English icon English

Penodiadau i’r Comisiwn Addysg Drydyddol Ac Ymchwil

Appointments to Commission for Tertiary Education and Research

Mae Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, wedi cyhoeddi penodi'r Athro y Fonesig Julie Lydon yn Gadeirydd Bwrdd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, a'r Athro David Sweeney yn Gadeirydd y Pwyllgor Ymchwil ac Arloesi ac yn Ddirprwy Gadeirydd Bwrdd y Comisiwn.

Y Comisiwn fydd y stiward cenedlaethol cyntaf erioed ar gyfer y sector addysg drydyddol ac ymchwil gyfan, gan ddwyn ynghyd y cyfrifoldeb am oruchwylio addysg uwch a bellach, chweched dosbarth ysgolion, prentisiaethau, ac ymchwil ac arloesi yng Nghymru mewn un lle. Trwy'r diwygiadau a ddarperir ar gyfer yn Neddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil 2022, rydym yn ceisio llunio strwythur a system newydd i gefnogi dysgwyr yn well a darparu'r wybodaeth a'r sgiliau iddynt ar gyfer dysgu, datblygu a llwyddiant gydol oes.

Dywedodd Jeremy Miles:

“Rwy’n falch iawn i gadarnhau penodiadau'r Athro y Fonesig Julie Lydon a'r Athro David Sweeney. Edrychaf ymlaen at weithio gyda Julie a David yn ystod eu cyfnod i wireddu ein gweledigaeth arloesol ac uchelgeisiol ar gyfer sector addysg drydyddol ac ymchwil Cymru".

Dywedodd Athro y Fonesig Julie Lydon:

"Mae'n bleser cael fy mhenodi'n Gadeirydd Bwrdd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil. Mae'r cyfle i weithio gyda rhanddeiliaid allweddol, partneriaid a bwrdd y comisiwn i wireddu gweledigaeth ac uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector addysg drydyddol ac ymchwil, yn un cyffrous a heriol."

Dywedodd yr Athro David Sweeney:

"Rwy'n falch o gael fy mhenodi'n yn Gadeirydd y Pwyllgor Ymchwil ac Arloesi ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r holl randdeiliaid i feithrin cyfraniad byd-eang Cymru yn y maes ymchwil ac arloesi, i gynyddu budd Ymchwil ac Arloesi i bobl Cymru, ehangu'r maes cyfrwng Cymraeg a chael system addysg sy'n darparu pobl fedrus i lenwi swyddi."

Nodiadau i olygyddion

Athro a’r Fonesig Julie Lydon

Daw’r Athro a’r Fonesig Julie Lydon â chyfoeth o brofiad addysg i rôl y Cadeirydd. Mae gan Julie brofiad sylweddol o gyd-destun Cymru ar ôl gweithio yng Nghymru ers 2006 ac arwain un o brifysgolion mwyaf Cymru am 11 mlynedd. Yn ystod ei gyrfa, mae Julie wedi rhyngweithio rheolaidd â Llywodraeth Cymru a Gweinidogion er mwyn sicrhau cefnogaeth i Athrofa Prifysgolion Blaenau'r Cymoedd ac i’r sector prifysgolion.

Mae gan Julie brofiad hefyd o newid a thrawsnewid ar raddfa fawr, a hynny’n arbennig drwy greu Prifysgol De Cymru yn 2013. Daw hefyd â phrofiad anweithredol drwy ei rôl fel Cadeirydd Prifysgolion Cymru, Dirprwy Gadeirydd University Alliance a Dirprwy Gadeirydd Cymdeithas Cyflogwyr Prifysgolion a Cholegau.

Athro David Sweeney

Mae'r Athro David Sweeney yn cynnig dealltwriaeth helaeth o'r amgylchedd ymchwil a phrofiad addysg berthnasol trwy ei rôl fel Cyfarwyddwr Ymchwil, Arloesi a Sgiliau yng Nghyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr, yn ogystal â phrofiad blaenorol yn y Royal Holloway, Prifysgol Llundain. Trwy ei waith ymchwil a'i rôl yng Nghyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr, mae David wedi rhyngweithio â sector addysg Cymru ac mae'n dod â dealltwriaeth o'r cyd-destun Cymreig. Mae hefyd yn dod â dealltwriaeth a phrofiad cryf o'r rôl y bydd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn ei chwarae fel cyllidwr, ar ôl gweithio i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr ac fel Cadeirydd Gweithredol Research England am bron i 15 mlynedd

Gwybodaeth pellach

Bydd y penodiadau yn rhedeg o Ionawr 2023 i Ionawr 2028 a chawsant eu gwneud yn unol ag egwyddorion y Cod Llywodraethiant Penodiadau Cyhoeddus. Gwneir pob penodiad ar sail teilyngdod ac nid yw gweithgarwch gwleidyddol yn chwarae unrhyw ran yn y broses ddethol. Yn unol ag argymhellion gwreiddiol Nolan, mae gofyniad i weithgarwch gwleidyddol y sawl a benodir (os oes unrhyw weithgarwch o’r fath wedi’i ddatgan) gael ei gyhoeddi.

Mae'r Athro y Fonesig Julie Lydon yn aelod o'r Blaid Lafur ac wedi canfasio i'r blaid o fewn y 5 mlynedd diwethaf.

Nid yw'r Athro David Sweeney wedi datgan gweithgarwch gwleidyddol yn ystod y 5 mlynedd diwethaf.

Nid yw Julie na David yn dal unrhyw benodiadau gweinidogol eraill.

Bydd Cadeirydd y Comisiwn yn cael £394 y dydd gydag ymrwymiad amser o 4 diwrnod y mis. Bydd Cadeirydd y Pwyllgor Ymchwil ac Arloesi/Dirprwy Gadeirydd yn cael £366 y dydd gydag ymrwymiad amser o 4 diwrnod y mis. Mae'r taliad hwn yn unol â meini prawf Llywodraeth Cymru ar gyfer ad-dalu aelodau o fyrddau cyrff cyhoeddus Cymru.