English icon English

Newidiadau i brofion COVID-19 mewn ysbytai

Testing changes for COVID-19 in hospital settings

Mae’r dull profi ar gyfer COVID-19 mewn ysbytai yng Nghymru wedi cael ei ddiweddaru, gan fod y brechlynnau wedi bod yn effeithiol dros ben wrth leihau’r risg o gael salwch symptomatig, clefyd difrifol, mynd i’r ysbyty, a’r risg o farwolaeth.

Yn ogystal â’r brechlyn, mae triniaethau gwrthfeirol newydd wedi helpu i leihau difrifoldeb y clefyd, yn arbennig i’r rheini sydd fwyaf tebygol o’i gael yn wael.

Y gobaith yw y bydd y newidiadau yn cefnogi strategaethau lleihau risg byrddau iechyd a rhoi hwb sylweddol i ofal cyffredinol a gofal brys mewn ysbytai, yn ogystal â llif cleifion drwy driniaethau ysbyty ac, i rai, wrth eu rhyddhau i ofal cymdeithasol.

Gallai hyn gael effaith gadarnhaol ar y sector iechyd a gofal cymdeithasol cyfan, sydd wedi bod dan ‘bwysau eithriadol’ yn yr wythnosau diwethaf yn ôl y Gweinidog Iechyd. Bydd y newidiadau hyn yn cael eu gwneud i brofion cyn derbyn cleifion i’r ysbyty ar gyfer triniaethau dewisol, derbyniadau ar gyfer gofal heb ei drefnu, profion ar ôl derbyn cleifion i’r ysbyty ar gyfer cleifion asymptomatig a symptomatig, a threfniadau ar gyfer profi ar ôl rhyddhau cleifion.

Caiff y newidiadau profi hyn eu gwneud er mwyn helpu’r byrddau iechyd i gydbwyso risgiau COVID-19 gyda’r angen i ddarparu gofal iechyd cyffredinol a brys yn ddiogel, yn ogystal â’r effaith y mae trefniadau profi yn eu cael ar ofal cleifion unigol.

Mae’r canllawiau newydd yn seiliedig ar y dystiolaeth wyddonol ac arbenigol orau sydd ar gael ar hyn o bryd o ran iechyd y cyhoedd, ond mae hefyd yn cydnabod pa mor bwysig yw gwneud penderfyniadau’n lleol, gan ddibynnu ar risgiau megis cyfraddau trosglwyddiad nosocomiaidd, cyfraddau trosglwyddo yn y gymuned, neu pa mor agored i niwed yw cleifion.

Bydd profion cyn derbyn cleifion yn parhau, ond bydd y math o brawf a ddefnyddir yn seiliedig ar risg unigol y claf o’r haint.

Bydd y newidiadau i brofion yn golygu y bydd cleifion asymptomatig sy’n cael llawdriniaeth neu gemotherapi yn cael eu profi gan ddefnyddio profion PCR neu Brofion Pwynt Gofal (POCT) 72 awr cyn iddynt gael eu derbyn, a gofynnir iddynt hunanynysu tan eu triniaeth.

I rai cleifion asymptomatig risg isel sy’n cael eu derbyn ar gyfer triniaethau risg isel, efallai y bydd Byrddau Iechyd yn penderfynu bod prawf llif unffordd negatif pan fyddant yn cael eu derbyn, neu ychydig cyn hynny, yn ddigonol.

Gwneir newidiadau hefyd i brofion adeg derbyniadau heb eu trefnu, gyda chleifion sydd â symptomau anadlol yn cael eu profi am amrywiaeth o glefydau (COVID-19, y ffliw, feirws syncytiol anadlol (RSV) o leiaf) ar un swab PCR neu POCT.

Dylai cleifion heb symptomau anadlol gael eu profi am COVID-19 yn unig, gan ddefnyddio prawf llif unffordd pan cânt eu derbyn.

Gwneir newidiadau hefyd i brofion asymptomatig. Yn unol â’r newidiadau ar gyfer cyhoedd ac mewn lleoliadau gofal, ar ôl derbyn cleifion, ni cynghorir gwneud profion asymptomatig arferol pellach oni bai y penderfynir ar lefel leol bod angen hynny.

Bydd profion i bobl symptomatic yn parhau, wrth i gleifion sy’n datblygu symptomau gael eu profi gyda phrofion PCR neu POCT ar gyfer COVID-19, y ffliw, feirws syncytiol anadlol (RSV) neu brawf amlddadansoddol clinigol llawn.

Caiff byrddau iechyd eu hannog i weithio gyda darparwyr cartrefi gofal ar drefniadau profi wrth ryddhau cleifion.

