Nifer yr ymwelwyr â safleoedd Cadw ar y trywydd cywir i adfer yn llawn ar ôl Covid
Visitor numbers to Cadw sites on track to full recovery post-Covid
- Cafwyd dros 1.1 miliwn o ymweliadau â 23 o safleoedd â staff Cadw rhwng Ebrill 2022 a Mawrth 2023.
- Mae nifer yr ymwelwyr â safleoedd â staff Cadw wedi adfer i 92% o'r lefelau cyn COVID
- Amcangyfrifir hefyd fod ymhell dros 1 miliwn o ymweliadau wedi cael eu gwneud â safleoedd heb staff Cadw.
- Mae'r incwm, gan gynnwys ymweliadau â safleoedd Cadw, wedi adfer i’r lefelau cyn-COVID, sef £9.6m ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2023
Mae nifer yr ymwelwyr â safleoedd â staff Cadw wedi cynyddu’n sylweddol yn y flwyddyn ariannol 2022/23, gan gyrraedd 92% o'r lefelau cyn COVID ac mae rhai safleoedd bellach yn denu mwy o ymwelwyr nag oeddent cyn COVID.
Castell Conwy yw'r safle mwyaf poblogaidd o hyd gan groesawu 227,000 o ymweliadau yn y flwyddyn ddiwethaf, sy’n gynnydd o 5% o’i gymharu â’r lefelau cyn COVID. Fodd bynnag, gwelwyd y cynnydd mwyaf ym Mhalas Esgob Dewi Sant a welodd gynnydd o 49% yn nifer yr ymweliadau o’i gymharu â’r lefelau cyn COVID.
Yn dilyn gwaith mawr ac yn sgil creu gwell cyfleusterau i ymwelwyr yng Nghastell Caernarfon a gwaith sy’n parhau yng Nghastell Caerffili, mae Cadw yn disgwyl blwyddyn eithriadol yn 2023. Yn wir, mae’r arwyddion cynnar yn dangos bod nifer yr ymwelwyr dros wyliau'r Pasg eleni yn fwy na'r nifer yn ystod y cyfnod cyfatebol cyn y pandemig.
Mae’r adferiad llwyddiannus wedi arwain at gynnydd sylweddol yn incwm masnachol Cadw, sydd bellach ar ei lefel uchaf erioed o £9.6m o'i gymharu â'r lefel cyn COVID o £8m.
Mae'r incwm hwn yn helpu i gefnogi gwaith hanfodol Cadw i warchod a diogelu ein treftadaeth ragorol er lles cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol. Er enghraifft, mae Cadw newydd gwblhau gwaith cadwraeth mawr yng Nghastell Coety, Pen-y-bont ar Ogwr ac Abaty Castell-nedd. Yn ystod yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Cadw eu bod wedi prynu’r unig lys gweladwy sydd wedi goroesi o Oes y Tywysogion Cymreig canoloesol yn Llys Rhosyr Llys Rhosyr – Llys Brenhinol Tywysogion Gwynedd yn dod yn heneb rhif 131 Cadw | LLYW.CYMRU.
Ym mis Mawrth, pasiodd y Senedd ddeddfwriaeth newydd arloesol a fydd yn gwneud y gyfraith sy'n helpu i gadw a gwarchod ein safleoedd hanesyddol o bwysigrwydd cenedlaethol yn fwy hygyrch ac yn fwy dealladwy.
Wrth groesawu'r ffigyrau, dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden:
"Rwy'n falch o weld bod cynifer obobl wedi ymweld â safleoedd gwych Cadw. Ar ôl ychydig o flynyddoedd eithriadol o anodd, rydym ar y trywydd iawn i wneud adferiad llawn a thorri sawl record.
“Rhoddwyd trefniadau llywodraethu newydd ar waith ar gyfer Cadw yn 2017 ac yn ddiweddar cyhoeddais fod Roger Lewis wed’i benodi i arwain grŵp gorchwyl a gorffen i adolygu'r rhain er mwyn ceisio sicrhau eu bod hyd yn oed yn fwy cadarn. Y bwriad yw galluogi i Cadw barhau i wneud ei waith hanfodol mewn ffordd effeithiol tra'n parhau'n rhan o Lywodraeth Cymru.
"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i warchod a diogelu safleoedd hanesyddol cyfoethog Cymru er budd cenedlaethau’r presennol a chenedlaethau’r dyfodol.”