Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, yn gosod nod uchelgeisol i gynnig apwyntiad pigiad atgyfnerthu i bob oedolyn cymwys cyn diwedd y flwyddyn.
First Minister outlines ambitious aim to offer all eligible adults a booster appointment by end of year
Heno, bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn amilnellu nod Cymru i gynnig apwyntiad I bob oedolyn cymwys gael trydydd dos o’r brechlyn erbyn diwedd Rhagfyr.
Mae cynlluniau brys ar droed i gyflymu’r rhaglen brechlyn atgyfnerthu ymhellach, wrth I dysttiolaeth newydd ddangos nad yw dau bigiad yn ddigon i amddiffyn rhag yr amrywiolyn omicron newydd. Ond mae’r pigiad atgyfnerthu’n hollbwysig i wella’r amddiffyniad rhag yr amwyiolyn newydd sy’n lledaenu’n gyflym.
Mewn neges deledu i bobl Cymru, bydd y Prif Weinidog yn dweud:
“Rhaid i ni baratoi am dwf mawr iawn a chyflym yn yr achosion – yn union fel pob rhan arall o’r Deyrnas Unedig. Rydyn ni’n dal i ddysgu am y ffurf newydd hwn o’r coronafeirws. Ond, mae’r wybodaeth sydd gennym yn dweud ein bod yn wynebu sefyllfa ddifrifol iawn. Mae omicron yn symud yn gyflym iawn. Erbyn diwedd y mis, omicron fydd yr amrywiolyn mwyaf cyffredin o’r feirws, gan ddod â thon newydd o haint a salwch.
“Mae’n bosibl y bydd hyn yn arwain at nifer fawr o bobl yn yr ysbyty, ar yr union adeg pan mae’r Gwasnaeth Iechyd eisoes dan straen sylweddol. Bydd Llywodraeth Cymru’n gwneus popeth y gallwn i amddiffyn iechyd y bobl, a diogelu Cymru.”
“Daeth tystiolaeth newydd bod ein brechlynnau yn effeithiol yn erbyn omicron. Nid yw dau ddos o’r brechlyn yn ddigon i roi’r amddiffyniad sydd ei angen ar bawb. Mae’r dos atgyfnerthu - y trydydd dos - yn hollbwysig. Rydym eisoes wedi cyflymu ein rhaglen atgyfnerthu; mae gennym glinigau newydd ac oriau agor hirach. Nawr, mae ymdrechion brys i gyflymu’r rhaglen eto. Ein nod yw cynnig apwyntiad i bob oedolyn cymwys erbyn diwedd y flwyddyn, os gallwn.
“Dyma fydd blaenoriaeth y Gwasanaeth Iechyd dros yr wythnosau nesaf. A chithau hefyd - rhowch flaenoriaeth i’r pigiad atgyfnerthu. Dyma’r peth pwysicaf y gallwch ei wneud i amddiffyn eich hun yn erbyn y coronafeirws a’r amrywiolyn newydd. Rwyf am ddiolch i’n holl dimau brechu am eu gwaith caled i’n diogelu ni i gyd.
Bydd y Prif Weinidog yn ychwanegu
“Doedd neb ohonom eisiau clywed y newyddion am yr amrywiolyn omicron hwn.
Ar ôl dwy flynedd hir o’r pandemig, roeddem i gyd wedi gobeithio gallu rhoi’r coronafeirws tu nôl i ni y Nadolig hwn.
Unwaith yn rhagor, yn anffodus, rydym yn wynebu sefyllfa ddifrifol, sy’n gwaethygu.
“Gallwn dynnu gyda’n gilydd eto, i ddiogelu ein gilydd – ein ffrindiau, ein teulu, ein cymdogion. Diogelu ein gilydd, a chadw ein hunain yn iach ac yn saff.
“Rydyn ni eisoes wedi cymryd rhai camau i amddiffyn pobl. Ac mae’n debygol y bydd angen i ni gymryd camau eraill i’ch diogelu chi, a diogelu Cymru”
Nodiadau i olygyddion
Bydd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan yn rhoi diweddariad am y rhaglen frechu yn y gynhadledd i’r Wasg yfory.