English icon English
St David Award-5

Prif Weinidog Cymru yn gwahodd Enillwyr Gwobrau Cenedlaethol i gemau rygbi'r Chwe Gwlad

National Award Winners invited to Six Nations rugby games by the First Minister of Wales

Bydd enillwyr Gwobrau Dewi Sant yn 2020 a 2021 yn westeion Llywodraeth Cymru ar gyfer gemau Cymru yn erbyn Ffrainc a'r Eidal.

Gwobrau Dewi Sant yw gwobrau cenedlaethol Cymru sy'n cydnabod llwyddiannau eithriadol pobl o bob rhan o Gymru.

Yn 2020 a 2021, cafodd yr enillwyr eu cyhoeddi yn ystod seremoni rithwir yn sgil pandemig y Coronafeirws.

Gan nad oedd modd cynnal digwyddiad wyneb yn wyneb i wobrwyo'r enillwyr, mae'r Prif Weinidog wedi eu gwahodd i wylio Cymru yn chwarae ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness yn Stadiwm Principality.

Ymhlith yr enillwyr sydd wedi’u gwahodd mae Wasem Said o Butetown yng Nghaerdydd ac Ayette Bounouri o Drealaw yn y Rhondda.

Enillodd Wasem Said Wobr Ysbryd y Gymuned yn 2020 am ei waith gyda Chlwb Bocsio Amatur Tiger Bay,

“Mae hwn yn anrhydedd mawr. Ar ôl yr holl gyfyngiadau sydd wedi bod, bydd yn wych i bawb gael dod at ei gilydd a dathlu'r gwaith caled y mae mudiadau o bob rhan o Gymru yn ei wneud”.

Ayette Bounouri oedd cyd-enillydd y wobr am Ddewrder yn 2021 am helpu dioddefwr yn ystod ymosodiad â chyllell yn y siop CO-OP leol.

“Mae'n anrhydedd cael fy ngwahodd gan y Prif Weinidog i gêm olaf Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad. Er fy mod yn ddinesydd Ffrengig, Cymru yw fy nghartref a dymunaf bob llwyddiant i Gymru yn y Chwe Gwlad. Pob lwc Cymru!"

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford,

“Rwy'n falch iawn o allu gwahodd enillwyr Gwobrau Dewi Sant i gemau'r Chwe Gwlad.

“Nid oes amheuaeth, yn union fel ein tîm rygbi cenedlaethol, fod enillwyr y gwobrau yn arwyr sy'n haeddu cael eu llongyfarch am eu cyfraniadau at fywyd yng Nghymru.

“Mae rhai wedi dangos gwir ddewrder ac arwriaeth. Mae eraill wedi dangos ysbryd cymunedol anhygoel yn ystod cyfnodau anodd”.

Roedd dau o chwaraewyr rygbi mwyaf adnabyddus Cymru yn rhan o wobrau 2020: Enillodd Alun Wyn Jones y categori Chwaraeon, a dyfarnwyd y Wobr Arbennig gan y Prif Weinidog i Gareth Thomas.

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Undeb Rygbi Cymru, Steve Phillips,

“Gyda dau enillydd yn 2020 mae rygbi Cymru yn cael ei gynrychioli’n dda yng Ngwobrau Dewi Sant yn ddiweddar.

“Fel y chwaraewr sydd wedi ennill y nifer fwyaf erioed o gapiau, mae bron yn amhosibl cymharu cyfraniad Alun Wyn at rygbi Cymru â chyfraniad unrhyw un arall. Mae’r un peth yn wir am y ffordd y mae wedi cynrychioli Cymru'n rhyngwladol.

“Yn ogystal â bod yn gapten ar ei wlad, mae Gareth Thomas wedi cynrychioli’r Llewod Prydeinig a Gwyddelig, mae hefyd wedi ymgyrchu'n ddiflino ac yn ddewr dros faterion cymdeithasol hanfodol.

“Rydym yn llawn balchder wrth ymestyn ein cysylltiad â gwobrau cenedlaethol Cymru hyd yn oed ymhellach eleni drwy groesawu Gweinidogion ac enillwyr 2020 a 2021 i Stadiwm Principality ar gyfer y gemau hyn.”