English icon English
Eluned Morgan (P)#6

Peidiwch â gadael i’ch haf gael ei ddifetha gan frech M – gwiriwch a allwch chi gael y brechlyn

Don’t let mpox spoil your summer – check if you can have the vaccine

Mae pobl yn cael eu hannog i weld a allant gael brechlyn brech M cyn tymor prysur yr haf a’r amrywiol wyliau sydd o’n blaenau.

Mae nifer o bobl ym mhob cwr o Gymru wedi cael eu brechu yn erbyn brech M – a oedd yn cael ei adnabod fel brech y mwncïod cyn hyn – yn barod.

Hyd yn hyn, mae nifer yr achosion o frech M yng Nghymru wedi bod yn isel iawn. Ond, fel rhan o frigiad o achosion o’r clefyd yn fyd-eang, mae niferoedd mawr o achosion wedi’u gweld ar draws y DU gyfan.

Mae brechlyn brech M yn cael ei gynnig i bawb sydd mewn mwy o berygl fel mesur ataliol cyn tymor prysur y gwyliau a fydd yn cael eu cynnal dros yr haf.

Gall unrhyw un gael brech M. Mae’r clefyd yn cael ei ledaenu drwy gyswllt corfforol agos, ond mae rhai unigolion a grwpiau penodol mewn mwy o berygl nag eraill.

Mae'r brechlyn yn ddiogel ac, ychydig wythnosau wedi'r dos cyntaf, mae’n lleihau'r perygl i’r unigolyn o gael brech M ac o drosglwyddo’r feirws i rywun arall.

Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu strategaeth frechu ddiwygiedig ar gyfer brech M er mwyn sicrhau bod pawb sy'n gymwys yn cael cynnig cwrs o’r brechlyn.

Nid yw’r meini prawf i weld pwy sy’n gymwys wedi newid. Ond, o dan y strategaeth newydd, bydd gofyn i fyrddau iechyd ddiweddaru eu rhestrau yn rheolaidd er mwyn nodi pobl a allai fod wedi dod yn gymwys yn ddiweddar a chynnig brechlyn iddynt.

Bydd byrddau iechyd hefyd yn anfon gwahoddiadau at unigolion sydd wedi cael brechlyn cyntaf yn barod i gael ail ddos.

Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

"Rydyn ni'n ddiolchgar i'r holl bobl hynny yng Nghymru sydd wedi ymateb i’r alwad i gael eu brechu rhag brech M. Oherwydd yr holl waith rydyn ni wedi'i wneud gyda'n gilydd i amddiffyn ein hunain ac eraill, mae'r niferoedd yn parhau i fod yn galonogol o isel.

"Ond, mae sicrhau bod cynifer â phosib o bobl yn cael eu brechu cyn tymor y gwyliau yn bwysig.

"Os nad ydych chi wedi cael eich brechlyn eto, a'ch bod yn perthyn i un o’r grwpiau cymwys, gallech fod mewn mwy o berygl o gael brech M.

"Rydyn ni’n argymell yn gryf y dylai pobl wirio i weld a ydyn nhw’n gymwys a manteisio ar y cynnig o frechlyn. Bydd hyn yn helpu i'ch cadw chi a'ch ffrindiau ac aelodau o’ch teulu yn ddiogel.

"Os ydych chi wedi dod i gysylltiad â gwasanaethau iechyd rhywiol ac rydych chi’n gymwys, fe gewch chi eich gwahodd gan y byrddau iechyd. Bydd y Gwasanaeth Iechyd hefyd yn adolygu ei ddata er mwyn adnabod y rheini a allai fod wedi dod yn gymwys i gael eu brechu a’u gwahodd.

"Mae pobl sy'n ansicr a ydyn nhw’n gymwys ai peidio neu sy'n credu eu bod nhw’n gymwys yn cael eu hannog i ofyn am frechlyn."

Dywedodd Dr Christopher Johnson, Pennaeth y Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy ac epidemiolegydd ymgynghorol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

"Mae brechiad rhag brech M yn dal i gael ei gynnig i’r bobl hynny yng Nghymru sydd â'r perygl mwyaf o ddod i gysylltiad â'r clefyd.

"Mae'r brechlyn yn ddiogel ac yn cynnig amddiffyniad da ychydig wythnosau ar ôl eich dos cyntaf. Mae'n bwysig bod pawb sy'n gymwys i gael eu brechu yn manteisio ar y cynnig hwn o frechiad er mwyn helpu i amddiffyn eu hunain, yn enwedig cyn y gwyliau a fydd yn cael eu cynnal dros yr haf."