English icon English

Poen parhaus ym methu atal marchogwr paralympaidd rhag cymryd rhan mewn cystadlaethau dressage

Persistent pain no match for Paralympic dressage horse rider

Mae marchogwr paralympaidd, sy’n cystadlu gyda’i cheffylau dressage, wedi gorfod trechu poen parhaus i wireddu ei breuddwydion. Mae’n canmol canllawiau diwygiedig a gafodd eu lansio gan Lywodraeth Cymru i wella canlyniadau a phrofiadau i bobl sy’n dioddef poen cronig.

Gall poen parhaus effeithio ar unrhyw un o unrhyw oed ar unrhyw adeg. Amcangyfrifir bod rhwng 33% a 50% o oedolion yn y DU yn byw gyda rhyw fath o boen cronig, sy’n cyfateb i oddeutu 1.3 miliwn o bobl yng Nghymru.

Gall y cyflyrau hyn gael effaith ddifrifol ar iechyd meddwl pobl, eu gallu i weithio, a’u perthynas â ffrindiau a theulu.

Cafodd canllawiau newydd ar gyfer byw gyda phoen parhaus eu lansio heddiw. Maent yn canolbwyntio ar helpu pobl i ddatblygu sgiliau i reoli’r poen parhaus eu hunain yn eu bywyd o ddydd i ddydd.

Mae hyn yn cynnwys hunanreoli â chymorth, gwella ymwybyddiaeth o boen parhaus ymysg staff gofal sylfaenol a’r cyhoedd, rhoi cyngor ar yr amrywiaeth o dechnegau rheoli ac adnoddau ar-lein sydd ar gael, a gwella sut mae gwybodaeth yn cael ei rhannu.

Torrodd Julia Godden ei chefn ym mis Gorffennaf 2018, a hynny ar ôl goroesi canser yn flaenorol. Mae’n dioddef poen parhaus yn ei chefn oherwydd ei hanaf, a phoen yn ei choes chwith a’i dwylo oherwydd effeithiau cemotherapi.

Datblygodd Julia ddulliau o ymdopi drwy fynychu cynllun Rhaglenni Addysg i Gleifion yng Ngwent, sef cynllun y mae hi ei hunan bellach yn ei redeg.

Mae wedi ennill mewn Pencampwriaethau Cenedlaethol yn cynrychioli Cymru a Phrydain, ac yn fwyaf diweddar enillodd ym Mhencampwriaethau Para’r Gaeaf 2023.

Dywedodd:

“Fe wnes i ymuno â’r Riding for the Disabled Association (RDA) tra oeddwn mewn cadair olwyn ar ôl cael triniaeth cemotherapi ar gyfer canser.

"Dw i wedi treulio rhan fawr iawn o fy mywyd yn gorwedd mewn gwely mewn ysbyty, a’r un peth gartref yn teimlo’n hynod o wael ac wedi f’anafu’n ddifrifol. Fe wnes benderfyniad - os oeddwn i’n ddigon da i godi o’r gwely, rhaid oedd cael nod bob amser i ganolbwyntio arno, a byddai’r nod yn fy helpu i gyflawni cymaint â phosibl tra bod cyfle i wneud hynny. Fy nodau ar hyn o bryd yw codi arian i elusennau drwy gerdded marathonau ar fy maglau, ac i gyrraedd y Gemau Olympaidd fel marchogwr para yn y gystadleuaeth dressage.

“Dw i’n rheoli fy mhoen gyda dulliau a ddysges i drwy ddilyn cynllun y Rhaglen Addysg i Gleifion, a fi bellach sy’n rhedeg y rhaglen honno. Yn gyffredinol, dw i’n disgwyl i lefel fy mhoen fod o gwmpas pump allan o ddeg, ond bydd y poen yn gwaethygu gan ddibynnu ar fy llwyth gwaith, a hefyd weithiau gall jyst waethygu’n sydyn.

 “Dw i’n credu y bydd y canllawiau newydd hyn yn helpu i roi taw ar y syniad bod chi’n gorfod rhoi’r gorau i bopeth jyst oherwydd eich bod mewn poen. Dw i hefyd yn gobeithio y bydd y canllawiau’n rhoi mwy o hyder i bobl a’u helpu i gael hyd i gymorth ar gyfer pennu nodau a gweithio tuag atyn nhw.”

Lansiodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan y canllawiau newydd yn y Gynhadledd gyntaf ar Boen Parhaus yng Nghymru:

Dywedodd:

“Mae poen parhaus yn gallu cael effeithiau difrifol ar ansawdd bywyd unigolion â’u teuluoedd. Gyda’r wybodaeth a’r cymorth iawn, gallwn ddatblygu gwasanaethau poen parhaus mewn ffordd sy’n arwain at ganlyniadau a phrofiadau gwell i’r unigolion hyn.

“Mae’n bwysig i Lywodraeth Cymru bod pobl yn cael eu helpu i chwarae mwy o rôl ymarferol yn eu gofal eu hunain. Mae’r canllawiau a gafodd eu cyhoeddi heddiw yn gwneud hynny drwy hyrwyddo egwyddorion hunanreoli, cyd-gynhyrchu, a gwneud penderfyniadau ar y cyd. Maen nhw’n gosod ffocws ar y person a’r hyn sy’n bwysig iddo, yn hytrach na chanolbwyntio ar faterion meddygol yn unig. 

“Dw i’n edrych ymlaen at weithio’n agos gyda’r holl randdeiliaid allweddol yn ystod y blynyddoedd nesaf er mwyn inni allu gweithredu argymhellion y darn pwysig hwn o waith.”