First Minister and Cabinet Minister for Rural Resilience and Sustainability pictures at the Royal Welsh Show food hall yesterday 20.07.26

O'r fferm i'r fforc: Cymru'n cyhoeddi cynllun i drawsnewid bwyd y genedl

From farm to fork: Wales announces plan to transform the nation's food

  • Strategaeth newydd i gwmpasu'r system fwyd gyfan o'r fferm i'r fforc 
  • Sefydlu grŵp arbenigol i lunio dyfodol bwyd Cymru 
  • Penodi hyrwyddwr y diwydiant i arwain gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid

Mae Cymru ar fin trawsnewid y ffordd y mae'n meddwl am fwyd, gyda chyhoeddi Strategaeth Fwyd Genedlaethol i Gymru a phenodi Cadeirydd a grŵp arbenigol arfaethedig i lywio'r gwaith o ddatblygu'r strategaeth. 

Gwnaeth y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd y cyhoeddiad heddiw – 21 Gorffennaf – yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru, gan nodi cynlluniau ar gyfer dull trawsnewidiol system gyfan o gysylltu polisïau bwyd, sy'n cwmpasu cynhyrchu, prosesu, manwerthu yn ogystal â sut mae'r bwyd rydyn ni'n ei gynhyrchu yn berthnasol i faterion iechyd, addysg, caffael cyhoeddus a'r economi gylchol. 

Mae Simon Wright, sydd â dros 30 mlynedd o brofiad yn y sector lletygarwch yng Nghymru, wedi'i benodi i gadeirio'r Gweithgor Arbenigol a fydd yn cynghori Llywodraeth Cymru ar ddatblygu'r strategaeth. Ef yw perchennog Wright's Food Emporium yn Llanarthne, ac mae'n arbenigwr ar fwyd a systemau bwyd. Bydd yn arwain sgyrsiau â chynhyrchwyr, busnesau a chymunedau ledled Cymru. 

Mae cadwyn gyflenwi bwyd a diod Cymru yn werth dros £28 biliwn ac mae'n cyflogi un o bob chwech o weithwyr ar draws y wlad. Bydd y strategaeth newydd, sy'n un o ymrwymiadau 100 Diwrnod y Llywodraeth newydd, yn nodi'r hyn sy'n gweithio'n dda a lle mae bylchau yn bodoli. Bydd yn sicrhau bod polisïau bwyd yn gweithio'n well gyda'i gilydd i gefnogi cynhyrchwyr, i sicrhau ein bod yn cadw ac yn ail-fuddsoddi mwy o werth y bwyd o Gymru yng Nghymru, ac i hyrwyddo llythrennedd bwyd a bwyta'n iach. 

Bydd y Gweithgor Arbenigol yn darparu argymhellion ynghylch yr heriau a'r cyfleoedd allweddol sy'n wynebu system fwyd Cymru, yn cynghori ar sut i fesur llwyddiant, i ddatblygu cydweithrediad hirdymor rhwng Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus ehangach a'r diwydiant bwyd a diod. Disgwylir i'r strategaeth derfynol gael ei chyflwyno i'r Gweinidogion yn ystod 2027. 

Dywedodd Llyr Gruffydd, y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd:  

"Mae ffermwyr Cymru yn cynhyrchu bwyd cynaliadwy o ansawdd uchel. Mae ein sector bwyd a diod yn troi'r cynnyrch hwnnw, sydd o'r radd flaenaf, yn amrywiaeth eang o gynhyrchion sy'n cael eu mwynhau ledled Cymru a'u hallforio dramor, gan greu swyddi ac ychwanegu gwerth. Rydyn ni eisiau ychwanegu at y llwyddiant hwnnw.  

"Bydd y strategaeth hon yn dod â'r system fwyd gyfan ynghyd; o'n ffermwyr a'n pysgotwyr i'n manwerthwyr, ysgolion a chymunedau, fel y gallwn ni wneud penderfyniadau gwell, mwy cydgysylltiedig er budd pawb yng Nghymru.  

"Dw i'n falch iawn bod Simon Wright wedi cytuno i arwain y gwaith hwn. Mae ei frwdfrydedd dros fwyd o Gymru a'i wreiddiau dwfn yn y diwydiant yn golygu mai ef yw'r union berson cywir ar gyfer y rôl hon." 

Dywedodd cadeirydd newydd y Gweithgor Arbenigol, Simon Wright: 

"Mae Cymru'n rhagori yn y maes bwyd a diod, ond mae cymaint mwy y gallwn ni ei wneud. Mae hwn yn gyfle gwirioneddol i dorri drwodd a sicrhau ein bod ni'n gwneud pethau'n iawn i'n diwydiant a'n gwlad.  

"Dw i'n croesawu uchelgais y Llywodraeth newydd, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chynhyrchwyr, busnesau a chymunedau i'w gwireddu." 

Nodiadau i olygyddion

IMAGE: First Minister and Cabinet Minister for Rural Resilience and Sustainability pictures at the Royal Welsh Show food hall yesterday 20.07.26