English icon English
EM - MHSS-2

Prawf newydd arloesol yn gwella gofal i famau yn y Gogledd.

New innovative test to improve maternal care being used in North Wales

Mae amryw o ddatblygiadau arloesol, gan gynnwys prawf diagnostig newydd ar gyfer cyflwr sy’n achosi marw-enedigaethau, yn gwella gofal iechyd ar draws Cymru, gyda chymorth Strategaeth Arloesi newydd i Gymru.

Ar draws y sector iechyd a gofal cymdeithasol mae arloesedd ym maes gofal iechyd a thechnoleg yn gwella canlyniadau i gleifion a’u llesiant.

Mae cyneclampsia yn gyflwr sy’n bygwth bywyd, a heb ei drin gall arwain at gymhlethdodau difrifol ar gyfer y fam a’r baban. Dyma un cyflwr sy’n elwa o arloesi mewn technoleg gofal iechyd.

Mae prawf ffactor twf y brych (PLFG) newydd yn cael ei gynnig i fenywod ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr er mwyn gallu diystyru cyneclampsia. Mae’n helpu i wella diagnosis, atal cymhlethdodau i’r fam, lleihau marw-enedigaethau ac atal genedigaethau cyn amser.

Gall y cyflwr hwn arwain at apwyntiadau ysbyty dro ar ôl tro, genedigaethau cyn amser, a derbyniadau i’r Uned Gofal Arbennig Babanod, yn ogystal â phryder cynyddol i fenywod beichiog a’u teuluoedd.

Nid yw’r profion gwaed ac wrin sylfaenol sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd i asesu difrifoldeb cyneclampsia yn ddigon sensitif i ragweld yr hyn a fydd yn digwydd i’r claf, felly mae nifer sylweddol o fenywod beichiog yn cael eu derbyn i’r ysbyty i gael eu harsylwi ymhellach.

Mae’r prawf ffactor twf y brych (PLGF) newydd a grëwyd yn ystod pandemig COVID-19 gan Dr Lynda Verghese, a Dr Yee Ping Teoh yn cynorthwyo gyda gwneud penderfyniadau. Mae’r prawf cyflym yn mesur lefelau PLGF mewn 15 munud gan alluogi i feddygon drefnu menywod beichiog yn gyflym yn ôl risg ac adnabod y rhai sy’n debygol o fod yn rhoi genedigaeth o fewn 14 diwrnod.  

Dangosodd astudiaeth beilot y gellir trin y rhai sy’n wynebu’r risg uchaf, sydd â lefel PLGF annormal o isel, yn brydlon i atal cymhlethdodau pellach fel eclampsia, strôc neu farwolaeth y fam. Cafodd 68% o fenywod ofal cyflym fel claf allanol heb gael eu derbyn i’r ysbyty ac ni chafwyd unrhyw farw-enedigaethau na genedigaethau cyn amser cyn 37 wythnos.  

Yn dilyn y canlyniadau arloesol cadarnhaol yn Ysbyty Maelor Wrecsam, mae’r prawf PLGF wedi’i gynnwys mewn canllawiau lleol ar gyfer rheoli menywod beichiog yr amheuir sydd â’r cyflwr cyn-eclampsia yn y Gogledd. Mae’r prosiect hefyd wedi’i hyrwyddo gan Gomisiwn Bevan fel prosiect enghreifftiol yn y Senedd gyda’r nod o’i gyflwyno’n ehangach ar draws gweddill Cymru.

Yn dilyn lansiad y Strategaeth Arloesi i Gymru [Dydd Llun 27 Chwefror] sy’n tynnu sylw at nod Llywodraeth Cymru i greu’r amodau gorau ar gyfer arloesi, cynhelir nifer o weithdai arloesi i sicrhau perthynas waith agosach fyth rhwng GIG Cymru, prifysgolion a’r sector preifat – gan arddangos arloesedd ym maes iechyd a gofal yng Nghymru.

Mae prosiectau arloesol eraill a gyflwynwyd gan y Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol yng Nghymru yn cynnwys:

  • Profion biopsi hylif i wella diagnosis o ganser yr ysgyfaint
  • Defnyddio technoleg deallusrwydd artiffisial (AI) i adolygu sleidiau digidol canser y prostad, a’u blaenoriaethu yn nhrefn difrifoldeb i gynorthwyo patholegwyr. 
  • Dyfeisiau prototeip ar gyfer cau clwyfau, sy’n diogelu’r clwyf ac yn cyflymu adferiad.
  • Get Fit Wales, pecyn digidol sy’n helpu plant ysgol i fod yn fwy egnïol, yn helpu’r rhai sydd â chyflyrau iechyd hirdymor ac yn cefnogi’r rhai sydd ar restrau aros i reoli eu cyflwr yn fwy effeithiol.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan:

“Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn ar gyfer arloesi; yr wythnos hon fe lansiodd Llywodraeth Cymru’r Strategaeth Arloesi newydd i Gymru sy’n amlinellu sut y byddwn yn defnyddio arloesedd i gyflawni nodau Cymru a mynd i’r afael â’r heriau yn y system.

“Dros y degawd diwethaf rydym wedi gweld datblygiadau sylweddol mewn arloesedd ym maes iechyd a gofal yma yng Nghymru, gydag enghreifftiau newydd a chyffrous o dechnoleg ac ymarfer clinigol yn dod o GIG Cymru, Prifysgolion Cymru a’r sector preifat. Drwy ein Strategaeth Arloesi, rwy’n edrych ymlaen at weld mwy a mwy o gynlluniau newydd fel y prawf PLGF, y defnydd o Ddeallusrwydd Artiffisial a thechnolegau fel profion biopsi hylif yn cael eu cyflwyno ar draws y sector iechyd a gofal ymroddedig yng Nghymru.”

Dywedodd Dr Lynda Verghese, Obstetregydd Ymgynghorol a Gynaecolegydd, ac Arweinydd y Ward Esgor yn Ysbyty Maelor Wrecsam:

“Mae’r prawf newydd hwn sy’n cael ei roi yn y man lle roddir gofal yn wych, ac yn gam cadarnhaol ymlaen mewn gofal mamolaeth. Yn hanfodol, gellir gwneud y prawf yn agos at y cleifion ar y ward mamolaeth, gan osgoi unrhyw oedi diangen. Bydd hefyd yn rhoi sicrwydd angenrheidiol i’r tîm meddygol ac i’r claf, gan leihau pryderon y fam a’i galluogi i ddychwelyd adref yn ddiogel i gael gofal fel claf allanol.

“Drwy ddefnyddio’r prawf hwn rydym yn gallu gwella profiad cyffredinol y menywod hyn, gan leihau’r effaith ar eu hiechyd meddwl ac osgoi’r straen o droi eu bywydau ben i waered – gall hyn gynnwys yr angen am ofal plant ychwanegol, amser i ffwrdd o’r gwaith, a chostau teithio diangen."