Neges Dydd Gwyl Dewi Prif Weinidog Cymru - 2022
The First Minister’s St David’s Day message – 2022
Neges Prif Weinidog Cymru i bobol Cymry ar Ddydd Gwyl Dewi
Dydd Gŵyl Ddewi hapus i chi.
Wrth i ni ddathlu ein diwrnod cenedlaethol, fe fyddwn ni hefyd yn croesawu’r gwanwyn.
Mae’n amser pan fydd lliw natur yn dechrau ymddangos ar ôl misoedd hir y gaeaf.
Ac amser i edrych ymlaen gyda gobaith at y dyfodol.
Mae hyn yn arbennig o wir eleni, gan ein bod yn gobeithio gadael y gwaethaf o’r pandemig y tu ôl i ni.
Mae hi wedi bod yn ddwy flynedd anodd - ble rydym i gyd wedi gorfod aberthu cymaint.
Hoffwn ddiolch i bawb am bopeth maent wedi ei wneud i ofalu am eraill ac i ddiogelu Cymru.
Wrth inni symud ymlaen, rydym yn gweithio’n galed i greu Cymru gryfach, decach a gwyrddach, lle does neb yn cael ei adael ar ôl.
Gwlad lle nad oes rhaid i bobl ddewis rhwng rhoi bwyd ar y bwrdd neu chynhesu eu cartrefi - a ble mae croeso i bawb.
A Chymru lle gall ein plant gyrraedd eu huchelgais, heb feddwl bod rhaid symud i ffwrdd i lwyddo.
Nod rwy’n siŵr y byddai Dewi Sant wedi cytuno â nhw.
Ble bynnag yr ydych chi yn dathlu Dydd Gwyl Dewi eleni, gadewch i ni gyd wneud y pethau bychain yna all wella diwrnod rhywyn arall a chodi gwen.
Mwynhewch y dathliadau - Dydd Gŵyl Ddewi hapus i chi.