Penodiad newydd i swydd Prif Weithredwr GIG Cymru a’r Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
New NHS Wales Chief Executive and Director General for Health and Social Services appointed
Cyhoeddwyd mai Judith Paget sydd wedi’i phenodi’n Brif Weithredwr GIG Cymru ac yn Gyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Judith yw Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a bydd yn dechrau yn ei swydd newydd ar 1 Tachwedd.
Bydd Judith yn olynu Dr Andrew Goodall, sydd wedi’i benodi’n Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:
"Rwy'n falch iawn y bydd Judith yn ymgymryd â rôl y Prif Weithredwr gan ddarparu cyfoeth o brofiad ar adeg dyngedfennol i iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru.
"Bydd Judith yn rhoi sicrwydd ac arweinyddiaeth wrth inni barhau i ymateb i heriau'r pandemig.
"Mae hi'n arweinydd profiadol yn y Gwasanaeth Iechyd ac yn y gwasanaeth cyhoeddus, gyda blynyddoedd lawer o brofiad yn gweithio ledled Cymru ac rwy'n croesawu ei phenodiad i'r rôl hon yn fawr."
Bydd Judith yn ymgymryd â'r rôl am 18 mis a bydd proses benodi lawn yn cael ei chynnal yn ystod y cyfnod hwnnw.
Dywedodd Dr Goodall:
"Rwy'n falch o groesawu Judith i'w rôl newydd yn arwain gwasanaethau iechyd a chymdeithasol.
"Rwy’n adnabod Judith ac wedi gweithio gyda hi ers blynyddoedd lawer, gan gynnwys yn ystod ei chyfnod presennol yn arwain Bwrdd Aneurin Bevan.
"Mae'n dod â chyfoeth o wybodaeth, profiad a dealltwriaeth a fydd yn ei helpu i gynghori Gweinidogion Llywodraeth Cymru ac i roi arweiniad wrth inni barhau i lywio ein ffordd drwy’r pandemig ac ailosod ac adfer y system ar gyfer y dyfodol."
Dywedodd Judith, sy’n Brif Weithredwr Aneurin Bevan ers 2014:
"Rwy'n falch iawn o gael y cyfle hwn i barhau i weithio i GIG Cymru yn y rôl newydd hon. Ar ôl gweithio ar hyd fy ngyrfa i GIG Cymru, mae'n fraint ac yn anrhydedd cael cymryd yr awenau oddi wrth Dr Andrew Goodall. Mae’r staff ar draws y Gwasanaeth Iechyd a’r maes gofal cymdeithasol yn parhau i ennyn edmygedd a balchder ynof, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda nhw dros y misoedd nesaf.”