O dan embargo hyd 00:01 Ddydd Llun, 31 Mawrth Llinell Dros Nos: Bil Bysiau
Under strict embargo until 00.01 Monday, 31 March Overnight Line: Bus Bill
Mae disgwyl i Fil newydd gael ei osod yn y Senedd heddiw (Dydd Llun, 31 Mawrth) a fydd, os caiff ei basio, yn newid y ffordd y caiff gwasanaethau bysiau lleol eu cynllunio a’u darparu ledled Cymru.
Trwy Trafnidiaerth Cymru, a thrwy gydweithio agos ag awdurdodau lleol a’r Cyd-bwyllgorau Corfforedig, byddai gwasanaethau bysiau yn cael eu cynllunio a’u cydgysylltu ar lefel genedlaethol a’u darparu’n bennaf drwy gontractau masnachfraint gan weithredwyr o fewn y sector preifat, y trydydd sector a’r sector cyhoeddus