyllid cyfalaf newydd yn cefnogi’r cynllun. Darperir y cyllid i awdurdodau lleol i fuddsoddi mewn gwelliannau i gyfleusterau arlwyo ysgolion, gan gynnwys prynu cyfarpar, uwchraddio cyfleusterau ceginau a diweddaru systemau digidol.

Mae’r cyllid hwn yn ychwanegol at £25m o gyllid cyfalaf a gafodd ei roi i awdurdodau lleol yn 2021-22. Mae £200m o gyllid refeniw hefyd wedi’i neilltuo ar gyfer y ddarpariaeth bob dydd dros y tair blynedd nesaf.

Dywedodd y Prif Weinidog:

“Ddylai yr un plentyn fynd heb fwyd. Mae teuluoedd ledled Cymru o dan bwysau aruthrol o achos yr argyfwng costau byw, ac rydyn ni’n gwneud popeth allwn ni i’w cefnogi. Mae ehangu prydau am ddim i bob ysgol gynradd yn un o nifer o fesurau rydyn ni’n eu cymryd i gefnogi teuluoedd drwy’r cyfnod anodd yma.

“Mae wir yn bleser gweld sut mae ein hysgolion wedi croesawu hyn, a pha mor gyflym y maen nhw a’n gwasanaethau cyhoeddus wedi gweithio gyda’i gilydd i ddechrau darparu prydau ysgol am ddim.

“Rydyn ni’n gwybod bod plant iau yn fwy tebygol o fod yn byw mewn tlodi incwm cymharol, a dyna pam mai ein dysgwyr ieuengaf fydd y cyntaf i elwa.”

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru:

“Wrth inni wynebu argyfwng costau byw, ‘dyw hi erioed wedi bod yn bwysicach cyflwyno prydau ysgol am ddim i bob plentyn cynradd, sicrhau dechrau cyfartal iddyn nhw mewn bywyd a helpu teuluoedd i wneud i’r gyllideb wythnosol fynd ymhellach.

“Drwy ein Cytundeb Cydweithio, rydyn ni’n cynnig cymorth y mae ei angen yn fawr ar deuluoedd, ac yn gwneud gwahaniaeth go iawn drwy fuddsoddi yn ein hysgolion i ddarparu’r prydau hyn.

“Dros y tair blynedd nesaf, fe fyddwn ni’n cyflwyno prydau ysgol am ddim ar draws holl grwpiau blwyddyn ein hysgolion cynradd, fel na fydd angen i un plentyn fynd heb fwyd tra byddan nhw yn yr ysgol. Drwy weithio gyda’n gilydd, rydyn ni’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.”

Mae ehangu prydau ysgol am ddim i bob plentyn cynradd yn ymrwymiad allweddol yn y Cytundeb Cydweithio tair blynedd rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Bydd yn ymyriad sy’n trawsnewid y sefyllfa o ran tlodi plant a’r rheini sy’n mynd heb fwyd, yn ogystal â chefnogi cyrhaeddiad addysgol, maeth plant a chynhyrchu a dosbarthu bwyd yn lleol, gan sicrhau budd i economïau lleol.

Bydd y flwyddyn gyntaf yn canolbwyntio ar feithrin capasiti ysgolion, a’r nod yw sicrhau, erbyn dechrau tymor yr haf 2023, y bydd y rhan fwyaf o ddisgyblion, o’r dosbarth derbyn i flwyddyn 2, yn cael prydau ysgol am ddim. Bydd y rhan fwyaf o blant dosbarthiadau derbyn yn cael prydau ysgol am ddim o’r wythnos hon.

Bydd Mark Drakeford a Siân Gwenllian yn ymweld ag ysgol gynradd ddydd Mercher (Medi 7) i gwrdd â phlant a gweld sut mae ysgolion cynradd ledled Cymru yn darparu prydau am ddim.