Prif Weinidog Cymru yn ymweld â thref gyntaf y byd i roi cynnig ar gynllun ailgylchu poteli digidol
First Minister visits world’s first town to try digital bottle recycling
Ymwelodd Prif Weinidog Cymru ag Aberhonddu heddiw i weld sut mae treial cynllun ailgylchu ernes digidol yn mynd rhagddo.
Aberhonddu yw'r dref gyntaf yn y byd i brofi'r math arbennig hwn o gynllun ernes digidol.
Yn ystod y treial, mae pobl yn hawlio 10c am bob potel sydd wedi'i marcio'n arbennig y maent yn ei hailgylchu drwy ei sganio gydag ap.
Mae tua 1,200 o aelwydydd yn Aberhonddu wedi cofrestru i gymryd rhan yn y cynllun. Mae modd ailgylchu caniau neu boteli drwy'r system casglu gwastraff arferol o'r cartref, dros y cownter mewn siopau neu drwy beiriannau ailgylchu arbennig sydd wedi'u lleoli o amgylch y dref.
Mae'r treial, sy'n rhedeg tan 1 Tachwedd, yn edrych ar sut y gellir defnyddio technoleg ddigidol mewn cynllun dychwelyd ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd.
Bob blwyddyn mae defnyddwyr y DU yn defnyddio rhyw 14 biliwn o boteli diodydd plastig a 9 biliwn o ganiau diodydd, y mae llawer ohonynt yn cael eu taflu'n sbwriel neu'n cael eu hanfon i safleoedd tirlenwi. Mae enghreifftiau rhyngwladol yn dangos y gall cynlluniau dychwelyd ernes roi hwb i ailgylchu cynwysyddion diodydd, gyda chyfraddau o fwy na 90% yn yr Almaen, y Ffindir a Norwy.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford:
"Rydym wedi ymrwymo i gyflwyno cynllun dychwelyd ernes yng Nghymru ac mae'n bwysig ein bod yn archwilio'r gwahanol ffyrdd y gellid cyflwyno cynllun o'r fath.
"Cymru yw'r drydedd wlad orau yn y byd am ailgylchu ond mae angen i ni fynd ymhellach os ydym am gyrraedd sero net a mynd i'r afael â sbwriel. Bydd yr hyn a ddysgwn o'r treial hwn yn ein helpu i ddeall patrymau ailgylchu yn well, sy'n rhan bwysig o gyrraedd y targed hwnnw.
"Mae wedi bod yn ddiddorol iawn dysgu mwy am y cynllun yma gan bobl yn Aberhonddu a oedd yn ymdrech wych gan y gymuned leol."
Dywedodd Duncan Midwood o Circularity Solutions Ltd, arweinydd y prosiect a phennaeth y consortiwm sy'n arwain y cynllun peilot:
"Mae Cymru yn arwain y ffordd o ran cefnogi datblygiad cynllun ailgylchu ernes digidol sy'n addo trawsnewid y ffordd y mae pecynnau'n cael eu casglu i'w ailgylchu ledled y byd. Bydd y gwersi a ddysgwyd o'r treial yn Aberhonddu yn helpu diwydiant a deddfwyr i ddeall sut y gallai cynllun ailgylchu ernes digidol weithio o fewn cynllun o'r fath ar gyfer y DU i gynyddu'r lefelau ailgylchu ymhellach."
Dywedodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys dros Bowys Wyrddach:
“Mae wedi bod yn wych bod yn rhan o’r prosiect hwn a gweithio ar y cyd â Llywodraeth Cymru, llawer o sefydliadau eraill, cynrychiolwyr y diwydiant, busnesau a’r gymuned leol yn Aberhonddu. Mae gan Bowys ddiwylliant ailgylchu trawiadol eisoes ac mae wedi bod yn dda gweld sut y gellir defnyddio cynllun dychwelyd blaendal ar y cyd â’r gwasanaeth casglu ymyl y ffordd llwyddiannus sy’n bodoli eisoes.”