Pont Menai yn ailagor dros y gaeaf ar ôl i'r gwaith i osod crogrodenni newydd gael ei gwblhau yn unol â'r amserlen
Menai Suspension Bridge reopens over winter after hanger replacement completed on schedule
Mae'r gwaith i adfer Pont Menai wedi mynd rhagddo'n arbennig o dda. Ar ôl i bob un o'r 168 o grogrodenni ar y bont gael eu newid, cadarnhawyd y bydd cam cyntaf y rhaglen yn cael ei gwblhau yn unol â'r amserlen. Bydd y bont yn ailagor ar Dydd Sadwrn, 2 Tachwedd [00:01hrs].
Bydd oedi o bedwar mis (rhwng mis Tachwedd 2024 a mis Chwefror 2025) cyn dechrau ar ail gam y gwaith, sydd, ymhlith pethau eraill, yn cynnwys ailbeintio'r bont, er mwyn caniatáu i'r bont ailagor yn llawn a dileu'r terfyn pwysau o 7.5 tunnell dros gyfnod y gaeaf. Ni fydd hynny'n effeithio ar yr amserlen ar gyfer pen-blwydd y bont yn 200 oed ym mis Ionawr 2026.
Bydd hynny'n esgor ar nifer o nifer o fanteision, gan gynnwys:
- Bydd y gwaith ar yr ail gam yn mynd rhagddo'n fwy hwylus ac yn fwy effeithlon, oherwydd y bydd y tywydd yn well.
- Bydd llwybr teithio arall ar gael os bydd tywydd garw (gwyntoedd cryfion), digwyddiadau ac argyfyngau yn effeithio ar Bont Britannia (yr A55). Bydd yn golygu hefyd y bydd cerbydau nwyddau trwm a cherbydau eraill yn cael croesi Afon Menai unwaith eto oherwydd y bydd y terfyn pwysau o 7.5 tunnell yn cael ei ddileu dros dro.
- Bydd yn gwella cyfleoedd i fusnesau lleol, yn enwedig dros gyfnod y Nadolig.
- Bydd Porthladd Caergybi yn parhau'n weithredol am gyfnod hirach.
- Bydd yn galluogi Hanner Marathon Môn, 'Always Aim High', i ddefnyddio Pont Menai ar gyfer y digwyddiad, gan ddenu cyfleoedd busnes newydd i'r gymuned leol.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:
“Mae'r ffaith bod y gwaith ar y cam cyntaf wedi'i gwblhau yn newyddion gwych. Mae wedi bod yn gyfnod anodd, a hoffwn i gofnodi fy niolch i bawb y mae'r gwaith wedi effeithio arnyn nhw.
"Rydyn ni wedi gwrando ar safbwyntiau'r cymunedau lleol ac wedi penderfynu oedi cyn dechrau ar ail gam y gwaith er mwyn caniatáu i'r bont ailagor yn llawn dros gyfnod y gaeaf.
“Ond gallwch chi fod yn dawel eich meddwl na fydd yr oedi hwnnw'n effeithio ar 200 mlwyddiant y bont ym mis Ionawr 2026.”
Bydd cyfnod o gyfathrebu gyda'r cyhoedd a rhanddeiliaid cyn dechrau ar ail gam y gwaith.