English icon English

Prosiect cydgrynhoi cyfraith Cymru yn parhau wrth i ddeddfwriaeth newydd yn ymwneud â’r amgylchedd hanesyddol ddod yn Ddeddf

Welsh law consolidation project continues as new historic environment legislation becomes an Act

Mae deddfwriaeth Gymreig a fydd yn diogelu henebion cofrestredig ac adeiladau rhestredig yn well wedi cael y Cydsyniad Brenhinol.

Hwn yw’r darn cyntaf o ddeddfwriaeth wedi’i chydgrynhoi i gael ei lunio fel rhan o raglen Llywodraeth Cymru i ddiwygio cyfraith Cymru a’i gwneud yn fwy hygyrch.

Mae Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 yn dod â’r prif ddarnau o ddeddfwriaeth sy’n ymwneud ag amgylchedd hanesyddol Cymru ynghyd. Mae’r gyfraith wedi’i moderneiddio a’i threfnu, gan sicrhau ei bod wedi’i hysgrifennu mewn iaith syml, pob dydd.

Am y tro cyntaf erioed, bydd y gyfraith ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol yn cael ei chyhoeddi ar ffurf gwbl ddwyieithog.

Yn dilyn y seremoni selio swyddogol, siaradodd Mick Antoniw, Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru, am y Ddeddf a’r ffordd y bydd yn gwella’r modd y rheolir ein treftadaeth adeiledig ac archaeolegol. Pwysleisiodd hefyd ei ymrwymiad parhaus i sicrhau bod y gyfraith yn syml ac yn hygyrch.

Dywedodd Mick Antoniw, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad:

“Bydd y Ddeddf hon yn golygu y gall perchnogion henebion cofrestredig ac adeiladau rhestredig ddod o hyd i’r ddeddfwriaeth sydd ei hangen arnynt i gyd mewn un man. Bydd y ddeddfwriaeth wedi’i threfnu mewn modd rhesymegol, wedi’i drafftio mewn iaith ddealladwy ac wedi’i chyhoeddi’n ddwyieithog. Yn ei dro felly, bydd amgylchedd hanesyddol Cymru yn cael ei ddiogelu a’i reoli’n well yn y dyfodol.”

Dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden:

"Rwy'n croesawu'r gyfraith newydd hon yn fawr. Bydd ganddi rôl bwysig o ran diogelu a rheoli ein hamgylchedd hanesyddol unigryw yn effeithiol fel y gall barhau i gyfrannu at les Cymru a'i phobl."

Mae’r Ddeddf yn rhan o raglen ehangach gan Lywodraeth Cymru i wella hygyrchedd cyfraith Cymru, ac mae gwaith ar y gweill i foderneiddio a symleiddio cyfraith cynllunio drwy drefniadau cydgrynhoi sydd ar y gweill yn barod.  

Mae’r rhaglen yn amlinellu nifer o uchelgeisiau sy’n cynnwys: llunio tacsonomeg o bynciau cyfraith Cymru, sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn fwy hygyrch yn ddigidol, adolygu’r dull o fynd ati i ddatblygu deddfwriaeth ddwyieithog, a Bil i ddileu darpariaethau anarferedig yng nghyfraith Cymru. 

Cafodd yr uchelgeisiau hyn eu dilysu gan y Senedd wrth i Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 gael ei deddfu. Mae deddfwriaeth sydd i’w chael eisoes mewn meysydd eraill hefyd yn cael ei hadolygu gyda’r bwriad o nodi cyfleoedd i gynnal prosiectau cydgrynhoi pellach.

Ychwanegodd Mick Antoniw:

“Mae hwn yn gam sylweddol ar ein taith tuag at sicrhau bod y gyfraith yn hygyrch ac yn ddealladwy i fwy o bobl. Bydd ein rhaglen yn helpu pobl i ddeall eu hawliau a’u rhwymedigaethau cyfreithiol, sy’n gwbl greiddiol i gynnal democratiaeth iach.”