English icon English
Victoria Heath-2

Penodi'r Prif Swyddog Gwyddor Gofal Iechyd cyntaf i Gymru

New Chief Healthcare Science Officer for Wales appointed

Mae Victoria Heath wedi'i phenodi yn Brif Swyddog Gwyddor Gofal Iechyd cyntaf Cymru.  

Bydd Victoria yn cynghori Llywodraeth Cymru ynghylch y ffyrdd mwyaf effeithiol o ddefnyddio gwyddor gofal iechyd i ddarparu gwell gofal iechyd, gan gynnwys moderneiddio technolegau a thriniaethau diagnostig a chyflwyno rhai newydd. 

Bydd yn helpu mwy na 50 o rolau gwahanol o fewn y proffesiynau gwyddor gofal iechyd yng Nghymru, yn ogystal â'u cynrychioli.  

Daw Victoria o Rwydwaith Patholeg ME-5 y Gwasanaeth Iechyd, lle'r oedd hi'n gyfrifol am ddatblygu mentrau'r gweithlu a'u rhoi ar waith. 

Mae hi wedi gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd ers iddi fod yn 18 oed, gan ddechrau ar ei gyrfa yn wyddonydd biofeddygol o dan hyfforddiant yn Swydd Rydychen. Cafodd ei chofrestru yn wyddonydd biofeddygol yn 2010 ac yn wyddonydd clinigol yn 2023. Mae ganddi brofiad o rolau ym maes gwyddor gofal iechyd ledled y DU ac yn 2015, aeth i weithio yn Sierra Leone i ymateb i'r brigiad o achosion Ebola Gorllewin Affrica.  

Mae Victoria hefyd yn gyfathrebwr gwyddoniaeth sydd wedi ennill sawl gwobr ac mae'n gweithio i godi proffil gyrfaoedd yn y maes gwyddor gofal iechyd. 

Wrth siarad am ei phenodiad newydd, dywedodd: 

"Mae'n anrhydedd cael fy mhenodi'n Brif Swyddog Gwyddor Gofal Iechyd yn Llywodraeth Cymru a chael gweithio ochr yn ochr â'r 7,000 o wyddonwyr gofal iechyd sy'n cyfrannu at ofal iechyd ledled Cymru.  

"Mae gwyddonwyr gofal iechyd yn rhan hanfodol o lwybrau cleifion ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y cyfle hwn i godi'u proffil." 

Dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: 

"Rwy'n falch iawn o groesawu Victoria yn Brif Swyddog Gwyddor Gofal Iechyd cyntaf Cymru.  

"Bydd ei chyfoeth o brofiad ym maes gwyddor gofal iechyd yn allweddol ar gyfer darparu gwell canlyniadau iechyd i gleifion yng Nghymru drwy ddatblygu a mabwysiadu gweithdrefnau diagnostig a thriniaethau newydd arloesol. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda hi." 

Bydd Victoria yn dechrau yn ei swydd ym mis Mawrth 2025. 

Nodiadau i olygyddion

  • Healthcare Science has over 50 science professions across laboratory, imaging (radiography), physiological, physiological, bioinformatics, physical and biomedical engineering. 
  • Healthcare scientists make up 5% of the workforce in NHS Wales but are involved in over 80% of all clinical decisions. 
  • The Chief Healthcare Science Officer (CHSO) is a new role that has been created to strengthen the use of scientific advice, research and evidence in Health and Social Care. The role was originally part of the responsibilities of the Chief Scientific Advisor for Health (CSAH) but the increasing use of innovative diagnostics and treatments and the leading role healthcare science plays in this has necessitated the development of this dedicated post.
  • The CHSO will join the other chief advisors (Chief Pharmaceutical Officer, Chief Allied Health Advisor, Chief Dental Officer, Chief Optometric Advisor, Chief Midwifery Officer, Senior Medical Officers and the Deputy Chief Medical Officers) in leading their professions in Welsh Government, alongside the Chief Nursing Officer and Chief Medical Officer