English icon English

Prif Weinidog Cymru yn ymweld â thref fach hardd Saundersfoot i ddathlu Cymru fel prif gyrchfan i dwristiaid.

First Minister visits sunny Saundersfoot to celebrate Wales as top tourism spot

Manteisiodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, ar y cyfle i fwynhau hufen iâ ar yr Harbwr yn Saundersfoot, wrth ymweld â Chanolfan Arfordirol Ryngwladol newydd Cymru, a fydd yn agor yn llawn yn 2023.

Roedd y Prif Weinidog ar ymweliad â’r harbwr prydferth wrth i’r ffigurau diweddaraf gael eu cyhoeddi heddiw, yn dangos bod tri chwarter (75%) o fusnesau twristiaeth Cymru naill ai wedi gweld cynnydd mewn lefelau ymwelwyr neu fod y lefelau wedi aros yr un fath, dros yr hanner tymor ym mis Mai.

Yn ôl Baromedr Busnes Twristiaeth Cymru, bu cynnydd o 25% yn nifer yr ymwelwyr o’i gymharu â’r lefelau cyn y pandemig, gyda bwytai, tafarnau, a chaffis yn mwynhau penwythnos prysur dros ŵyl banc y Jiwbilî, a 38% o fusnesau lletygarwch yn croesawu mwy o gwsmeriaid nag arfer. 

Wrth siarad ar yr harbwr, sydd wedi cael dros £5.7 miliwn gan Lywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth cyllid yr UE, dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford: “Mae’n braf iawn cael ymweld â lle mor hardd â Saundersfoot a gweld Canolfan Arfordirol Ryngwladol newydd Cymru, sy’n ganolfan drawiadol iawn.

“Mae Cymru yn wlad sy’n cynnig cyfle i fwynhau anturiaethau o’r radd flaenaf, gan gynnwys y beicio mynydd gorau ym Mhrydain, y llyn syrffio mewndirol cyntaf yn y byd, tirweddau naturiol eithriadol, a diwylliant creadigol. Yn ogystal â hyn, wrth inni ddathlu deng mlynedd o lwyddiant menter flaenllaw sefydlu Llwybr Arfordir Cymru, mae’n wych gweld y datblygiadau cyffrous sy’n digwydd yn Saundersfoot.  Dw i’n annog pobl o bob man yng Nghymru a thu hwnt i fentro i ymweld â mannau newydd yng Nghymru yn ystod yr haf.”

Er bod arwyddion calonogol bod cryfder yn y sector, mae ’na bryderon am y ffordd mae costau byw’n codi a sut y bydd pobl yn gallu fforddio mynd ar wyliau. Yn y cyfamser, mae’r gost o weithredu busnes yn codi’n sylweddol, er bod busnesau’n ceisio osgoi codi prisiau i gwsmeriaid oherwydd yr ofn o brisio’u hunain allan o’r farchnad.”

Ychwanegodd y Prif Weinidog: “Rydyn ni’n gwerthfawrogi bod busnesau twristiaeth Cymru wedi cael hwb gan ŵyl banc y Jiwbilî, ond serch hynny mae’n amser pryderus i’r sector, gyda chwyddiant ar i fyny, costau gweithredu’n codi, a heriau o ran recriwtio staff.

“Byddwn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i wneud yn siŵr bod tymor yr haf yng Nghymru yn llwyddiant. Ein gweledigaeth ar gyfer Cymru yw sicrhau bod twristiaeth yn tyfu er budd Cymru, sy’n golygu bod angen gweithio gyda chymunedau, ymwelwyr a busnesau i sicrhau twf cynaliadwy yn y sector hwn.”

Mewn ymchwil bellach gan Domestic Sentiment Tracker Visit Britain, gwelir bod 39% o ymatebwyr yn dweud eu bod yn fwy tebygol o ddewis ymweld â rhywle yn y DU na mynd dramor, o gymharu â chyn y pandemig. Y prif resymau dros y dewis hwn yw ei bod yn haws trefnu gwyliau yn y DU, a bod ciwiau hir mewn meysydd awyr a theithiau awyrennau’n cael eu canslo.

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi’r sector twristiaeth mewn nifer o ffyrdd penodol. Fel arfer, ni fydd Croeso Cymru yn cynnal ymgyrch yr amser yma o’r flwyddyn, ond er mwyn rhoi hwb i hyder, a sicrhau bod Cymru’n flaenllaw ym meddyliau’r rheini sy’n trefnu gwyliau munud olaf, bydd ymgyrch cyhoeddusrwydd sy’n cynnwys y teledu, fideo ar alw, a gweithgarwch digidol y telir amdano yn targedu cynulleidfaoedd allweddol yng Nghymru ac ar draws y DU yn ystod mis Gorffennaf.

Mae hysbyseb Croeso yn cynnwys enghraifft o ddiwrnod yng Nghymru o'r wawr tan fachlud haul. Gan ddefnyddio lleoliadau a chynnyrch o wahanol rannau o’r wlad, mae’n cynnwys nifer o brofiadau megis mynd ar gwch i weld dolffiniaid, aros mewn llety gwych, bwyta allan, a mwynhau digwyddiadau cerddorol.

Hefyd, mae cymorth ar gael i helpu’r sector twristiaeth i recriwtio staff. Mae’r ymgyrch gwneuthurwyr profiadau’n gweithio i godi ymwybyddiaeth o’r nifer uchel o swyddi gwag a’r amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa sydd ar gael yn y diwydiant, a bydd yr ymgyrch yn parhau yn ystod 2022/23.

Mae’r gweithgarwch hwn yn digwydd ochr yn ochr â chymorth arall sy’n cael ei ddarparu gan Croeso Cymru ar gyfer y diwydiant yn ei flwyddyn adfer gyntaf, gan gynnwys cydweithio gyda Cyflymu Cymru i Fusnesau i annog pobl i fanteisio ar hyfforddiant digidol i alluogi gweithredwyr i sicrhau bod eu gweithgarwch marchnata’n gyfredol. Hefyd mae Croeso Cymru wedi ei gwneud yn bosibl cyflwyno TXGB, sef platfform busnes ar-lein i helpu gweithredwyr i ymestyn eu cwmpas marchnata. Mae’r platfform yn rhoi’r cyfle i fusnesau gael mynediad gwell at sianeli gwerthu ar-lein, a hynny ar gyfraddau comisiwn is, sy’n golygu y gall busnes hyrwyddo’r hyn y mae’n ei gynnig mewn modd mwy cost-effeithiol gan ddenu mwy o fusnes uniongyrchol.