Prif Weinidog yn cyflwyno ei Wobr Arbennig i’r bardd a’r awdur Gillian Clarke
Poet and author Gillian Clarke receives First Minister’s Special Award
Enillydd Gwobr Arbennig y Prif Weinidog yn seremoni Gwobrau Dewi Sant yw Gillian Clarke.
Cafodd y bardd a’r awdur ei dewis gan y Prif Weinidog oherwydd ei chyfraniad nodedig at y celfyddydau, llenyddiaeth a diwylliant yng Nghymru.
Daw Gillian Clarke yn wreiddiol o Gaerdydd ond mae hi bellach yn byw yng Ngheredigion.
Mae ei gwaith wedi bod yn rhan o faes llafur arholiadau TGAU a Lefel A ers dros 30 mlynedd.
Bu’n Fardd Cenedlaethol Cymru rhwng 2008 a 2016, enillodd Fedal Aur y Frenhines am Farddoniaeth yn 2010 ac enillodd Wobr Wilfred Owen yn 2012.
Gwobrau Dewi Sant yw gwobrau cenedlaethol Cymru sy’n cydnabod pobl sydd wedi gwneud pethau rhyfeddol.
Eleni, gwobrwywyd pobl a oedd wedi’u noddi gan y cyhoeddi mewn categorïau fel dewrder, busnes ac ysbryd gymunedol.
Eleni oedd degfed blwyddyn y Gwobrau, a chyflwynwyd tlws newydd ei wedd i’r enillwyr, wedi’i wneud gan yr arlunydd ceramig Daniel Boyle o Geredigion.
Cyhoeddwyd yr enillwyr mewn seremoni yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd.
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:
“Roedd yn wych cael croesawu’r bobl oedd wedi cyrraedd y rownd derfynol i’r seremoni i ddathlu’u llwyddiannau. Maen nhw oll yn bobl y dylid eu llongyfarch am eu cyfraniad at fywyd Cymru.
“Eleni, roedden ni’n dathlu 10fed Pen-blwydd y gwobrau gydag ystod neilltuol o gryf arall i ddewis ohonyn nhw. Mae’n holl enillwyr yn bobl sydd wedi gwneud pethau mawr, naill ai trwy fod yn ddewr, yn arloesol neu yn benderfynol eu cyfraniad at eu cymuned.
“Hoffwn longyfarch Gillian Clarke am ei chyfraniad anhygoel dros y degawdau i lenyddiaeth a barddoniaeth Cymru”.
“Mae iaith mor bwysig i ni yng Nghymru. Mae bod yn wlad lle siaredir dwy iaith bob dydd yn golygu mai geiriau sy’n ein diffinio, fel unigolion ac fel gwlad. Dyna’r rheswm pam y bu gan feirdd le mor bwysig yn ein hanes.
“Mae gwobr heddiw yn ffordd o ailddatgan hynny yn y Gymru gyfoes, trwy anrhydeddu un o feirdd mwyaf blaenllaw fy oes. Mae gwaith Gillian Clarke yn costreli harddwch, grym a chlymau ein bywyd. Mae’n anrhydedd cael cynnig y wobr hon iddi.”
Dywedodd Gillian Clarke:
“Mawr oedd fy syndod pan glywais mod i wedi ennill y wobr hon, ond rwy’n neilltuol o hapus mai Mark Drakeford sy’n ei rhoi i mi.
“Mae’n dda iawn gwybod bod gennym Brif Weinidog sy’n trysori barddoniaeth.”
Dyma enillwyr Gwobrau Dewi Sant eleni:
- Dewrder: Hari Thomas a Dylan Pritchard-Evans
- Busnes: Cȃr-y-Môr
- Ysbryd y Gymuned: Nawdd De Cymru dros Wcráin
- Gweithiwr Allweddol: Uned Lleihau Niwed, Huggard
- Diwylliant: Unify
- Pencampwr yr Amgylchedd: Andy Rowland
- Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg: CanSense
- Chwaraeon: Olivia Breen
- Person Ifanc: Skye Neville