English icon English
WG positive 40mm-3

Pecyn newydd o fesurau i fynd i'r afael ag ail gartrefi yng Nghymru

New package of measures to address second homes in Wales

EMBARGO CAETH: 00:01, Dydd Llun 4 Gorffennaf 2022

Heddiw (dydd Llun 4 Gorffennaf) bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford ac arweinydd Plaid Cymru Adam Price yn cyhoeddi pecyn newydd o fesurau i fynd i'r afael ag ail gartrefi yng Nghymru.

Mewn cynhadledd i'r wasg ar y cyd ddydd Llun byddant yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau sy'n cael eu cymryd i sicrhau bod pawb yn gallu fforddio byw yn eu cymunedau lleol, boed hynny drwy brynu cartref neu drwy rentu.

Bydd y mesurau'n cynnwys newidiadau cynllunio a threth, ynghyd â chynlluniau ar gyfer cynllun trwyddedu newydd ar gyfer llety gwyliau.