Penodi Aelodau’r Comisiwn Cyfansoddiadol
Members of Constitutional Commission appointed
Mae’r bobl a fydd yn gwasanaethu ar gomisiwn annibynnol sydd â chyfrifoldeb am wneud argymhellion ynghylch dyfodol cyfansoddiadol Cymru wedi cael eu cyhoeddi.
Bydd y comisiwn yn datblygu opsiynau i ddiwygio’n sylfaenol strwythurau cyfansoddiadol y DU, y mae Cymru yn parhau’n rhan annatod ohoni. Bydd hefyd yn ystyried yr holl opsiynau blaengar i gryfhau democratiaeth Cymru.
Fis diwethaf, cadarnhawyd mai’r Athro Laura McAllister a Dr Rowan Williams fydd cydgadeiryddion y comisiwn.
Y comisiynwyr, a fydd yn gweithio gyda’r cydgadeiryddion, yw:
- Dr Anwen Elias, Darllenydd mewn Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ymhlith ei diddordebau ymchwil mae gwleidyddiaeth diriogaethol gymharol a chyfansoddiadol, pleidiau gwleidyddol a democratiaeth gydgynghorol. Mae’n gyd-gyfarwyddwr Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru a Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru.
- Miguela Gonzalez, ymarferydd amrywiaeth a chynhwysiant a chyn-newyddiadurwr. Bu’n gweithio i’r BBC am 15 mlynedd, yn fwyaf diweddar fel yr arweinydd amrywiaeth a chynhwysiant i’r cenhedloedd. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio i’r cwmni gwyddor bywyd Abcam, lle mae’n gweithio ar ddatblygu diwylliant agored a chynhwysol. Mae Miguela wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar weithredu’r prosiect Cyswllt Diwylliant Cymru ac mae hefyd wedi bod yn ddarlithydd gwadd yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, Prifysgol Caerdydd.
- Michael Marmot, Athro Epidemioleg ac Iechyd y Cyhoedd yng Ngholeg Prifysgol Llundain a Chyfarwyddwr Sefydliad Tegwch Iechyd UCL. Mae’r Athro Marmot wedi arwain grwpiau ymchwil ar anghydraddoldebau iechyd ers dros 40 mlynedd. Mae wedi cadeirio Comisiwn Sefydliad Iechyd y Byd ar Benderfynyddion Cymdeithasol Iechyd, sawl Comisiwn Rhanbarthol Sefydliad Iechyd a Byd, ac adolygiadau ar fynd i’r afael ag anghydraddoldeb iechyd i lywodraethau yn y DU.
- Lauren McEvatt, cyn-gynghorydd arbennig Llywodraeth Geidwadol y DU i Swyddfa Cymru, yn ystod y weinyddiaeth glymblaid, pan oedd yn gweithio ar y Comisiwn Silk a Deddf Cymru 2014. Ers hynny mae wedi gweithio i sawl llywodraeth ar draws Dwyrain Affrica a’r Caribî, ar ddiwygio sefydliadol, masnach a buddsoddi.
- Albert Owen, cyn AS Llafur dros Ynys Môn o 2001 i 2019. Yn ystod ei amser yn y Senedd roedd yn aelod o’r Pwyllgor Dethol Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, y Pwyllgor Dethol Materion Cymreig a’r Pwyllgor Datblygu Rhyngwladol.
- Philip Rycroft, a fu’n was sifil am 30 mlynedd. Bu’n gweithio ar lefel uwch i’r llywodraeth ddatganoledig yn yr Alban cyn symud i Swyddfa’r Cabinet yn Llundain lle’r oedd yn arwain gwaith y gwasanaeth sifil i Lywodraeth y DU ar y cyfansoddiad a datganoli. Roedd ei swydd olaf fel Ysgrifennydd Parhaol yn yr Adran dros Ymadael â’r UE.
- Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol BME cyntaf TUC Cymru. Mae Shavanah yn ymgyrchydd angerddol a gellir dod o hyd iddi yn aml yn cyfrannu areithiau mewn dadleuon o amgylch y bwrdd a gorymdeithiau gwrthdystio ar faterion megis gwrth-hiliaeth, trosglwyddiad cyfiawn, newid hinsawdd, hawliau dynol, hawliau merched, cyflog teg a gwaith teg.
- Kirsty Williams, cyn Aelod o’r Senedd a Gweinidog Addysg yn Llywodraeth Cymru yn ystod y Bumed Senedd. Daeth yn arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ym mis Rhagfyr 2008 ac, ar y pryd, hi oedd arweinydd benywaidd cyntaf plaid wleidyddol Gymreig yn y Senedd.
- Leanne Wood, cyn Aelod o’r Senedd dros y Rhondda a chyn Arweinydd Plaid Cymru. Fel arweinydd benywaidd cyntaf ei phlaid, mae ganddi gyfoeth o brofiad gwleidyddol ac ymrwymiad hirsefydlog i faterion yn ymwneud â chyfiawnder cymdeithasol.
Bydd y comisiwn yn cael ei gefnogi gan banel arbenigol, a fydd yn cynnig arbenigedd mewn meysydd yn cynnwys llywodraethu, y gyfraith, y cyfansoddiad, yr amgylchedd, economeg, a chyllid. Cynhelir ei gyfarfod cyntaf ar 25 Tachwedd.
Dywedodd Mick Antoniw, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad:
“Mae pob comisiynydd yn cynnig cryfderau, gwybodaeth, profiad a safbwyntiau gwahanol. Maen nhw’n dod o bob cwr o Gymru, y DU, a thu hwnt ac o bob rhan o’r sbectrwm gwleidyddol.
“Gyda’i gilydd, mae’r comisiynwyr yn cyfuno’r manylder academaidd a’r safbwyntiau amgen y bydd ar y comisiwn eu hangen i feddwl yn greadigol a radical am ddyfodol Cymru.
“Rwy’n annog pawb i fanteisio ar y cyfle i ymgysylltu â’r comisiwn ac ymuno â’r sgwrs genedlaethol am ein dyfodol cyfansoddiadol.”
Nodiadau i olygyddion
Mae gan y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru ddau amcan eang.
Y cyntaf yw ystyried a datblygu opsiynau i ddiwygio’n sylfaenol strwythurau cyfansoddiadol y DU, y mae Cymru yn parhau’n rhan annatod ohoni.
Yr ail yw ystyried a datblygu’r holl brif opsiynau blaengar i gryfhau democratiaeth Cymru a sicrhau gwelliannau i bobl Cymru.
Bydd yn llunio adroddiad interim erbyn diwedd 2022 ac adroddiad llawn gydag argymhellion erbyn diwedd 2023.