English icon English
Crafters 2

O Gatgyrn i Gwryglau: Cymru'n dathlu ei threftadaeth fyw

From Carnyxes to Coracles: Wales celebrates its living heritage

Gwnaeth corau, seiri maen a chatgyrn Celtaidd serennu fel rhan o ddigwyddiad rhad ac am ddim i ddathlu treftadaeth ddiwylliannol anniriaethol (ICH) yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan ddoe [dydd Iau 20 Tachwedd].

Daeth y digwyddiad â sefydliadau diwylliannol, grwpiau cymunedol ac ymarferwyr treftadaeth ynghyd i ddathlu'r traddodiadau byw - a elwir hefyd yn dreftadaeth ddiwylliannol anniriaethol - sy'n rhan annatod o gymunedau ledled Cymru.

Bydd y dathliad undydd yn arddangos amrywiaeth gyfoethog o dreftadaeth fyw, yn amrywio o grefftau a sgiliau traddodiadol i fynegiannau diwylliannol cyfoes.

Mae treftadaeth ddiwylliannol anniriaethol yn amrywio o draddodiadau ac arferion, i wybodaeth, sgiliau a mynegiannau diwylliannol y mae cymunedau yn eu cydnabod fel rhan o'u hunaniaeth. Yn wahanol i dreftadaeth ffisegol, mae'n byw trwy bobl a'u harferion ac yn esblygu'n gyson.

Dangosodd crefftwyr traddodiadol, gan gynnwys crefftwyr, seiri maen a seiri coed, sgiliau treftadaeth yn Y Gweithdy tra yn yr Atriwm, ymhlith deiliaid y stondinau oedd y Ganolfan Gwryglau Genedlaethol a oedd yn arddangos gwahanol gwryglau traddodiadol Cymreig.

Ymhlith yr uchafbwyntiau o ran y perfformiadau roedd cerddoriaeth a dawns o Gymru, adrodd straeon, dawns llew Tsieineaidd, Côr Meibion Rhisga, QWERIN, cerddwyr stilt Danceblast, a Chôr Ptasie Radio Cymru. Bydd catgorn eiconig Cymru, sef corn siâp S metelaidd anferth yn seiliedig ar yr hyn a ddefnyddiwyd gan y Celtiaid hynafol wrth iddynt fynd i ryfel, hefyd yn cael ei arddangos ac ar waith.

Roedd y digwyddiad hefyd yn gyfle i gyhoeddi bod dros £2 filiwn wedi'i ymrwymo ar gyfer 2025 - 2027 i helpu sefydliadau i adeiladu capasiti a chyflawni Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer Diwylliant. Mae'r cynllun grant Cymorth Gwell i'r Sector Lleol ar gyfer Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd eisoes wedi'i groesawu gan awdurdodau lleol ac ymddiriedolaethau, a bydd o gymorth o ran staff ychwanegol, arbenigedd, a phrosiectau cyffrous – o arddangosfeydd newydd a digideiddio, i well ymgysylltu.

Mae hyn yn adeiladu ar y £11 miliwn mewn grantiau cyfalaf sydd eisoes wedi'u dyfarnu dros y 6 mis diwethaf ers lansio'r Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant, yn ogystal â chynllun refeniw a mentrau wedi'u targedu sy'n cefnogi mynediad at brofiadau diwylliannol i bobl ifanc.

Cynhaliwyd cyfres o sgyrsiau yn y ddarlithfa a oedd yn archwilio treftadaeth fyw o sawl persbectif, gan gynnwys: pwysigrwydd treftadaeth fyw mewn cymunedau gwledig yng Nghymru; sut mae treftadaeth fyw yn amlygu mewn cymunedau diwydiannol ac ôl-ddiwydiannol; mynegi treftadaeth fyw drwy'r celfyddydau, a phwysigrwydd sgiliau treftadaeth.

Trefnwyd y digwyddiad gan Lywodraeth Cymru yn y cyfnod cyn galwad ledled y DU i ymarferwyr ICH, ar ôl i'r DU gadarnhau Confensiwn UNESCO ar ICH y llynedd. Mae Cymru bellach yn gweithio gyda llywodraethau datganoledig ledled y DU a chyda DCMS, gyda'r nod o fapio arferion ICH drwy greu rhestrau a gyflwynir i'w cynnwys gan gymunedau.

Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant:

"Roedd y dathliad hwn yn Sain Ffagan yn arddangosiad gwych o amrywiaeth a bywiogrwydd anhygoel treftadaeth fyw Cymru. O sŵn dychrynllyd y catgyrn i ddwylo medrus ein seiri maen a lleisiau ein corau, gwelsom sut mae treftadaeth ddiwylliannol anniriaethol yn cysylltu ein gorffennol â'n presennol ac yn siapio ein cymunedau.

"Mae'r traddodiadau byw hyn - boed yn grefftau canrifoedd oed neu fynegiant diwylliannol cyfoes - wrth wraidd hunaniaeth Gymreig. Maent yn cael eu cadw'n fyw gan angerdd ac ymroddiad cymunedau ledled Cymru, ac mae'n hanfodol ein bod yn eu cydnabod, eu dathlu a'u cefnogi. Mae'r £2 filiwn yr ydym wedi'i ymrwymo, sy'n ychwanegol at yr £11 miliwn yr ydym eisoes wedi'i ddyfarnu, yn sicr o hyrwyddo ein Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant hyd yn oed yn fwy felly.

"Ar ôl cadarnhau Confensiwn UNESCO ar Dreftadaeth Ddiwylliannol Anniriaethol gan y DU, rydym yn cymryd cam pwysig ymlaen wrth fapio a chadw'r traddodiadau hyn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. I bob pwrpas, bydd hyn yn cael ei arwain gan y gymuned.

"Rwy'n falch bod Cymru'n gweithio ar y cyd â phartneriaid ledled y DU i sicrhau bod ein treftadaeth fyw yn parhau i ffynnu, esblygu ac ysbrydoli."

Dywedodd Prif Weithredwr Amgueddfa Cymru, Jane Richardson:

"Roeddem yn falch iawn o gynnal y digwyddiad hwn yn Sain Ffagan i ddathlu'r agweddau niferus ac amrywiol ar dreftadaeth fyw Cymru. Fel sefydliad diwylliannol arweiniol i Gymru, mae Amgueddfa Cymru yn ysbrydoli dysgu a mwynhad i bawb drwy gasgliad cenedlaethol Cymru a thrwy ddiogelu crefftau a sgiliau traddodiadol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Roedd yn hyfryd gweld cymaint o'r dreftadaeth ddiwylliannol anniriaethol hon sydd wrth wraidd hunaniaeth Gymreig yn cael ei ddathlu yn y digwyddiad hwn."