Profiadau dysgu rhyngwladol sy'n newid bywydau dros 11,000 o bobl – diolch i raglen Taith
Life-changing international learning experiences for over 11,000 people – thanks to Taith
Ers ei lansio yn 2022, mae Taith – rhaglen gyfnewid ryngwladol Llywodraeth Cymru ar gyfer dysgu – wedi darparu cyllid i ganiatáu i dros 11,000 o bobl gael y cyfle i ddysgu, astudio a gwirfoddoli ar draws y byd.
Mae Taith yn darparu cyfleoedd i ddysgwyr, pobl ifanc a staff ym mhob math o leoliad addysg ac ieuenctid deithio dramor i ddysgu, yn ogystal â chaniatáu i sefydliadau wahodd eu partneriaid rhyngwladol i ddod i ymweld â Chymru.
Ers ei lansio ym mis Chwefror y llynedd, mae Taith wedi galluogi:
- cyfleoedd i dros 11,000 o bobl deithio a dysgu drwy deithiau cyfnewid a all drawsnewid bywydau pobl,
- teithiau cyfnewid rhwng Cymru a mwy na 90 o wledydd,
- 142 o brosiectau sy'n cynnwys mwy na 150 o sefydliadau o bob awdurdod lleol yng Nghymru.
Un grŵp o bobl ifanc sydd wedi elwa ar gyllid Taith yw disgyblion o Ysgol Gynradd Oak Field yn y Barri a deithiodd i Murcia yn Sbaen i gymryd rhan mewn ystod o weithgareddau addysgol, gan gynnwys gweithgareddau i fagu eu hyder, ar y cyd â'u cyfoedion yn Sbaen.
Kelly Bladon, sy’n athrawes yn yr ysgol a wnaeth gais am y cyllid a alluogodd 30 o blant 9-11 oed i gymryd rhan. A dyna’r tro cyntaf i lawer ohonynt adael Cymru. Dywedodd hi:
"Pwrpas y daith hon oedd sicrhau bod gan y disgyblion uchelgeisiau ar gyfer eu bywyd. Oherwydd allwch chi ddim anelu at rywbeth os nad ydych chi erioed wedi'i brofi. Roedd hi'n gyfle iddyn nhw weld bod cymaint mwy yn y byd."
Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:
"Mae'n wych gweld yr effaith y mae Taith yn ei chael. Mae'n ein galluogi ni i chwalu'r rhwystrau sy'n atal pobl rhag cymryd rhan mewn teithiau cyfnewid rhyngwladol ac mae'n agor y drysau i gyfleoedd i bawb.
"Rwy mor falch o weld bod amrywiaeth mor eang o ddarparwyr addysg yn elwa ar y cyllid.
"Mae Taith yn ymwneud â chyfleoedd trawsnewidiol i bobl ifanc fagu hyder, ehangu eu gorwelion, a datblygu eu dyheadau. Yn aml, gwelwn ni'r effaith fwyaf ar y rhai hynny o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol – a gwelwn ni'r newid mwyaf ynddyn nhw hefyd."
Nid yw'r cyllid yn gyfyngedig i ysgolion, colegau a phrifysgolion. Manteisiodd GISDA ar y cyllid hwn – elusen o Gaernarfon sy'n gweithio gyda phobl ifanc ddigartref ac sy'n agored i niwed. Ac ym mis Ebrill eleni aeth GISDA â grŵp i'r Ffindir am wythnos i ddysgu am ddiwylliant y wlad fel rhan o'u haddysg. Cafodd y daith effaith enfawr ar les y bobl ifanc hynny. Ni fyddai llawer ohonynt erioed wedi cael profiad o'r fath heb raglen Taith.
Dywedodd Lyndsey Thomas, Pennaeth Datblygu GISDA:
"Roedd y daith wedi newid eu bywydau. Ysgrifennodd un o'r bobl ifanc a gymerodd ran lythyr atom i ddweud cymaint yr oedd wedi mwynhau'r daith a'i fod wedi teimlo'n hapus am y tro cyntaf ers amser maith. Roedd yn wych clywed hefyd eu bod wedi magu hyder."
Mae Taith wedi ymrwymo i gynnwys unigolion o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol – gan gynnwys y rhai o gefndiroedd difreintiedig, grwpiau ethnig lleiafrifol, pobl anabl a'r rhai ag anghenion dysgu ychwanegol – a gall y rheini wynebu rhwystrau sy’n eu hatal rhag mynd ar deithiau cyfnewid rhyngwladol i ddysgu.
Mae'r rhan fwyaf o ysgolion sydd wedi cael cyllid hyd yma yn dod o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, ac nid yw'r cyfleoedd wedi'u cyfyngu i'r rheini mewn addysg prif ffrwd ychwaith – mae dwy uned cyfeirio disgyblion wedi sicrhau cyllid yn ddiweddar.
Dywedodd Susana Galván Hernandez, Cyfarwyddwr Gweithredol Taith:
"Mae'n wirioneddol ysbrydoledig a mor werth chweil clywed am straeon y cyfleoedd hyn. Ac mae’r effaith y mae'r teithiau cyfnewid hyn yn ei chael – ar y rhai sy'n teithio allan o Gymru yn ogystal â'r rhai sy'n croesawu pobl i Gymru – mor gadarnhaol.
"Mae hyn yn arbennig o wir pan fydd y rhaglen a'r cyfleoedd yn estyn allan i'r rhai sydd â rhwystrau sy’n eu hatal rhag cymryd rhan, ac sydd heb eu cynrychioli’n ddigonol mewn teithiau cyfnewid rhyngwladol yn y gorffennol.
"Mae hefyd yn rhoi boddhad mawr gweld bod rhaglen Taith yn cael ei chydnabod a'i hymgorffori yn y maes addysg ac ym maes rhaglenni cyfnewid rhyngwladol yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Mae hyn yn rhywbeth y dylai Cymru fod yn wirioneddol falch ohono".