English icon English

Partneriaeth â Llywodraeth Cymru’n datblygu swyddfeydd newydd yng Nghross Hands

Welsh Government partnership brings new office development to Cross Hands

Mae Llywodraeth Cymru ar y cyd â Chyngor Sir Caerfyrddin wedi cefnogi cynllun i adeiladu swyddfeydd newydd o’r ansawdd uchaf yng Nghross Hands, fydd yn helpu i greu swyddi newydd yn yr ardal, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi Vaughan Gething heddiw.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi rhoi grant Datblygu Eiddo o £492,000 i Sterling Developments, cwmni lleol, i’w helpu i ddarparu swyddfeydd masnachol ar Safle Cyflogaeth Strategol Dwyrain Cross Hands.

Mae Safle Cyflogaeth Strategol Dwyrain Cross Hands wedi’i ddarparu drwy fenter ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Caerfyrddin, ac mae’n cynnwys rhaglen fawr o waith seilwaith. Mae cyfanswm o 17 o blotiau datblygu masnachol wedi'u creu i’w gwerthu, gyda sawl plot eisoes wedi'u gwerthu. Caiff ei ddarparu mewn dau gam. Mae'r ail gam wedi'i gefnogi gan fuddsoddiad o £2.4m gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Yn ogystal â rhoi hwb i’r economi leol, bydd y swyddfeydd yn cyfrannu hefyd at uchelgais Llywodraeth Cymru i ddarparu mwy o ofod masnachol parod i fusnesau – i helpu i greu swyddi newydd mewn cymunedau ledled y wlad.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

‘Mae angen safleoedd ac eiddo modern ar fusnesau o bob maint ar draws Cymru er mwyn gallu ehangu a thyfu. Mae hyn yn rhan allweddol o'n Cynllun Gweithredu Economaidd, ein gweledigaeth ar gyfer twf cynhwysol sydd wedi’i adeiladu ar sylfeini cryf, diwydiannau blaengar ar gyfer y dyfodol a rhanbarthau cynhyrchiol.

"Bydd cyhoeddiad heddiw yn ein helpu i wneud hynny, gan roi hwb i economi ranbarthol y De-orllewin wrth i ni i gyd barhau i adfer o'r pandemig.

"Mae'r prosiect hwn yn enghraifft wych o bartneriaeth adeiladol sy’n gweithredu er budd pobl leol. Rwy'n dymuno'n dda i Sterling Developments gyda'u cynllun newydd yng Nghross Hands."

Dywedodd y Cyng Gareth John, Aelod o’r Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:

"Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi ymrwymo i ddarparu'r cyfleusterau gorau, yn y lleoliadau gorau, i fusnesau, er mwyn iddynt allu ffynnu. Dyna pam yr ydym wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, drwy Gyd-fenter Cross Hands, i sicrhau £2.4 miliwn o gyllid yr UE i gyfateb i’n cyfraniad ni o £2.5 miliwn ac i ddatblygu ail gam cynllun Dwyrain Cross Hands, safle cyflogaeth 19 hectar sy'n darparu plotiau gwasanaethu mewn amgylchedd busnes ffyniannus.

"Mae'r datblygiad eisoes wedi denu busnesau newydd i ffynnu gyda photensial i’r safle greu cannoedd o swyddi o ansawdd. Bydd yr ail gam hwn o gynllun Dwyrain Cross Hands yn sicrhau twf economaidd mwy cynaliadwy a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar bobl, busnesau a chymunedau yn yr ardal a'r rhanbarth ehangach.

"Mae'r Grant Datblygu Eiddo a roddwyd i Sterling Developments gan Gyngor Sir Gâr yn ysgogi’r sector preifat i fuddsoddi yn y safle cyflogaeth a bydd yn darparu gofod masnachol o ansawdd uchel i'r farchnad."           

Ychwanegodd Simon Thomas, Cyfarwyddwr Sterling Developments:

"Rydym wedi cynllunio adeilad sy'n ddeniadol o safbwynt pensaernïol ac a fydd yn cyflenwi gofod swyddfa o ansawdd uchel yng Nghross Hands. Bydd yr adeilad newydd yn darparu’r cyfleusterau modern sydd eu hangen ar fusnesau i dyfu a ffynnu. Mae'r gefnogaeth gan Gyngor Sir Gaerfyrddin a Llywodraeth Cymru wedi bod yn allweddol i’r cynllun hwn. Mae Sterling Developments yn falch iawn o gael chwarae eu rhan yn natblygiad y safle cyflogaeth ardderchog hwn yng Nghross Hands."