Prif Arolygydd Cynllunio newydd yn cael ei phenodi i gorff newydd Llywodraeth Cymru
New Chief Planning Inspector of new Welsh Government body appointed
Mae Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, wedi croesawu penodiad Vicky Robinson yn Brif Arolygydd Cynllunio cyntaf Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru.
Ar hyn o bryd Vicky yw’r Rheolwr Gweithredol Cynllunio a Rheoli Adeiladu gyda Chyngor Bro Morgannwg, a bydd hi’n dechrau yn ei swydd newydd yn gynnar yn 2022.
Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:
"Mae’n dda gen i gyhoeddi bod Vicky Robinson wedi cael ei phenodi yn Brif Arolygydd Cynllunio Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru.
Mae Vicky yn dod â thoreth o brofiad o’i swydd fel Rheolwr Gweithredol Cynllunio a Rheoli Adeiladu gyda Chyngor Bro Morgannwg.
"Yn ei swydd, bydd Vicky yn hyrwyddo ymrwymiad Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru i gefnogi datblygu cynaliadwy drwy ddarparu gwasanaeth agored, teg a diduedd sy'n sicrhau bod pob penderfyniad cynllunio yn diwallu anghenion eu cwsmeriaid. Rwy'n edrych ymlaen at ei gweld hi’n dechrau’r swydd y flwyddyn nesaf".
Dywedodd Vicky Robinson:
"Mae’n destun pleser a balchder mawr imi mai fi fydd Prif Arolygydd Cynllunio cyntaf Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru, ar ddechrau’r bennod newydd hon yn fy ngyrfa i, ac ar gyfer cynllunio yng Nghymru.
Mae'r rôl yn gyfle gwych ar adeg o newidiadau a heriau mawr.
Rwy'n awyddus i ddechrau ar y gwaith, i ddechrau trafod â rhanddeiliaid a helpu i barhau i godi safon y gwasanaeth ar gyfer ei holl gwsmeriaid, yn ei gartref newydd o fewn Llywodraeth Cymru".
Mae Vicky hefyd wedi bod yn gadeirydd Cymdeithas Swyddogion Cynllunio Cymru ac mae'n aelod o Fwrdd Partneriaeth Prifysgol Caerdydd a'r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol".