Pecyn cymorth newydd ar gyfer gofalwyr di-dâl
New package of support for unpaid carers
Ar Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr, mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Julie Morgan wedi amlinellu sut y bydd cyllid o £7m gan Lywodraeth Cymru yn cefnogi gofalwyr di-dâl, gan gydnabod y cymorth hanfodol y maent yn ei roi i’r bobl y maent yn gofalu amdanynt.
Bydd y pecyn cymorth yn dyrannu £5.5 miliwn i awdurdodau lleol i roi cymorth wedi’i dargedu ar gyfer gofalwyr di-dâl; £1.25m ar gyfer y Gronfa Gymorth i Ofalwyr – y llynedd, rhoddodd y gronfa hon gymorth i bron 6500 o ofalwyr di-dâl a oedd yn cael anhawster ymdopi ag effaith ariannol COVID-19; £20,000 i ariannu sesiynau cymorth llesiant meddyliol ar-lein; a £230,000 ar gyfer Cronfa’r Teulu i gefnogi dros 600 o deuluoedd incwm isel eraill sydd â phlant anabl neu ddifrifol wael.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymrwymo i roi £3 miliwn yn 2021-22 i alluogi i ofalwyr gymryd seibiant o’u rôl ofalu, gan ddod â’r cyfanswm cymorth ariannol ychwanegol ar gyfer gofalwyr di-dâl eleni i £10 miliwn.
Mae enghreifftiau o sut y mae’r arian hwn wedi’i wario hyd yma yn cynnwys;
- £5,000 i ariannu creu cynllun Seibiantgarwch yng Ngwynedd i weithio gyda’r sector gwyliau i gynnig gwyliau rhatach i ofalwyr di-dâl;
- £10,000 i ariannu ailfodelu gofal dydd ar gyfer pobl hŷn yng Ngwynedd, sy’n cynnwys talu am becynnau gofal byr a hyblyg ar gyfer gofalwyr a’r unigolion maent yn eu cefnogi;
- £20,000 i ariannu rhaglen gwnsela chwe wythnos yng Nghonwy i helpu i gefnogi gofalwyr gyda straen personol a gorbryder;
- £40,000 i ariannu rhaglen Cynnal Gofalwyr yng Nghonwy i ddarparu seibiant, diwrnodau allan, a phenwythnosau i ffwrdd yng Nghonwy ar gyfer gofalwyr dros 18 oed;
- £32,000 ar gyfer cynnal cynllun peilot i rieni sy’n ofalwyr ddewis cymorth ymarferol addas ar gyfer eu hanghenion yn Abertawe.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol:
“Gall effaith corfforol ac emosiynol gofalu fod yn llethol. Rydym yn rhannu’r pryderon bod rhai wedi cyrraedd pen eu tennyn oherwydd y pwysau ychwanegol arnynt o ganlyniad i’r pandemig. Mae miloedd o ofalwyr di-dâl wedi cael eu cefnogi ers dechrau’r pandemig ond mae’n hanfodol ein bod yn parhau i helpu gofalwyr di-dâl i ymdopi ag effaith emosiynol ac ariannol COVID-19.”
“Mae’r cyllid a gyhoeddwyd heddiw yn dangos cymaint yw ein gwerthfawrogiad i’r fyddin o ofalwyr di-dâl yng Nghymru sydd wedi mynd yr ail filltir i ofalu am eu ffrindiau a’u teulu. Rydym yn ymrwymo i gynorthwyo gofalwyr i fyw eu bywyd yn ogystal â gofalu.”
“Mae gofalwyr di-dâl yn chwarae rhan hanfodol yn ein cymdeithas, gan helpu i leihau’r pwysau ar y gwasanaeth iechyd drwy sicrhau y gall pobl ddod adref o’r ysbyty a pheidio â dychwelyd yno. Mae eu gwaith eithriadol a’u cyfraniad i ofal cymdeithasol yn rhan o becyn gwerth £42m i gefnogi cynllun y gaeaf ar gyfer y GIG.”
Dywedodd gofalwr di-dâl sy’n mynd i grŵp cymorth dementia yng Ngwynedd:
“Mae’r Grŵp Gofalwyr Dementia wedi rhoi cyfeillgarwch i mi, a chymorth pan oeddwn i’n teimlo ar goll wrth ofalu am fy ngŵr sydd â dementia cymysg. Rwyf wedi gwneud ffrindiau drwy’r cyfarfodydd, wedi gwella fy rhinweddau fel gofalwr, ac wedi cael cyngor ymarferol gan y gofalwyr eraill a’r siaradwyr gwadd sydd wedi ein harwain gyda’u cyngor doeth ar bob math o faterion ymarferol sy’n berthnasol i fod yn ofalwr. Mae boreau dydd Mawrth yn llawer llai unig ers i mi ymuno â’r grŵp.”
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion
Case Study
Dementia Actif Gwynedd |
· Physical and social activities to support people affected by dementia |
Project’s Aims: |
· To deliver Dementia inclusive physical & social activity opportunities in the community & virtually. · Connecting people and reducing loneliness & isolation through participation in physical activity, events & virtually. · Cultivating awareness and breaking down barriers around dementia. · Sign posting to appropriate support services. |
Project Outcomes: |
Supporting people affected by dementia by improving:- · physical function · health and wellbeing · support network · social connections · dementia friendly awareness · digital inclusion For a better quality of life. |
About the person: |
PT is the wife and main carer of JT who is living with dementia and other chronic conditions including COPD. They live in the South Meirionnydd area of Gwynedd, they have no family nearby but have a fairly good network of friends. PT has found caring for her husband and dealing with the dementia very challenging and in particular during the COVID lockdown. However, she is proactive and has developed some coping strategies and sought support from various organisations (Gwynedd Council, Alzheimer’s Society- Dementia Connect & Carers Outreach) and is a valued member of the Dementia Actif Carers Support group. |
What was the situation: |
PT had been experiencing extreme knee pain which used to keep her awake at night. Her sleep patterns would also be disturbed by dealing with her husband’s needs as he often woke up with nightmares or got up out of bed. She was feeling extremely fatigued with lack of sleep and caring for her husband. Following a hospital appointment, she was told that she needed surgery on the knee but that there was a long waiting list. PT felt that she needed to do something to improve the situation to reduce the pain whilst she waited for surgery and so approached a private physiotherapist for treatment. She also wanted to strengthen her legs so that she could ensure a good recovery time following surgery to get back to caring for her husband as soon as possible. PT attended 4 private physiotherapy sessions and the physiotherapist gave her exercises to continue to do on her own at home, which she is motivated to do. The cost of each session was £40 and following receiving information during the Dementia Actif Support group meeting, PT contacted Carers Outreach and was able to claim the full cost for the sessions through the Unpaid Carers Wellbeing Fund. |
Impact |
PT reported that she felt that the physiotherapist sessions and the specific exercises she now does on a regular basis have enables her to move with more ease and has reduced the pain. She was able to have a better night’s sleep and was better able to cope with caring for her husband. PT has shared her experience of receiving the physiotherapy sessions and accessing funds with the other carers attending the Dementia Actif Support Group. Since getting to know PT in the support group she now brings JT to the Dementia Actif classes, he looks forwards to going and has settled down well as a valued member of the group. PT uses the opportunity for a break whilst JT is exercising, she goes to a local café with the other carers she has met through the group. |
Outcomes achieved
|
· Sense of support · Increased resilience · Improved sleep · Decreased pain |