English icon English

Myfyrwyr Cymru i Gael Mwy o Help Gyda Chostau Byw

Welsh students to get more help with living costs

Bydd Llywodraeth Cymru'n cynyddu cymorth cynhaliaeth myfyrwyr o 9.4% ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24, yn amodol ar wneud rheoliadau.

Gall myfyriwr amser llawn arferol o Gymru hawlio £10,710 mewn grantiau a benthyciadau cynhaliaeth, fydd yn codi i £11,720 diolch i'r cynnydd yma.

Bydd hyn yn berthnasol i fyfyrwyr addysg uwch amser llawn a rhan amser o Gymru, a ddechreuodd gwrs ar neu ar ôl 1 Awst 2018.

Mae cymorth costau byw yn cynyddu yn unol â'r Cyflog Byw Cenedlaethol, sy'n unigryw i Gymru. Mewn cyferbyniad, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cynnydd o 2.8% i fyfyrwyr sy'n byw fel arfer yn Lloegr.

Mae Llywodraeth Cymru'n parhau i ddarparu'r system gyllid myfyrwyr mwyaf blaengar yn y DU. Mae gan fyfyrwyr israddedig Cymru lai i'w ad-dalu ar gyfartaledd na'u cyfoedion yn Lloegr am eu bod yn gallu manteisio ar ein pecyn hael o grantiau a benthyciadau costau byw.

Mae'r lefel uchaf o gymorth grant yn cael ei roi i'r myfyrwyr hynny sydd fwyaf mewn angen. Mae pecyn sylweddol o gymorth ar gael i fyfyrwyr rhan-amser, gan roi cyfle i fyfyrwyr o bob cefndir astudio'n rhan-amser.

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles:

"Ni ddylai costau byw fyth fod yn rhwystr i astudio yn y brifysgol. Bydd y cynnydd hwn yn y cymorth yn sicrhau bod myfyrwyr o bob cefndir yn gallu cael mynediad i addysg uwch.

"Er gwaethaf pwysau parhaus ar y gyllideb, rwyf wedi sicrhau bod gwerth y cymorth yn cynyddu ar yr adeg hon o bwysau eithriadol ar gostau byw."