English icon English

Nifer y busnesau sy'n eiddo i weithwyr yng Nghymru yn agosáu at 100

Number of employee-owned businesses in Wales nears 100

Mae manteision busnesau sy'n cael eu prynu gan weithwyr yn cael eu dathlu – wrth i nifer y busnesau sy'n eiddo i weithwyr yng Nghymru agosáu at 100.

Mae heddiw yn Ddiwrnod Perchnogaeth y Gweithwyr ac mae ymchwil yn dangos bod busnesau sy'n eiddo i weithwyr yn perfformio'n arbennig o gryf, gyda gweithwyr yn dangos mwy o ymgysylltiad ac ymrwymiad.

Mae'r buddion masnachol hefyd dod yn fwyfwy poblogaidd, ac entrepreneuriaid yn creu busnesau newydd, i helpu i ddenu a gwobrwyo gweithwyr talentog a sbarduno twf busnes.

Mae nifer y busnesau sy'n eiddo i weithwyr yng Nghymru bellach yn 95, sy'n llawer mwy na'r nifer yr ymrwymwyd iddo yn y Rhaglen Lywodraethu i ddyblu'r nifer yng Nghymru a chyrraedd 74 erbyn 2026.

Mae gwasanaeth Busnes Cymdeithasol Cymru a Busnes Cymru a ddarperir gan Lywodraeth Cymru yn cynnig cyngor arbenigol i gefnogi pryniannau gan weithwyr, gyda chymorth pwrpasol wedi’i ariannu’n llawn ar gael i helpu perchnogion busnesau i benderfynu ai perchnogaeth gan y gweithwyr a chynlluniau cyfranddaliadau yw’r opsiwn iawn i’w busnes.

Un cwmni sy'n derbyn cymorth o'r fath yw Grŵp Hyfforddiant Cambrian – un o ddarparwyr prentisiaethau a hyfforddiant galwedigaethol arweiniol Cymru.

Sefydlwyd y cwmni o'r Trallwng, a nododd 30 mlynedd o fusnes trwy ddod yn eiddo i weithwyr yn gynharach eleni, yn 1995 fel is-gwmni i Twristiaeth Canolbarth Cymru i ddarparu sgiliau galwedigaethol a lletygarwch fel rhan o ddatblygiad sector twristiaeth y rhanbarth.

Erbyn hyn mae'n cyflogi 65 o staff ac mae wedi ehangu ei raglenni dysgu seiliedig ar waith, sgiliau a phrentisiaethau i ystod o sectorau eraill, gan gynnwys gweithgynhyrchu, manwerthu a gwasanaethau ariannol.

Meddai Arwyn Watkins OBE, o Hyfforddiant Cambrian :

"Mae ennill statws Ymddiriedolaeth Perchnogaeth gan y Gweithwyr (EOT) yn gam arwyddocaol yn ein taith. Mae ein gweithwyr wrth wraidd popeth a wnawn, ac mae'r cam hwn yn sicrhau bod ganddynt ran uniongyrchol yn ein llwyddiant parhaus.

"Ysgogwyd y penderfyniad i symud tuag at EOT yn hytrach na dewis gwerthiant masnachol gan yr awydd i gynnal diwylliant, gwerthoedd ac ymrwymiad y cwmni i ansawdd dros y tymor hir."

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:

"Trwy wella lles gweithwyr a boddhad swydd, mae'r model perchnogaeth gan y gweithwyr yn chwarae rhan allweddol o ran cryfhau'r sylfeini y mae pob busnes llwyddiannus wedi'i adeiladu arnynt.

"Mae'r manteision profedig yn cynnwys rhoi mwy o reolaeth i weithwyr dros eu dyfodol eu hunain, a rhoi tawelwch meddwl i berchnogion busnes bod dyfodol eu busnes mewn dwylo diogel, a bod dyfodol eu gweithwyr gwerthfawr wedi cael ei ddiogelu yn y gymuned y cafodd y busnes ei feithrin ynddi.

"Rwy'n annog mwy o fusnesau i archwilio'r manteision sydd ar gael drwy Busnes Cymru a Busnes Cymdeithasol Cymru, er mwyn sicrhau bod cwmnïau Cymru yn aros mewn dwylo Cymreig."