English icon English

Pecyn o gymorth wedi'i gyhoeddi i roi hwb i recriwtio athrawon sy’n siarad Cymraeg

Package of support announced to boost Welsh language teacher recruitment

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cyhoeddi bwrsari a grant newydd i gynyddu nifer yr athrawon sy'n gallu siarad Cymraeg.

Bydd bwrsari newydd gwerth £5,000 ar gael i athrawon a enillodd Statws Athro Cymwysedig o fis Awst 2020 ymlaen, ac sydd wedi cwblhau tair blynedd o ddysgu'r Gymraeg neu drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd y bwrsari ar gael yn y lle cyntaf tan Hydref 2028 i asesu a yw’n llwyddo i annog athrawon i ymuno â'r proffesiwn ac i aros ynddo.

Ynghyd â hyn, mae ail rownd o'r grant adeiladu capasiti'r gweithlu cyfrwng Cymraeg wedi agor, gyda chyfanswm o £800,000 ar gael. Mae'r cynllun hwn yn darparu grantiau bach i ysgolion fel y gallant ddatblygu ffyrdd arloesol o ddatrys yr heriau recriwtio sy'n eu hwynebu.

Mae'r grant hwn yn rhoi rhyddid i ysgolion deilwra cynlluniau i anghenion eu bro, eu gweithlu a'u demograffeg eu hunain. Yn ystod blwyddyn gyntaf y grant, roedd y prosiectau llwyddiannus yn cynnwys y canlynol:

  • Prentisiaid wedi'u penodi i hyfforddi tuag at fod yn gynorthwywyr dysgu
  • Deuddeg o ysgolion uwchradd yn gweithio gyda'i gilydd i ddarparu darpariaeth ar y cyd ar gyfer dysgwyr blwyddyn 10 ac 11 a oedd yn ail-sefyll arholiadau TGAU.
  • Dysgu proffesiynol i uwchsgilio staff addysgu i ddysgu pynciau ychwanegol fel y gwyddorau
  • Ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg yn gweithio gyda'i gilydd i recriwtio israddedigion mewn pynciau lle mae prinder i weithio'n rhan amser er mwyn rhannu eu harbenigedd mewn pwnc a magu profiad addysgu.

Mae cynyddu nifer yr athrawon sy'n gallu addysgu’r Gymraeg a thrwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol er mwyn gwireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac i gyflawni uchelgais y Papur Gwyn ar gyfer y Bil Addysg Gymraeg.

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg: "Un o'n blaenoriaethau mwyaf ar gyfer sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg yw sicrhau bod gennym ddigon o athrawon i ateb y galw am ddysgu yn y Gymraeg. Bydd y pecyn hwn o gefnogaeth yn cryfhau ein gweithlu addysg Gymraeg ac yn sicrhau bod mwy o bobl yn gallu manteisio ar y cyfleoedd cyffrous sydd ar gael ar gyfer gyrfa."

Nodiadau i olygyddion

Mae camau gweithredu hefyd wedi'u cymryd yn ystod y flwyddyn i gynyddu nifer y cynorthwywyr addysgu a gweithwyr cefnogol sy’n siarad Cymraeg. Mae hyn yn cynnwys cynllun peilot yn Nhorfaen i roi lleoliad blwyddyn i rai sydd wedi gadael yr ysgol i ddod yn gynorthwywyr addysgu. Ar hyn o bryd, mae Cyngor Gwynedd yn bwriadu treialu swyddi amser llawn gyda rhai oriau fel cynorthwywyr addysgu, a rhai oriau yn cefnogi gwasanaethau eraill, gan gynnig swyddi trwy gydol y flwyddyn, 37 awr yr wythnos.

Mae'r camau hyn wedi'u cyflawni fel rhan o Gynllun y Gweithlu Cymraeg mewn Addysg a gyhoeddwyd bron i flwyddyn yn ôl. Mae'r camau eraill sydd wedi eu cymryd yn cynnwys gwersi Cymraeg am ddim i staff ysgolion, rhagor o leoedd ar y Cynllun Pontio i athrawon ysgolion cynradd newid i addysgu mewn ysgolion uwchradd, a 'Cadw Cyswllt' sy'n helpu myfyrwyr yn Lloegr i ddychwelyd i Gymru i baratoi ar gyfer addysgu.