English icon English
Judith Paget-2

Prif Weithredwr GIG Cymru yn ymateb i’r data perfformiad diweddaraf

NHS Wales Chief Executive responds to latest performance data

Mae Prif Weithredwr GIG Cymru Judith Paget wedi ymateb i ddata perfformiad diweddaraf GIG Cymru ar gyfer mis Ebrill a mis Mai 2023.

Dywedodd: “Mae ein Gwasanaeth Iechyd yn parhau i weld y galw uchaf erioed, ond mae ein staff ymroddedig a gweithgar yn parhau i ddarparu safon uchel o ofal bob dydd.

“Rwy’n falch o weld gwelliant parhaus mewn amseroedd ymateb ambiwlansiau – y gorau mewn blwyddyn – a gwelliant pellach ym mherfformiad yr adrannau argyfwng er y pwysau cyson sydd arnynt.

“Roedd y nifer cyfartalog o dderbyniadau i leoliadau gofal argyfwng yr ail uchaf erioed ym mis Mai, gyda bron i 100,000 o dderbyniadau, ond roedd perfformiad wedi gwella o’i gymharu â’r targed o bedair awr. Y cyfartaledd amser (canolrifol) a dreuliwyd mewn adrannau argyfwng oedd ychydig dros 2 awr 30 munud fis diwethaf.

Er y bu cynnydd yn y nifer cyfartalog o alwadau i’r gwasanaeth ambiwlans lle roedd bywyd yn y fantol bob dydd ym mis Mai, bu cynnydd o 1.4 pwynt canran yn y gyfran o alwadau yr ymatebwyd iddynt o fewn wyth munud, i 54.4%. Dyma’r perfformiad gorau mewn blwyddyn, a gwelodd dros 85% o alwadau coch ymateb o fewn 15 munud.

Er fy mod yn cydnabod bod llawer mwy i’w wneud, mae’n galonogol gweld gwelliannau’n dechrau digwydd flwyddyn ar ôl lansiad ein Rhaglen Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys a Gofal Mewn Argyfwng.

Mae’n siomedig gweld y rhestr aros gyffredinol yn cynyddu am yr ail fis, ar ôl lleihau am bum mis yn olynol. Ond gwelwyd lleihad yn y nifer sy’n aros mwy na dwy flynedd am y trydydd mis ar ddeg yn olynol, ac mae’r Gweinidog Iechyd wedi gofyn i fyrddau iechyd ganolbwyntio eu hymdrechion ar y rhai sy’n aros hiraf.

Rhaid edrych ar hyn yng nghyd-destun y galw cyson uchel, gyda chynnydd sylweddol mewn atgyfeiriadau ers pandemig COVID-19. Yn ogystal, rydym bob amser yn disgwyl gweld llai o weithgarwch gofal a gynlluniwyd yn ystod gwyliau’r Pasg.

Mae’r gweithgarwch mewn Gofal Sylfaenol hefyd yn parhau i gynyddu, gyda channoedd o filoedd o gleifion yn cael eu gweld mewn practisau cyffredinol ar draws Cymru bob wythnos.

Heddiw, byddaf yn ymweld ag ysbyty Llandochau i weld sut y mae Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro wedi lleihau ôl-groniad ei restrau aros canser, ac ym mis Ebrill wedi sicrhau ei le fel y bwrdd iechyd â’r perfformiad gorau ar gyfer gwasanaethau canser. Mae’n bwysig bod byrddau iechyd yn dysgu gan fyrddau iechyd eraill o ran sut i wella perfformiad.

Rydym yn cwrdd â’r byrddau iechyd i’w cefnogi i wella perfformiad ac yn arbennig i fynd i’r afael â’r amseroedd aros hiraf am driniaeth.”