Pobl yn ceisio bod yn fwy darbodus, yn ôl canlyniadau'r Arolwg Cenedlaethol
National Survey results show shift to thrift
Mae mwy o bobl yng Nghymru’n prynu eitemau ail-law ac yn lleihau eu defnydd o ynni mewn ymgais i arbed arian. Dyna mae canlyniadau diweddaraf Arolwg Cenedlaethol Cymru’n ei ddangos.
Mae’r canlyniadau’n dangos cynnydd sylweddol yn nifer y bobl sy’n lleihau eu defnydd o ynni yn y cartref (75% o’i gymharu â 62% y llynedd), gyda chostau yn cael ei nodi fel y prif reswm dros hyn.
O ganlyniad i’r argyfwng newid yn yr hinsawdd – yn ogystal ag effeithiau parhaus y cynnydd mewn costau byw – gwelwyd mwy a mwy o bobl yn ailgylchu ac yn ailddefnyddio nwyddau. Dywedodd 53% o bobl eu bod yn prynu llai o bethau newydd sbon (o’i gymharu â 46% yn flaenorol) ac mae 70% o bobl naill ai wedi prynu neu wedi derbyn eitemau ail-law yn y 12 mis diwethaf. Mae hyn i fyny o 57% yn 2018-19.
Mae’r Arolwg Cenedlaethol, a gyhoeddwyd heddiw [Dydd Mawrth 11 Gorffennaf], yn arolwg dros y ffôn ac ar-lein o sampl ar hap o dros 11,000 o bobl ar draws Cymru.
Cynhaliwyd cyfweliadau rhwng mis Ebrill 2022 a mis Mawrth 2023 gan ymdrin ag ystod eang o destunau fel iechyd, materion amgylcheddol, trafnidiaeth a phresenoldeb mewn digwyddiadau celfyddydol.
Mae canlyniadau allweddol eraill yn cynnwys:
- Defnyddiodd 40% o bobl wasanaeth bws yn y flwyddyn ddiwethaf, gyda 30% o’r grŵp hwnnw yn defnyddio bws o leiaf unwaith yr wythnos.
- Dywedodd 29% o bobl eu bod yn gofalu am, neu’n helpu aelodau o’r teulu, ffrindiau, cymdogion neu eraill oherwydd cyflwr iechyd corfforol neu feddyliol hirdymor, anabledd, neu broblemau’n ymwneud â henaint.
- Roedd 92% o’r rheini a gafodd apwyntiad deintyddol y GIG yn y 12 mis diwethaf yn fodlon gyda’r gofal a gawsant. Roedd 41% o’r bobl nad oeddent wedi bod at ddeintydd (y GIG neu breifat) yn y 12 mis diwethaf wedi bod eisiau apwyntiad.
- Roedd 34% o bobl sy’n gweithio yn dweud eu bod yn gweithio o bell am rywfaint neu’r cyfan o’u horiau gwaith, gyda phobl 16 i 24 oed yn llai tebygol o weithio o bell na’r grwpiau oedran hŷn.
- Dywedodd 39% o bobl eu bod yn cymryd rhan mewn gweithgarwch chwaraeon dair gwaith neu fwy yr wythnos, i fyny o 34% y llynedd. Dywedodd 56% eu bod yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ffitrwydd (fel dosbarthiadau ffitrwydd, nofio a rhedeg), roedd 16% yn cymryd rhan mewn chwaraeon neu gemau (fel pêl-droed, rygbi a golff), ac roedd 6% yn cymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored fel cerdded a cheufadu.
Mewn ymateb i’r canlyniadau, dywedodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans:
“Mae canlyniadau’r Arolwg Cenedlaethol yn rhoi cipolwg pwysig inni ar deimladau pobl Cymru am wahanol agweddau o’u bywydau. Bydd yn llywio ein safbwyntiau a’n camau gweithredu wrth inni barhau i weithio i wneud Cymru’n lle gwell i fyw.”