Y Prif Weinidog yn ymweld â Gwlad y Basg
First Minister to visit the Basque Country
Bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn ymweld â Gwlad y Basg yr wythnos hon i gwrdd â Llywydd Llywodraeth Gwlad y Basg, Gweinidogion y Llywodraeth a Llywydd Senedd Gwlad y Basg.
Bydd y Prif Weinidog yn cwrdd hefyd â CAF a Gestamp – dau gwmni o Wlad y Basg sydd â chysylltiadau cryf â Chymru.
Daeth CAF i Gymru gyntaf yn 2017 i weithgynhyrchu cerbydau trên ar gyfer rhwydwaith y Deyrnas Unedig (DU). Mae’n cyflogi 220 o bobl yn ei ffatri ar safle hen waith dur Llanwern yng Nghasnewydd.
Mae Gestamp yn gwmni amlwladol sy’n cyflogi 255 o bobl yn Llanelli. Mae’n arbenigo mewn dylunio a chynhyrchu rhannau ar gyfer cwmnïau cynhyrchu ceir.
Prif ffocws ymweliad y Prif Weinidog fydd datblygu economaidd, ynni adnewyddadwy a’r cyfleoedd am gysylltiadau economaidd agosach a mwy o gydweithredu rhwng y ddwy wlad.
Yn ystod ei ymweliad, bydd y Prif Weinidog yn trafod y llwyddiant i hyrwyddo’r Fasgeg a’r degawdau o gydweithredu rhwng y ddwy wlad ym maes hyrwyddo ieithyddol.
Bydd y Prif Weinidog yn traddodi araith yn y gynhadledd Metropolis y Dyfodol, gan ddisgrifio’r gwaith sy’n cael ei wneud yng Nghymru ar heneiddio’n iach a chenedlaethau’r dyfodol.
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:
“Mae perthynas glos wedi bod rhwng Cymru a Gwlad y Basg ers blynyddoedd lawer, gan weithio gyda’n gilydd a dysgu oddi wrth ein gilydd ym maes datblygu ieithyddol.
“Mae gennym berthynas economaidd sy’n blodeuo – ac mae potensial mawr iddi dyfu yn y dyfodol.
“Mae’r ymweliad yn gyfle i ategu bod Cymru’n wlad Ewropeaidd o hyd.
“Byddwn yn parhau i feithrin a chryfhau ein cysylltiadau ledled Ewrop i greu gwlad gryfach, decach a gwyrddach i’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru, ac i fusnesau ac i’n partneriaid.”