English icon English
Michaelston y Fedw Vaughan Gething Economy Minister February 2023 Broadband Internet 2

Prosiect band eang dan arweiniad y gymuned yn Llanfihangel-y-fedw yn estyn cyrhaeddiad band eang cyflymach diolch i fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru

Community-run broadband project in Michaelston Y Fedw successfully extends reach of faster broadband thanks to Welsh Government investment

Mae cynllun band eang dan arweiniad y gymuned mewn pentref gwledig rhwng Caerdydd a Chasnewydd wedi llwyddo i estyn cysylltiadau band eang cyflymach, mwy dibynadwy i ragor o aelodau byth o'r gymuned leol, diolch i gyllid gwerth £525,000 gan Lywodraeth Cymru.

Yn 2017, roedd gan gymuned Llanfihangel-y-fedw wasanaeth band eang a oedd i bob pwrpas yn holl anaddas i'r diben. Daeth y gymuned at ei gilydd a phenderfynu adeiladu eu rhwydwaith band eang eu hunain.

I wneud hyn gwnaethon nhw sefydlu cwmni buddiannau cymunedol; Michaelston y Fedw Internet CIC (MyFi). Helpodd tîm o wirfoddolwyr i adeiladu'r rhwydwaith, a hefyd cafodd contractwyr eu cyflogi i gwblhau rhan o'r gwaith. Roedd cynlluniau talebau Llywodraeth Cymru yn helpu i ariannu'r gwaith o adeiladu'r rhwydwaith. Ar ôl y gwaith cychwynnol, roedd dros 200 o gartrefi a busnesau yn yr ardal yn gallu manteisio ar gyflymderau lawrlwytho a lanlwytho o 1Gbps h.y. 1,000Mbps.

Yn 2020, nododd y gymuned angen am ragor o fuddsoddi er mwyn estyn y rhwydwaith i gartrefi a busnesau eraill, er mwyn diogelu'r buddsoddiad roedden nhw wedi'i wneud eisoes. Y brif broblem oedd bod yr holl offer gweithredol wedi cael ei osod mewn cynhwysydd morgludo yn y pentref. Roedd MyFi yn deall bod hwn yn lleoliad peryglus a oedd yn peri problemau diogelwch, ac roedd yn atal y rhwydwaith rhag cael ei ehangu ymhellach.

Gwnaeth y gymuned gais am gyllid gan Gronfa Band Eang Lleol Llywodraeth Cymru, sef cronfa gwerth £22 miliwn ar gyfer awdurdodau lleol a mentrau cymdeithasol i'w helpu i gyflwyno cynlluniau band eang yn lleol. Mae'r cyllid wedi'u galluogi i storio eu hoffer mewn canolfan ddata ddiogel, a gosod ceblau ffeibr pwynt i bwynt yn uniongyrchol o'r ganolfan ddata yn Lanfihangel-y-fedw. Mae hyn yn golygu bod cysylltiadau band eang y gymuned yn hollol ddiogel ac yn barod ar gyfer y dyfodol, gyda chysylltiadau 10Gbps ar gyfer unrhyw drigolion sy'n gofyn amdanyn nhw.

Diolch i'r buddsoddiad, mae'r rhwydwaith hefyd wedi cael ei estyn i gymunedau cyfagos, gyda 380 o gartrefi a busnesau lleol bellach wedi cael eu cysylltu.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

"Mae MyFi yn brosiect arloesol iawn, sy'n dod â phobl at ei gilydd i sicrhau band eang cyflym a dibynadwy ar gyfer eu cymunedau. Rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gallu helpu'r cwmni adeiladu ar y gwaith gwych maen nhw eisoes wedi'i wneud i sicrhau'r ddarpariaeth band eang a'i hestyn i gymunedau eraill.

"Mae ein Cronfa Band Eang Lleol ac amryw gynlluniau eraill yn dod â chysylltiadau gwell i rai o'r ardaloedd mwyaf anodd eu cyrraedd yng Nghymru. Mae cysylltiadau digidol o ansawdd da yn sail i bopeth rydyn ni'n ei wneud yn ddigidol, a dyma sylfaen cyflawni ein strategaeth ddigidol uchelgeisiol ar gyfer Cymru.

"Mae'r gronfa eisoes yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ledled Cymru, mewn llefydd fel Llanfihangel-y-fedw. Rwyf wrth fy modd bod y gymuned wedi elwa ar gyllid pellach, sydd wedi helpu i gynyddu nifer yr adeiladau sy'n gallu elwa ar gysylltiadau band eang cyflymach.

"Mae band eang yn gyfleustod allweddol, a byddwn ni'n parhau i gefnogi pob ymdrech i roi hwb i gysylltiadau ledled Cymru."

Dywedodd Bethan, trigolyn lleol o Ddraethen sydd wedi manteisio ar gysylltiad â'r rhwydwaith: 

"Mae gen i ddwy ferch yn eu harddegau a gŵr sy'n dwlu ar chwaraeon, a hefyd rydyn ni wedi bod yn gweithio gartref ers dechrau pandemig COVID – roedd ein cysylltiad araf â'r rhyngrwyd yn ‘heriol’, a dweud y lleiaf. Gyda sawl sianel ffrydio yn cael eu gwylio ar yr un pryd, a nifer o ddyfeisiau yn draenio lled y band, roedd defnyddio'r we yn ein tŷ bron â bod yn amhosibl.

"Pan glywais i y gallai MyFi Wales efallai gysylltu'r pentref i'w band eang cyflym iawn, roeddwn i’n benderfynol o wneud popeth yn fy ngallu i helpu. Gwnaeth rhai menywod yn y pentref fy helpu i i drefnu'r gwaith o gasglu enwau pobl a ganddyn nhw ddiddordeb, a dechreuais i wneud cais am yr holl dalebau a oedd eu hangen. Llwyddodd fy ffrind Helen a fi i gael yr holl waith papur wedi'i lofnodi a'i anfon at MyFi cyn y dyddiad cau, a dyna oedd y prosiect wedi'i gychwyn. Roedd gwaith tîm MyFi yn anhygoel, ac rydyn ni'n methu diolch iddyn nhw ddigon am eu holl ymdrech.

"Nawr ni sydd â'r band eang cyflymaf yng Nghymru, ac rydyn ni'n ymdopi â bywyd yn well o lawer, o safbwynt gwaith a safbwynt teulu. Heb os dyma un o'r prosiectau gorau rwyf wedi bod yn rhan ohono fe!"

DIWEDD