English icon English

Papur wal sy’n cynhesu’r cartref ymhlith y prosiectau arloesol sy’n cael eu treialu yng Nghymru i daclo’r newid yn yr hinsawdd a’r argyfwng costau byw

Wallpaper that heats homes among innovative projects trialled in Wales to tackle climate change and the cost of living crisis

Mae papur wal yn cael ei ddefnyddio i gynhesu datblygiad tai cymdeithasol yng Nghymru fel rhan o dreial sy’n chwilio am ffyrdd fforddiadwy o gadw trigolion yn gynnes heb ddefnyddio rheiddiaduron na phympiau gwres.

Mae system gwresogi graffîn yn edrych ac yn teimlo fel papur wal traddodiadol. Rydych yn ei blygio i mewn i soced yn y tŷ a chan ei fod yn dod mewn pecyn sy’n cynnwys paneli solar a batri clyfar, mae’n lleihau’ch allyriadau ac yn torri’ch costau tanwydd i’r byw. 

Rydych yn ei gosod ar waliau, nenfydau a than loriau ac mae’n anweledig i drigolion. Dyma ddull arloesol a chyflym o gynhesu ystafelloedd unigol sy’n eich galluogi i reoli’ch cyllidebau ynni’n fwy effeithiol.

Prosiect Gwresogi Isgoch Graffîn NexGen yw un o nifer o dreialon sy’n cael eu cynnal gyda chymdeithas dai Cartrefi Melin a chyda chymorth ariannol Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio Llywodraeth Cymru.

Yn ystod ei hymweliad â’r prosiect yn Nhredegar, dywedodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd:

“Mae datgarboneiddio cartrefi’n elfen bwysig iawn o’n taith tuag at Gymru Sero Net erbyn 2050.

“Gyda chostau ar gynnydd, mae gwneud ein cartrefi’n fwy ynni-effeithiol yn delio ag argyfwng yr hinsawdd ac yn helpu teuluoedd i oroesi’r argyfwng costau byw.

“Ychydig dros flwyddyn yn ôl, cyhoeddodd y Prif Weinidog ei fod am i’r amgylchedd a newid hinsawdd fod yn ganolog i holl flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ac wrth i ni weithio i greu Cymru gryfach, tecach a gwyrddach, dwi’n disgwyl ymlaen yn fawr at weld sut y gallai cynnyrch arloesol fel y rhain ein helpu i wireddu ein huchelgais.”

Mae’r system yn defnyddio cyfuniad o wres isgoch tonfedd hir a darfudiad a dim ond dau ddiwrnod neu dri sydd ei eisiau i’w gosod. Mae’n system lawer fwy cost-effeithiol na phwmp gwres.

Mae Cartrefi Melin wedi cydweithio gyda Phrifysgol Abertawe sy’n dilysu perfformiad y dechnoleg.  Mae’r Brifysgol wrthi’n trafod nawr â nifer o landlordiaid cymdeithasol cofrestredig eraill ac awdurdodau lleol sydd wedi dangos diddordeb yn y treialon o’r system gwresogi reiddiol.

Mae Adran Economi Llywodraeth Cymru yn gweithio hefyd â Chyngor Tor-faen a NexGen i chwilio am gyfleoedd i’r cwmni sefydlu ffatri yn yr ardal.

Dywedodd Paula Kennedy, Prif Weithredwr Cartrefi Melin:

“Mae ein trigolion eisoes yn teimlo effeithiau’r argyfwng costau byw a’r argyfwng hinsawdd a dyna pam rydyn ni wedi gosod y nod uchelgeisiol i ni fod yn gymdeithas Sero Net erbyn 2050.

“Rydyn ni’n deall bod rhaid i ni weithredu nawr, felly rydyn ni wedi ymuno â NexGen a chymdeithasau tai eraill i chwilio am ffyrdd newydd gwyrddach a rhatach o wresogi’n cartrefi.

“Byddwn yn dal i weithio gyda nhw i dreialu technolegau newydd all helpu ein trigolion ni, a thrigolion ledled Cymru.  Rydyn ni’n falch hefyd o gael bod yn rhan o’r mewnfuddsoddiad i sefydlu ffatri ac yn disgwyl ymlaen at weld y cyfleoedd a ddaw drwy hynny i Gymru.”