Gellir tybio nad yw cleifion a brofodd yn bositif ar gyfer COVID wrth iddynt, neu ers iddynt gael eu derbyn i’r ysbyty, bellach yn heintus pan:

  • Mae’r symptomau wedi’u trin, does dim twymyn, A
  • phan bydd 10 diwrnod wedi mynd heibio NEU
  • defnyddir protocol profi a benderfynir yn lleol i leihau’r cyfnod hunanynysu o 10 diwrnod ar gyfer cleifion sy’n bodloni’r meini prawf clinigol uchod. Gall y profion hyn fod yn brofion llif unffordd neu’n brofion canfod antigenau cyflym eraill. Dylai cleifion gael dau brawf negatif 24 awr ar wahân, yn ogystal â dangos gwelliant clinigol fel y nodir uchod, cyn rhoi’r gorau i hunanynysu a chael eu rhyddhau.

Dylai cleifion asymptomatig nad ydynt wedi profi’n bositif am COVID yn flaenorol gael eu profi o fewn 24 awr o’r adeg pan y bwriedir eu rhyddhau i gyfleuster gofal. Os na fydd profion llif unffordd ar gael, gellir defnyddio profion PCR/POCT cyflym i brofi ar gyfer COVID-19.

Caiff y newidiadau i brofi mewn ysbytai eu gwneud nawr oherwydd, yn ystod cyfnodau pan ceir nifer uchel o achosion o COVID-19 yn y gymuned, effaith gymharol fach y mae hyn wedi’i chael ar nifer y derbyniadau i’r ysbyty a marwolaethau, ac mae nifer y marwolaethau sy’n gysylltiedig â throsglwyddiad nosocomiaidd hefyd wedi gostwng yn sylweddol.

Mae staff gofal iechyd sy’n gweithio gyda chleifion yn parhau i gael eu cynghori i wneud profion llif unffordd ddwywaith yr wythnos, ond mae’r cyngor hwn yn cael ei adolygu’n rheolaidd.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan: “Nid yw’r pandemig wedi diflannu, ac rydym yn dal i ddysgu i fyw gyda COVID-19, ond mae’r sefyllfa bresennol o ran iechyd y cyhoedd yn ein galluogi ni i wneud newidiadau priodol i’r drefn brofi sy’n cefnogi Byrddau Iechyd i weithredu’r strategaethau atal a rheoli heintiau angenrheidiol a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar ofal cyffredinol a gofal brys.

“Rydyn ni’n gwneud y newidiadau hyn ar sail y dystiolaeth wyddonol ac arbenigol orau sydd ar gael ar hyn o bryd o ran iechyd y cyhoedd; newidiadau sy’n caniatáu ar gyfer penderfyniadau lleol i gefnogi’r gofal gorau posibl i gleifion.

“Diolch i’n rhaglen frechu anhygoel, mae’r risg bod y Gwasanaeth Iechyd yn cael ei orlethu bellach wedi gostwng yn sylweddol, a gallwn wneud newidiadau i’r drefn brofi o fewn cyd-destun mesurau atal a rheoli heintiau eraill.”

Nodiadau i olygyddion

Infection prevention and control for seasonal respiratory infections in health and care settings (including SARS-CoV-2) for winter 2021 to 2022 guidance is issued jointly by the Department of Health and Social Care (DHSC), Public Health Wales (PHW), Public Health Agency (PHA) Northern Ireland, NHS National Services Scotland, UK Health Security Agency (UKHSA) and NHS England as official guidance. The guidance is published on their behalf by UKHSA.

The approach to testing in hospital settings is subject to ongoing review and has recently been updated to reflect changes to the joint four nations guidance on infection prevention and control (IPC) for seasonal respiratory infections and

Infection prevention and control for seasonal respiratory infections in health and care settings (including SARS-CoV-2) for winter 2021 to 2022 - GOV.UK (www.gov.uk)

 

 

The hospital patient testing framework for Wales is summarised below:

 

Symptomatic / Asymptomatic

 

Test

Timing

Pre-admission

Asymptomatic Pre-surgical / chemotherapy

NAAT

LFD

NAAT - 72 hours before admission and self-isolation or LFD on admission for low risk patients and pathways

Asymptomatic

Non-surgical / chemotherapy

LFD

LFD on day of admission

Unscheduled admission

 

Symptomatic

NAAT*

On admission.

If negative, further testing determined by clinical state

Asymptomatic

LFD or NAAT

On admission.

Post admission testing of inpatients

 

Symptomatic

NAAT*

 

Asymptomatic

N/A

No further routine asymptomatic testing unless required on basis of a local decision.

Pre discharge to closed setting

Asymptomatic but COVID positive on or since admission

Possible

LFD or NAAT

Assume non-infectivity when:

·         Symptoms have resolved, PLUS

·         20 days have elapsed, OR

·         10 days have elapsed with either a negative LFD or a negative or low positive NAAT.

Asymptomatic and not COVID positive within admission

LFD or NAAT

Within 24 hours of planned discharge to care facility.

* NAAT (Nucleic acid amplification test) for SARS-CoV2, Influenza, RSV (full multiplex as clinically indicated)