English icon English

Prif feddyg Cymru yn annog busnesau mawr i gymryd mwy o gyfrifoldeb am iechyd y cyhoedd

Big business urged to take greater responsibility for public health by Wales’ top doctor

Yn ei adroddiad blynyddol ar gyfer 2023, mae Syr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru, wedi galw ar gwmnïau mawr i gymryd mwy o gyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol am iechyd y cyhoedd.

Mae'r adroddiad eleni, o'r enw ‘Siapio ein Hiechyd’, yn canolbwyntio ar y strategaethau a'r dulliau sy'n cael eu defnyddio gan fusnesau i hyrwyddo cynhyrchion a dewisiadau sy'n niweidiol i'n hiechyd – gan gynnwys fepio, gamblo a bwyd a diod sydd wedi'u prosesu hyd at lefel eithafol.

Mae'n dweud y gall diwydiannau mawr gael dylanwad sylweddol ar ein hamgylchedd ac ar ein dewisiadau mewn ffyrdd amrywiol a chymhleth – o'r ffordd y byddant yn cael gafael ar gynhyrchion ac yn eu gweithgynhyrchu i'w dulliau marchnata.

Mae adroddiad blynyddol y Prif Swyddog Meddygol yn edrych ar gyflwr iechyd y cyhoedd yng Nghymru ac yn gwneud argymhellion i wella hyn.

Dywedodd Syr Frank Atherton:

“Mae gan Gymru hanes cryf eisoes o arwain y ffordd wrth ddiogelu iechyd y cyhoedd.

“Ond, mae ein system Iechyd a Gofal Cymdeithasol o dan bwysau aruthrol yn barod. Mae angen inni ddefnyddio pob dull posibl i leihau'r risg y bydd pobl yn meithrin ymddygiad afiach fel smygu, bwyta deiet gwael, defnyddio cyffuriau ac alcohol, gamblo, a sicrhau hefyd eu bod yn gwneud digon o ymarfer corff.

“Yn aml, mae'r cynhyrchion hyn yn cael eu defnyddio cymaint o ganlyniad i'r strategaethau sy'n cael eu defnyddio gan y cwmnïau mawr sy’n eu cynhyrchu, eu marchnata, eu dosbarthu neu'n eu gwerthu, ac nid mater o 'ddewis' yr unigolyn yn unig yw hyn."

Yn ‘Siapio ein Hiechyd’, mae Syr Frank Atherton hefyd yn dweud bod newid hinsawdd yn fygythiad mawr i iechyd y cyhoedd.

Mae’n galw ar fusnesau i gydnabod yr effaith y maen nhw'n ei chael ar yr argyfwng hinsawdd. Ar adeg pan fo achosion yn fyd-eang o fusnesau sy'n honni bod yn fwy gwyrdd nag ydynt mewn gwirionedd neu'n ‘gwyrddgalchu’, mae ef hefyd yn gofyn am dryloywder llwyr mewn perthynas â phob honiad amgylcheddol.

Mae'r Prif Swyddog Meddygol hefyd yn canmol busnesau sy'n datgarboneiddio.

Mae Totally Welsh o Hwlffordd, sy'n cyflenwi llaeth sydd wedi’i gynhyrchu o fewn cwmpas o bedwar deg o filltiroedd i’w ffatri botelu i gwsmeriaid lleol, yn un o'r busnesau hynny.

Dywedodd John Horsman, Rheolwr Cyffredinol yn Totally Welsh:

“Mae ailgylchu ac ailddefnyddio wedi bod yn ganolog i ethos y cwmni o’r dechrau. Yn ogystal â lleihau taith bwyd drwy ddod o hyd i'r cynnyrch a’i werthu yn lleol, rydyn ni hefyd yn defnyddio deunydd pacio cynaliadwy. Eleni, yn ogystal â'r cartonau polyethylen sy'n gallu cael eu hailgylchu, byddwn ni’n dechrau defnyddio poteli gwydr ar gyfer gwerthu ein llaeth."

Ychwanegodd y Prif Swyddog Meddygol:

“Mae llawer o enghreifftiau cadarnhaol o fusnesau sy'n ymateb i'r bygythiad byd-eang o newid hinsawdd gan ddangos cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol.

“Ond mae fy adroddiad hefyd yn tynnu sylw at y tueddiad cynyddol o gwmnïau sy'n twyllo defnyddwyr drwy farchnata eu cynhyrchion gan roi’r argraff eu bod nhw’n fwy ecogyfeillgar nag ydyn nhw mewn gwirionedd.”