English icon English

Coeden dderw ifanc yn cael ei rhoi gan bobl Cymru i nodi Jiwbilî Platinwm EM y Frenhines

Oak sapling given by the people of Wales to mark HM The Queen’s Platinum Jubilee

Bydd Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru yn ymweld â Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru i dderbyn coeden dderw ifanc gan Brif Weinidog Cymru, fel rhodd gan bobl Cymru i EM y Frenhines i nodi'r Jiwbilî Platinwm.

Syrthiodd Derw Pontfadog, a gafodd ofal gan genedlaethau o deulu Williams ar Fferm Cilcochwyn ger y Waun, yn ystod storm yn 2013.  

Ar y pryd, honnwyd ei bod yn un o'r coed derw mwyaf a hynaf yn y byd.  

Yn 2013, llwyddodd Ystâd y Goron i luosogi coeden wreiddiol Derw Pontfadog a phlannu coeden ym Mharc Mawr Windsor, sy'n parhau i fod ar yr ystâd.  

Cafodd pum Derw Pontfadog arall eu himpio o'r goeden hon, sydd wedi eu rhoi yn ôl i Gymru drwy Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, lle byddant yn cael eu cadw tan y tymor plannu nesaf. 

Bydd dwy goeden ifanc yn cael eu plannu mewn lleoliadau Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yng ngogledd ddwyrain Cymru. Un yng Nghastell y Waun ac un arall yn y coetiroedd coffa yn Erddig, yn ôl cais y Prif Weinidog.  Bydd y coed ifanc eraill yn cael eu plannu yn yr ardd fotaneg.  

Bydd y goeden ifanc sy'n cael ei phlannu yn y Waun yn cael ei rhoi i EM y Frenhines ar gyfer ei Jiwbilî Platinwm gan bobl Cymru. 

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford:  

"Mae'n anrhydedd mawr gallu cyflwyno'r goeden dderw ifanc i EM y Frenhines i nodi'r Jiwbilî Platinwm.  

"Mae gan y coed hanes anhygoel ar ôl cael eu himpio o Dderw mor fawreddog a hynafol.  

"Rwy'n gobeithio y bydd y coed yn tyfu ac yn datblygu'n goed derw gwych a fydd yn sefyll am ganrifoedd i ddod". 

Bydd y lleill yn aros yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru fel rhan o'u cynlluniau ar gyfer yr ardd goed i ddiogelu cronfa enynnau'r dderwen eiconig. 

Dywedodd Alex Summers, Curadur Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru: 

"Roedd derw Pontfadog yn un o'r coed derw hynaf yn Ewrop yn tua 1200 mlwydd oed pan syrthiodd mewn storm yn y diwedd. 

"Mae'n gyffrous i'r Ardd Fotaneg gael y cyfle i fod yn warcheidwaid y coed ifanc hyn wrth iddynt ddychwelyd i Gymru. 

"Wrth i ni ddatblygu Gardd Goed Genedlaethol ar y safle bydd y coed ifanc hyn yn ein cysylltu â threftadaeth naturiol y genedl, ynghyd â'r lleill a blannwyd ledled y wlad". 

Dywedodd Rebecca Williams, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru:   

"Fel elusen gadwraeth, rydym yn gwybod bod coed hynafol fel Derw Pontfadog yn rhan allweddol o'n treftadaeth gyffredin. 

"Rydym yn falch o ddarparu cartref i ddau o'r coed ifanc pwysig hyn yng Nghastell y Waun ac yn y coetir coffa yn Erddig. 

"Rydym yn gobeithio gweld y coed ifanc hyn yn tyfu i fod yn goed hynafol y dyfodol". 

Dywedodd Paul Sedgwick, Dirprwy Barcmon a Rheolwr Gyfarwyddwr Windsor & Rural yn Ystâd y Goron: 

"Mae Ystâd Windsor yn gartref i un o'r casgliadau mwyaf o goed Derw a Ffawydd hynafol a hynod yng Ngogledd Ewrop, gan gynnwys Derw Pontfadog sy'n bwysig yn ecolegol a gafodd ei impio o'r goeden wreiddiol ac sydd mor gyfoethog o ran arwyddocâd diwylliannol.  

"Roeddem yn falch iawn o chwarae rhan wrth luosogi a thyfu'r coed derw Pontfadog ifanc hyn ac iddynt gael eu plannu yng Nghymru er mwyn i genedlaethau'r dyfodol eu mwynhau."