English icon English

Nifer yr athrawon dan hyfforddiant cyfrwng Cymraeg newydd yn codi i 27% o'r cyfanswm

Number of new Welsh-medium student teachers rises to 27% of total

Heddiw mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’r data diweddaraf am athrawon dan hyfforddiant yng Nghymru.

Mae’r data blynyddol am y rhai a ddechreuodd ar gyrsiau Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) a arweiniodd at Statws Athro Cymwysedig (SAC) yn ystod blwyddyn academaidd 2020/21. Cyrsiau AGA sy'n arwain at SAC yw'r prif lwybr i ddod yn athro yng Nghymru.

Mae'r data'n cynnwys athrawon dan hyfforddiant mewn prifysgolion yng Nghymru a hefyd myfyrwyr o Gymru sy'n astudio ledled y DU.

Cynyddodd nifer y myfyrwyr sy’n hyfforddi i addysgu yn y Gymraeg am yr ail flwyddyn yn olynol, yn dilyn gostyngiad o bum mlynedd rhwng 2013/14 a 2018/19.

Roedd 455 o fyfyrwyr yn hyfforddi i addysgu yn y Gymraeg yn 2020/21, mwy na dwywaith a hanner y nifer yn 2018/19, sef 175 o fyfyrwyr. Dechreuodd 27% o fyfyrwyr newydd ar gyrsiau a oedd yn eu galluogi i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn 2020/21, o gymharu ag 17% chwe blynedd yn ôl, yn 2014/15.

Ddydd Mawrth, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynllun 10 mlynedd i gynyddu nifer yr athrawon Cymraeg eu hiaith.

Roedd nifer yr hyfforddeion ysgolion cynradd newydd a ddechreuodd ar gyrsiau AGA yng Nghymru yn uwch na’r dyraniad am y tro cyntaf ers chwe blynedd, er bod cyfanswm y rhai yn dechrau ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd ychydig yn is, sef 1,680 o fyfyrwyr, yn erbyn dyraniad o 1,727. Y dyraniadau yw nifer y newydd-ddyfodiaid sydd eu hangen i fodloni'r galw am athrawon yn y dyfodol.

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg a Addysg:

“Rwy’n croesawu’r cynnydd mewn recriwtio i Addysg Gychwynnol Athrawon. Mae gan y sector lawer i fod yn falch ohono, yn enwedig darparu rhaglenni AGA o ansawdd uchel yng nghanol pandemig byd-eang.

“Mae’n arbennig o braf gweld canran y myfyrwyr sy’n hyfforddi i addysgu yn y Gymraeg yn cynyddu, i 27% o’r cyfanswm. Bydd ein cynllun gweithlu cyfrwng Cymraeg 10 mlynedd yn adeiladu ar hyn, gan wneud mwy fyth i ddenu siaradwyr Cymraeg uchelgeisiol i’n gweithlu addysgu.

“Rhaid trin ffigurau cyfanswm 2020/21 yn ofalus, wrth i ni aros i weld effaith hirdymor Covid-19 ar ffigurau recriwtio athrawon. Fodd bynnag, byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid AGA i ddenu mwy fyth o athrawon gwych i’r proffesiwn.”