English icon English
Firing Line Museum -2

Pasbort i ymweld â threftadaeth Cymru – dechreuwch yn ystod Gŵyl Amgueddfeydd Cymru

A passport to unlock Welsh heritage – get started during Welsh Museums Festival

 Mae Gŵyl Amgueddfeydd Cymru yn dychwelyd ar gyfer y gwyliau hanner tymor (dydd Sadwrn 28 Hydref – dydd Sul 5 Tachwedd) gydag wythnos o ddigwyddiadau arbennig i ddathlu hanes a diwylliant amrywiol ein gwlad.

Mae dros 45 o amgueddfeydd mawr a bach ledled Cymru yn cymryd rhan yn yr ŵyl yr wythnos hon, gan gynnig nifer o weithgareddau cyffrous ac amrywiol, am ddim, i deuluoedd yn bennaf – o 'rêf hinsawdd' yn Rhaeadr i weithdy gwneud diodydd iachusol yng Ngheredigion ac adrodd straeon yng Nghaerdydd.

Bydd Her Pasbort | Gŵyl Amgueddfeydd Cymru newydd cyffrous hefyd a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i ymwelwyr a'r amgueddfa i ymweld â chwe amgueddfa - o'u dewis - hyd at fis Ebrill 2024. Unwaith y bydd pob ymweliad wedi'i gwblhau, gall deiliaid pasbort gymeryd rhan mewn raffl arbennig i ennill dau docyn diwrnod yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i'r teulu a chlustffonau Bluetooth diwifr.

Yn y cyfnod cyn yr ŵyl, cafodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden, y cyfle i ymweld ag Amgueddfa Firing Line yng ghastell Caerdydd.

 Mae'r Firing Line yn amgueddfa filwrol sy'n adrodd hanes Gwarchodlu Dragŵn 1af y Frenhines a'r Cymry Brenhinol. Mae'n un o bedair amgueddfa filwrol achrededig yng Nghymru ac mae'n cymryd rhan yng Ngŵyl Amgueddfeydd Cymru.

Bydd llyfryn gweithgareddau Calan Gaeaf newydd sbon ar gael yn y rhan fwyaf o amgueddfeydd sy'n cymryd rhan, gan alluogi ymwelwyr ifanc i edrych ar hanes Calan Gaeaf yng Nghymru ac ar draws y byd gyda gemau a phosau.

Mae Gŵyl Amgueddfeydd Cymru yn bosibl drwy gyllid gan Lywodraeth Cymru. Mae'r ŵyl yn cael ei chynnal gan 45+ o amgueddfeydd ledled Cymru fel rhan o fenter barhaus i gynyddu cyhoeddusrwydd a nifer yr ymwelwyr ar gyfer amgueddfeydd unigol.

Meddai Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden: "Mae Llywodraeth Cymru yn falch iawn o ariannu Gŵyl Amgueddfeydd Cymru drwy Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru.

"Mae'r ŵyl yn gyfle gwych i ni dynnu sylw at gyfraniadau'r sector amgueddfeydd lleol ac arddangos amrywiaeth amgueddfeydd ledled Cymru. Gyda hanner tymor yn digwydd yr wythnos hon mae digon o gyfleoedd i bobl ddarganfod beth sydd gan eu hamgueddfa leol i'w gynnig."

Meddai Rachael Rogers o Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru: "Mae'r ŵyl yn gyfle gwych i arddangos y gwaith anhygoel a wneir gan amgueddfeydd ledled y wlad. Mae ein hamgueddfeydd nid yn unig yn cynnig cyfle i ymwelwyr ddysgu am ein treftadaeth Gymreig, ond maen nhw hefyd yn hyrwyddo'r Gymraeg, ac yn cynnig digwyddiadau am ddim mewn lle cynnes a chroesawgar sy'n bwysicach nag erioed."

Cynhelir Gŵyl Amgueddfeydd Cymru 2023 rhwng 28 Hydref a'r 5 o Dachwedd.  Gellir dod o hyd i restr lawn o amgueddfeydd a rhestrau digwyddiadau sy'n cymryd rhan yn Ein Digwyddiadau | Welsh Museums Festival