NEWYDD Deifio Dwfn Bioamrywiaeth yn annog Llywodraeth Cymru i dreblu’r gwaith o adfer mawndiroedd fel rhan o’r addewid i adfer natur
NEW Biodiversity Deep Dive prompts Welsh Government to triple peatland restoration in nature recovery promise
HEDDIW mae ‘Deifio Dwfn Bioamrywiaeth’ dan arweiniad arbenigwr - a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru i asesu’r ffordd orau o gyflymu adferiad byd natur ar draws y tir a’r môr - wedi nodi ei argymhellion. Mewn ymateb cyflym, treblodd Llywodraeth Cymru ei thargedau adfer mawndiroedd gan addo camau pellach i adfer bywyd gwyllt a phlanhigion Cymru.
Mae colli bioamrywiaeth a dymchweliad ecosystemau yn fygythiad mawr i ddynoliaeth. Mae adfer ein byd naturiol yn hanfodol ar gyfer y gwasanaethau am ddim y mae ecosystemau cymhleth yn eu darparu i ni - boed hynny'n ddŵr ffres i'w yfed neu'n briddoedd iach i'n bwyd dyfu ynddynt.
Fel llawer o’r byd datblygedig, yng Nghymru, mae colli coedwigoedd, ysbeilio moroedd, a’r llygredd a achosir gan weithgarwch dynol wedi arwain at ddiflaniad tua hanner bywyd anifeiliaid a phlanhigion Cymru*.
Er mwyn mynd i'r afael â hyn, mae'r argymhellion yn canolbwyntio ar nod '30 erbyn 30' y Cenhedloedd Unedig, sy'n anelu at warchod a rheoli 30% o amgylchedd morol y blaned a 30% o dir y blaned yn effeithiol erbyn 2030. Mae’r Deifio Dwfn yn cael ei ryddhau cyn Cynhadledd nodedig y Partïon (COP15) y Cenhedloedd Unedig yng Nghanada ym mis Rhagfyr, lle bydd arweinwyr byd-eang yn cyfarfod i gytuno ar dargedau i frwydro yn erbyn yr argyfwng natur.
Cyhoeddodd y Gweinidog heddiw hefyd ei bod yn sefydlu gweithgor arbenigol annibynnol i fonitro cynnydd Cymru yn erbyn y targedau.
Mae’r Deifio Dwfn Bioamrywiaeth yn pennu’r argymhellion canlynol:
- Trawsnewid portffolio safleoedd gwarchodedig Cymru fel ei fod wedi’i gysylltu’n well, yn fwy ac yn fwy effeithiol fel bod planhigion a bywyd gwyllt yn gallu teithio ac addasu i newid yn yr hinsawdd
- Creu rhwydwaith o Ardaloedd Enghreifftiol Adfer Natur ar draws ystod o wahanol gynefinoedd lled-naturiol a nodi cyfleoedd ar gyfer Mesurau Cadwraeth Eraill Seiliedig ar Ardal (OECMs)
- Cynyddu ôl troed y rhwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig
- Datgloi potensial tirweddau dynodedig (Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol) fel eu bod yn darparu mwy ar gyfer natur
- Sicrhau bod penderfyniadau cynllunio tir a morol yn ystyried bioamrywiaeth a bod penderfyniadau da yn cael eu cymell
- Adeiladu sylfaen gref ar gyfer cyflawni yn y dyfodol drwy feithrin gallu, newid ymddygiad, codi ymwybyddiaeth a datblygu sgiliau
- Datblygu ac addasu fframweithiau monitro a thystiolaeth i fesur cynnydd yn erbyn 30 erbyn 30
Wrth siarad o Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru lle cyfarfu panel o academyddion ac ymarferwyr byd natur gorau’r wlad i drafod y Deifio Dwfn, addawodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, y byddai’n troi cyngor yn weithredu, wrth iddi alw am ymdrech ‘Tîm Cymru’ i cyrraedd y targed o '30 erbyn 30'.
Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:
“Os byddwn ni’n rhoi help llaw i fyd natur mae’n dychwelyd y rhodd sawl gwaith.
“Mae’r Deifio Dwfn Bioamrywiaeth heddiw yn ein helpu ni i ailfeddwl ar fyrder am ein perthynas ni â byd natur a sut i wneud y dewisiadau gorau nesaf sydd o fudd i ni a chenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru.
“Dyma pam ein bod ni, gyda’r Gweinidog Materion Gwledig, yn treblu ein targedau adfer mawndiroedd i roi hwb i bryfed ac adar a dod â sicrwydd i’n cyflenwad dŵr croyw yng Nghymru.
Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi dweud y bydd y camau brys a weithredir dros y degawd nesaf yn pennu pa mor ddifrifol yw’r argyfyngau hinsawdd a natur.
Meddai’r Gweinidog wedyn: “Mae arnom ni angen ymdrech Tîm Cymru i ysgogi degawd o weithredu pendant fel ein bod yn gallu atal y dirywiad mewn bioamrywiaeth a rhoi hwb i’r gwaith o adfer ein hecosystemau i’w hen ogoniant. Mae ein hiechyd, ein hapusrwydd a’n dyfodol yn dibynnu ar hyn.”
Dywedodd aelod o RSPB Cymru a’r panel deifio dwfn bioamrywiaeth, Sharon Thompson:
“Wrth i ni nesáu at Uwchgynhadledd Bioamrywiaeth COP15 ym Montreal ym mis Rhagfyr, lle rydyn ni eisiau i arweinwyr byd-eang gytuno ar dargedau uchelgeisiol i adfer byd natur, ni allai’r Deifio Dwfn yma fod wedi’i gynnal ar amser pwysicach. Rydyn ni mewn Argyfwng Natur a Hinsawdd, a gyda’r potensial o fygythiadau gwirioneddol sylweddol i fyd natur mewn mannau eraill, mae’n hollbwysig gwneud yn siŵr bod argymhellion y Deifio Dwfn yn cael eu rhoi ar waith ar frys yng Nghymru.”