English icon English

Pobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal yn y Gogledd yn cael dweud eu dweud am y datganiad gwasanaethau gofal

Care experienced young people in North Wales to have say on care services declaration

Bydd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, yn cwrdd â phlant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal yn y Gogledd i drafod y datganiad sy’n llywio diwygiad radical o wasanaethau gofal yng Nghymru.

Bydd oddeutu 15 o Lysgenhadon Ifanc â phrofiad o fod mewn gofal, sy’n gweithio gyda’r elusen Voices from Care Cymru, yn bresennol yn yr uwchgynhadledd yn Llandudno heddiw gyda’r Dirprwy Weinidog.

Llofnododd y Prif Weinidog y datganiad ym mis Mai. Cafodd ei ddatblygu ar y cyd â phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal yn dilyn yr uwchgynhadledd gyntaf erioed ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal a rhai sydd wedi gadael gofal yng Nghymru, a gynhaliwyd yng Nghaerdydd y llynedd.

Bydd y Dirprwy Weinidog yn defnyddio’r uwchgynhadledd heddiw fel cyfle i roi diweddariad i’r Llysgenhadon Ifanc ar y gwaith i gyflawni ymrwymiadau’r datganiad, gan gynnwys dileu elw o ofal plant sy’n derbyn gofal a chryfhau’r rôl rhianta corfforaethol.

Bydd hefyd yn gwahodd y Llysgenhadon Ifanc i adolygu’r datganiad a chynnig newidiadau iddo.

Dywedodd Julie Morgan:

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella bywydau pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal ac rydym eisoes yn gwneud cynnydd gwirioneddol wrth ddiwygio’r gwasanaethau.

“Mae uwchgynadleddau fel hyn yn rhoi cyfleoedd amhrisiadwy i feithrin cysylltiadau â phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal.

“Bydd heddiw yn rhoi cyfle i mi ddeall yn well y stigma y gall plant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal ei deimlo yn eu bywydau bob dydd.

“Rwyf eisiau iddynt wybod ein bod ni’n gwrando arnynt ac yn gwerthfawrogi eu hadborth.

“Drwy gydweithio’n agos gyda phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal rwy’n hyderus y gallwn gyflawni diwygiadau uchelgeisiol, cyffrous a heriol iawn.”

Dywedodd y Llysgennad Ifanc Raven Lee:

“Da ni’n falch iawn bod y Dirprwy Weinidog wedi dod i Landudno i gyfarfod pobl ifanc yma yn y Gogledd. Aeth rhai ohonom i Gaerdydd y llynedd, ond bydd hwn yn gyfle i’r Dirprwy Weinidog glywed gan fwy o bobl ifanc am yr heriau da ni’n eu hwynebu a beth sydd angen newid.

"Dw i’n edrych ymlaen at glywed beth sydd wedi bod yn digwydd ers yr Uwchgynhadledd, a helpu i lywio’r hyn a fydd yn digwydd nesaf.”