English icon English
Building safety pic-2

Pob adeilad preswyl tal yng Nghymru ar ei ffordd i gael ei gyweirio

All residential high-rise buildings in Wales on the route to remediation

Cymru yw'r wlad gyntaf yn y DU i gadarnhau llwybr i adfer a chyweirio'r holl adeiladau preswyl tal sydd â phroblemau diogelwch tân.

Mae'r ymrwymiad yn cynnwys pob adeilad preswyl 11 metr neu fwy o uchder ac nid dim ond adeiladau sydd wedi'u cladio.

Mae diwygio'r rheolau diogelwch adeiladau yn rhan allweddol o Gytundeb Cydweithredu Llywodraeth Cymru â Phlaid Cymru a chyflwynwyd diweddariad pwysig gan y Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth 28 Tachwedd).

Daw'r ymrwymiad wrth ochr cadarnhad y bydd Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig yn cyhoeddi canllawiau newydd ar gyfer prisio gwaith cladio fydd yn cynnwys Cymru.

Dywedodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd: "Mae hwn yn gam mawr o ran sicrhau bod y broses brisio ar gyfer fflatiau mewn blociau sydd â phroblemau cladio yn gyson ac agored .

"Bydd y canllawiau diwygiedig yn helpu priswyr a benthycwyr i wneud penderfyniadau a bydd hynny wedyn yn lleihau'r gwrthdaro a'r oedi i brynwyr a gwerthwyr cartrefi ac i lesddeiliaid sydd am ail-forgeisio eu cartrefi.

"Bydd y canllawiau'n adlewyrchu barn Llywodraeth Cymru, gan gadarnhau i briswyr a benthycwyr fod llwybrau wedi'u hariannu i wneud y gwaith cyweirio, heb unrhyw gost i lesddeiliaid, ar bob adeilad preswyl yng Nghymru 11 metr neu fwy o uchder. 

"Hynny p'un a yw'r gwaith atgyweirio'n gyfrifoldeb partneriaid yn y sector cymdeithasol, datblygwyr neu'n adeiladau lle nad oes datblygwr atebol ar gael i wneud y gwaith. 

Mae deg o brif ddatblygwyr y DU eisoes wedi arwyddo contract Llywodraeth Cymru ac mae gwaith cyweirio mawr eisoes ar y gweill ar safleoedd gan gynnwys Aurora, Davids Wharf, Prospect Place a Century Wharf.

Amcangyfrifir y bydd gwaith yn dechrau ar 34 adeilad arall yn 2024.

Cadarnhaodd y Gweinidog hefyd y byddai Cronfa Diogelwch Adeiladau Cymru yn parhau i gefnogi datblygwyr a Chynllun Adeiladau Amddifad Llywodraeth Cymru.

Adeiladau amddifad yw'r term am adeiladau preifat lle nad oes datblygwr hysbys neu os yw'r datblygwr wedi rhoi'r gorau i fasnachu.  Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi grwp gychwynnol o 31 o adeiladau ac mae gwaith eisoes wedi dechrau ar safleoedd allweddol gan gynnwys yn Kings Court yng Nghasnewydd.

Cadarnhawyd hefyd y byddai gwaith yn cael ei wneud ar brosiectau sector cymdeithasol ychwanegol, gyda dyrannu £39m arall.  Bydd cyfanswm o 131 o adeiladau sector cymdeithasol yn elwa o'r gronfa hon.

Rhoddodd y Gweinidog ddiweddariad pwysig hefyd ar ddiwygio'r rheolau diogelwch adeiladau.

"Rwy'n falch o gadarnhau ein bod wedi cytuno ar y set gyntaf o reoliadau a'u bod yn disgrifio beth yw adeilad risg uwch, meddai'r Gweinidog.

"Bydd adeiladau sy'n dod o fewn cwmpas y rheoliadau hyn yn destun rheolaeth dynnach o ran pwy gaiff oruchwylio a chymeradwyo'r gwaith sy'n cael ei wneud.

"Bydd yna drefn newydd a gwell hefyd yn ystod y cyfnodau dylunio, adeiladu ac adnewyddu."

O fis Ebrill 2024, bydd Llywodraeth Cymru yn cyfyngu'r gwaith o oruchwylio adeiladau risg uchel newydd i'r corff Rheoli Adeiladu Awdurdodau Lleol, gan gyflwyno system ddosbarthu newydd ar gyfer archwilwyr adeiladau cofrestredig.

Gwneir hyn er mwyn sicrhau mai dim ond unigolion sydd â'r sgiliau, y wybodaeth a'r profiad perthnasol angenrheidiol sy'n cael cynghori'r rheini sy'n gwneud penderfyniadau.

Ychwanegodd y Gweinidog: "Yn fy natganiad diwethaf, dywedais y byddem yn cyflwyno trefn reoleiddio newydd ar gyfer archwilwyr adeiladu a chyrff rheoli adeiladu i gefnogi'r newidiadau sydd eu hangen.

"Heddiw, gallaf gadarnhau y bydd yr is-ddeddfwriaeth sy'n ofynnol ar gyfer creu cofrestrau o'r holl archwilwyr adeiladu a chymeradwywyr rheoli adeiladu yn ei lle erbyn mis Ebrill 2024. O'r pwynt hwnnw bydd gofyn i bawb gofrestru er mwyn cael parhau i weithio yn y proffesiwn rheoli adeiladu.

"Fel rhan o'r amodau cofrestru, bydd yn rhaid i archwilwyr a chymeradwywyr gydymffurfio â safonau, codau a rheolau newydd. Bydd gofyn dilysu cymhwysedd archwilwyr adeiladu trwy gynllun trydydd parti.

"Rydym yn bwriadu agor y broses gofrestru ym mis Ionawr 2024; ond byddwn yn annog y rhai sydd angen cofrestru i ennill y blaen a threfnu bod eu cymhwysedd yn cael ei ddilysu cyn gynted â phosib."

Roedd newyddion da hefyd i lesddeiliaid sy'n wynebu costau cyfreithiol ac i'r corff Rheoli Adeiladu Awdurdodau Lleol.

Dywedodd y Gweinidog y byddai Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod cyngor cyfreithiol annibynnol ar gael i lesddeiliaid ac y byddai rhagor o fanylion yn dilyn yn y flwyddyn newydd.

Cadarnhaodd y Gweinidog hefyd y byddai Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r corff Rheoli Adeiladu Awdurdodau Lleol i recriwtio a hyfforddi wyth swyddog i Gymru.

Bydd yr hyfforddeion hyn yn dysgu am reoli adeiladu wrth eu gwaith wrth gwblhau eu cymwysterau proffesiynol.

DIWEDD