English icon English
Endometriosis Nurses - CNO - Minister-2

Nyrsys endometriosis newydd yng Nghymru i godi ymwybyddiaeth a gwella diagnosis

New endometriosis nurses to improve awareness and diagnosis in Wales

Mae nyrsys endometriosis newydd wedi cael eu penodi ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru i wella gwasanaethau ar gyfer y cyflwr cronig sy’n effeithio ar un o bob 10 menyw.

Mae’r swyddi’n cael eu hariannu gan fuddsoddiad o £1m y flwyddyn gan Lywodraeth Cymru fel rhan o gynlluniau ehangach i wella gwasanaethau iechyd menywod.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan: “Mae endometriosis yn effeithio ar un o bob deg menyw. Gall achosi poen difrifol ac effeithio’n ddirfawr ar ansawdd bywyd y fenyw sy’n dioddef o’r cyflwr.

“Mae ein Grŵp Gweithredu ar Iechyd Menywod yn gwneud gwaith hanfodol i helpu iechyd menywod, a bydd penodi nyrs endometriosis benodol ym mhob bwrdd iechyd yn helpu i godi ymwybyddiaeth a gwella diagnosis a thriniaeth ar gyfer y cyflwr difrifol hwn, ledled Cymru.

“Rydw i wedi clywed straeon gofidus am fenywod sydd â’r cyflwr hwn yn cael y diagnosis anghywir, ac yn peidio â chael eu cymryd o ddifrif. Rwy’n benderfynol y bydd menywod Cymru yn cael y gwasanaeth y maen nhw’n ei haeddu.”

Cafodd y penodiadau eu gwneud drwy’r Grŵp Gweithredu ar Iechyd Menywod, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2018, gyda chyllideb o hyd at £1m y flwyddyn i gyflwyno cynlluniau i wella gwasanaethau iechyd menywod.

Mae’r holl nyrsys bellach yn eu swyddi, a byddant yn treulio amser gyda chleifion a chlinigwyr i wella gwasanaethau. Byddant hefyd yn gweithio gyda’i gilydd i rannu arferion da a sicrhau bod gwasanaethau’n gyson ar draws Cymru.

Yn ogystal â hynny, mae’r Grŵp Gweithredu wedi datblygu gwefan benodol i gleifion a nyrsys ei defnyddio. Mae Endometriosis Cymru yn cynnwys straeon personol menywod ar draws Cymru, ac offeryn tracio symptomau a allai gael ei ddefnyddio gan gleifion a chlinigwyr i gyflymu’r broses o gael diagnosis a thriniaeth.

Yn ystod wythnos ymwybyddiaeth o Endometriosis (3-9 Mawrth), cyfarfu’r y Gweinidog Iechyd a’r Phrif Swyddog Nyrsio Cymru, Sue Tranka â chwech o’r nyrsys newydd Jo Kitt  o Aneurin Bevan, Beth Pucella o Gwm Taf, Sam Robinson o Hywel Dda, Amanda Price o Powys, Jenny Shaw o Bae Abertawe a Mao Alberto o Gaerdydd. Yn ogystal roedd Lizzie Bruen o Fwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro, sy’n mentora’r nyrsys newydd, wedi mynychu’r digwyddiad hefyd.

Dywedodd Jo Kitt, Nyrs Endometriosis o Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan: “Gall Endometriosis fod yn gyflwr cyfyngol iawn, ond gyda’r gofal iawn, gallwn wella ansawdd bywyd claf yn ddirfawr. Rwy’n edrych ymlaen at gael gweithio gyda’r nyrsys newydd i gyd i rannu arferion gorau ar draws Cymru.”

Ychwanegodd y Gweinidog Iechyd: “Yn y gorffennol, nid yw gwasanaethau iechyd menywod wedi cael eu trin yn gyfartal, ac mae lleisiau menywod wedi cael eu hanwybyddu. Rwy’n benderfynol ein bod yn codi safonau holl wasanaethau iechyd menywod yng Nghymru, ac yn yr haf, byddaf yn cyhoeddi Datganiad Ansawdd yn nodi sut y byddwn yn cyflawni hyn.”