English icon English
IMG 0025-3

Presgripsiynu cymdeithasol ar dwf yng Nghymru

Social prescribing growing in Wales.

Mae presgripsiynu cymdeithasol, sy'n cyfeirio pobl at bethau fel dosbarthiadau ymarfer corff, garddio a grwpiau celf, ar dwf yng Nghymru, gan helpu i leihau’r baich ar feddygon teulu drwy gysylltu pobl â’u cymuned i reoli eu hiechyd a’u llesiant yn well.

Mae’r data diweddaraf yn dangos cynnydd clir o flwyddyn i flwyddyn yn nifer yr atgyfeiriadau a’r defnydd o bresgripsiynu cymdeithasol o tua 10,000 yn 2018/19 i ychydig dros 25,000 yn 2020/21*.

Drwy ymyrryd yn gynnar, gallai presgripsiynu cymdeithasol helpu i leddfu’r baich ar wasanaethau arbenigol rheng flaen. Mae tystiolaeth yn awgrymu ei fod yn lleihau nifer yr ymweliadau â meddygfeydd teulu 15% i 28%, a bod tua 20% o gleifion yn mynd at eu meddyg teulu ar gyfer problemau cymdeithasol+.

Gall presgripsiynu cymdeithasol amrywio o berson i berson. Mae’n ffordd o gysylltu pobl o bob oedran a chefndir â’u cymuned. Gall wella llesiant meddwl, lleihau gorbryder ac iselder, hybu hunan-barch, helpu pobl i deimlo’n llai unig ac ynysig, cynnal pwysau iach, a helpu pobl i fyw’n well ac yn hirach.

Heddiw (dydd Llun 11 Rhagfyr), lansiodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle, y Fframwaith Cenedlaethol newydd ar gyfer Presgripsiynu Cymdeithasol. Ei nod yw cefnogi camau lleol i wneud presgripsiynu cymdeithasol yn beth arferol ledled Cymru, gan gadw pobl wrth ei wraidd. 

Ni fydd y fframwaith yn pennu sut mae presgripsiynu cymdeithasol yn cael ei ddarparu, ond yn hytrach bydd yn ceisio sicrhau bod y ddarpariaeth yn gyson ym mhob lleoliad. Bydd hyn yn helpu i dyfu presgripsiynu cymdeithasol drwy leihau'r dryswch ynglŷn â'i fanteision posibl, ei wneud yn beth cynaliadwy yn y tymor hir a chynyddu'r nifer sy'n cael budd ohono.

Aeth y Dirprwy Weinidog draw at y grŵp cymunedol Men's Shed i weld sut mae presgripsiynu cymdeithasol a'r gweithgareddau a gynigir yn helpu dynion i deimlo'n llai unig a gwella iechyd meddwl a llesiant.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle:

"Dyw presgripsiynu cymdeithasol ddim yn rhywbeth sy'n gallu cael ei ddarparu yn yr un ffordd i bawb, a gall gael effaith enfawr ar bob rhan o'n bywydau. Mae'n gallu cefnogi iechyd a llesiant, helpu pobl sydd ar restrau aros, rheoli poen, helpu pobl i deimlo'n llai unig a hybu cyflogadwyedd drwy wella sgiliau a hyder."

"Mae presgripsiynu cymdeithasol yn rhan annatod o’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i rymuso pobl a chymunedau. Gwnaethom ymrwymo i gyflwyno fframwaith cenedlaethol ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol i fynd i'r afael â nifer y bobl sy'n teimlo'n ynysig, ac i wella canlyniadau i bobl drwy roi mwy o ddewis a rheolaeth iddyn nhw dros eu bywydau. Mae hefyd yn gallu arwain at fwy o ymdeimlad o berthyn pan fydd pobl yn cymryd rhan yn eu cymuned. 

"Rwy'n falch iawn o gyhoeddi ein cynlluniau ar gyfer Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Presgripsiynu Cymdeithasol fel y gallwn rymuso pobl yn well i ddeall eu hanghenion eu hunain, cael cymorth a lleihau'r baich ar wasanaethau rheng flaen."

Dywedodd Dr Amrita Jesurasa, Ymgynghorydd Meddygaeth Iechyd y Cyhoedd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

"Mae tystiolaeth yn dangos bod ystod eang o ffactorau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol yn cael effaith wirioneddol ar lesiant unigolion ac y bydd adegau pan fydd ar bobl angen cymorth ychwanegol ag amrywiol faterion sy'n effeithio ar eu llesiant meddyliol, corfforol neu gymdeithasol.

"Mae presgripsiynu cymdeithasol yn helpu i gysylltu pobl â grwpiau a gwasanaethau yn y gymuned a all roi cefnogaeth iddynt â gwahanol agweddau ar eu bywyd. Er enghraifft, lleihau unigrwydd, cael gafael ar gyfleoedd i wella'u hiechyd corfforol neu gael help i reoli dyled. Drwy'r dulliau ataliol hyn, mae gan unigolion y grym i wneud eu dewisiadau eu hunain ac i ymgysylltu mwy â'u cymuned, ac mae tystiolaeth yn awgrymu y gallai'r pwysau ar wasanaethau gofal sylfaenol hefyd gael ei leihau drwy ddefnyddio presgripsiynu cymdeithasol."

Dywedodd yr Athro Carolyn Wallace, Prifysgol De Cymru:

"Mae'r tîm yn Ysgol Ymchwil Rhagnodi Cymdeithasol Cymru, ym Mhrifysgol De Cymru, yn falch iawn o fod wedi cael y cyfle i weithio gydag unigolion a sefydliadau i helpu i ddatblygu'r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Presgripsiynu Cymdeithasol yng Nghymru.

"Mae rhagnodi neu bresgripsiynu cymdeithasol yn fudiad sy'n magu momentwm yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae'r Fframwaith Cenedlaethol hwn, ynghyd â’i holl elfennau, yn rhoi cyfle inni dynnu sylw at arferion gorau yng Nghymru a gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl."

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

Notes

  • * phw.nhs.wales/publications/publications1/understanding-social-prescribing-in-wales-a-mixed-methods-study-a-final-report/
  • +Social Prescribing: an alternative approach to reduce the reliance on the NHS and social care services in Wales | University of South Wales and Torjesen, I (2016) Social prescribing could help alleviate pressure on GPs, British Medical Journal 352; 1436
  • Social prescribing is an umbrella term that describes a person-centred approach to linking people to local community assets. It is a way of connecting people, whatever their age or background, with their community to better manage their health and well-being. It aims to empower individuals to recognise their own needs, strengths, and personal assets.
  • Within Wales, organisations offering social prescribing are not just located in health care settings, rather they are based in a range of organisations including; GP surgeries, third sector organisations, housing associations, local authorities, or educational settings.
  • The National Framework for Social Prescribing (NFfSP) has been shaped by responses from the 2022 consultation on a Welsh approach to social prescribing.
  • The NFfSP will consist of a number of guidance documents and tools which have or will be coproduced with stakeholders across Wales, including Public Health Wales, Health Education Improvement Wales, the Wales School for Social Prescribing Research, Wales Council for Voluntary Action and representatives from delivery partners and providers.