“Prosiect magnet ResilientWorks i arwain ymgyrch cerbydau trydan Cymru yng nghanol y Cymoedd Technoleg”
“ResilientWorks magnet project to spearhead Wales’ EV drive in heart of Tech Valleys”
Mae Gweinidog yr Economi Vaughan Gething wedi cwrdd â chwmni technoleg byd-eang Thales i weld yn y fan a’r lle sut mae gwaith ar amgylchedd profi ResilientWorks ar gyfer cerbydau trydan ac awtonomaidd a seilwaith ynni yn mynd rhagddo
Bydd ResilientWorks yn brosiect magnet sy’n arwain y diwydiant, a fydd yn creu swyddi newydd, sgil uchel a chyfleoedd economaidd tra'n denu sefydliadau o fusnesau newydd i gwmnïau rhyngwladol mawr i helpu i ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o dechnolegau carbon isel.
Mae partneriaeth Llywodraeth Cymru gyda Thales yn rhan o'i rhaglen fuddsoddi gwerth £100m yn y Cymoedd Technoleg. Mae gan y rhaglen ymrwymiad i greu 1,500 o swyddi cynaliadwy sy'n canolbwyntio ar Flaenau Gwent a’r ardal drwy fanteisio ar gyfleoedd sy'n deillio o'r pedwerydd chwyldro diwydiannol, annog mabwysiadu technolegau digidol a datblygu technolegau uwch gwerth uchel sy'n cefnogi diwydiannau blaengar.
Bydd y cyfleusterau'n cynnwys labordai ymchwil, trac profi a chyfadeilad stryd fodel. Bydd busnesau newydd, busnesau bach a chanolig, cwmnïau rhyngwladol a llywodraethau yn gallu defnyddio'r cyfleuster newydd i brofi'n gadarn y dechnoleg ddatblygol arloesol. Bydd y dechnoleg hon yn ei thro yn helpu i fagu hyder y cyhoedd mewn datblygiadau arloesol, gan gynnwys diogelwch a dibynadwyedd cerbydau awtonomaidd.
Bydd ResilientWorks wedi'i leoli wrth ymyl y Ganolfan Ecsbloetio Ddigidol Genedlaethol (NDEC), sy’n bartneriaeth canolfan ragoriaeth seiberddiogelwch rhwng Thales, Prifysgol De Cymru a Llywodraeth Cymru. Fe'i lleolir ar Gampws Technoleg Thales Glynebwy, ym Mlaenau Gwent yng nghanol y Cymoedd Technoleg.
Dywedodd Gweinidog yr Economi Vaughan Gething:
“Bydd y chwyldro nesaf yn cael ei bweru gan wybodaeth. Mae diwydiannau technoleg yn dibynnu ar weithlu clyfar sydd wedi'i hyfforddi yn yr holl sgiliau cywir ac mae'r system addysg leol eisoes yn paratoi'r genhedlaeth nesaf ar gyfer swyddi sgiliau uchel, gwerth uchel.
“Bydd y cyfleuster yn cynnig gallu unigryw i fyd diwydiant y DU, gan ddwyn ynghyd seilwaith cenedlaethol hanfodol, cerbydau awtonomaidd a systemau pŵer mewn profion ac ymchwil integredig.
"Credwn y bydd ResilientWorks yn brosiect magnet go iawn i arwain ymdrechion cerbydau trydan ac awtonomaidd Cymru ac yn sbardun ar gyfer ynni yng nghanol y Cymoedd Technoleg. Ochr yn ochr â'n partneriaid yn y diwydiant, rydym yn barod i fanteisio ar y cyfleoedd sy'n deillio o dechnolegau datblygol sy’n dod i’r amlwg."
Dywedodd Gareth Williams, Is-lywydd Systemau Gwybodaeth a Chyfathrebu Diogel, Thales:
“"Rydym yn bwriadu i'n campws yng Nglynebwy fod yn fagnet ar gyfer byd diwydiant a gwasanaethau cyhoeddus. Hyd yn oed yn ystod y cam adeiladu hwn mae chwaraewyr mawr yn y diwydiannau pŵer a modurol yn mynegi diddordeb sylweddol yn ResilientWorks. Maent yn cael eu denu gan y cyfuniad unigryw o alluoedd rydym yn eu datblygu yma.
"Mae'r Gweinidog yn ymweld â ni ar ddiwrnod lle rydym hefyd yn cynnal Cyngor Arweinyddiaeth Technoleg Cymru a sesiwn gynllunio strategol ar gyfer un o'n partneriaid allweddol yn y diwydiant pŵer, tra bod ein tîm addysg allan mewn ysgolion a cholegau lleol.
“Yr hyn rydym yn ei wneud yng Nglynebwy, mewn partneriaeth â'r llywodraeth a phrifysgolion, yw gwneud y cymoedd yn ganolfan ar gyfer technoleg fyd-eang a darparu'r sylfaen i Thales dyfu ymhellach yng Nghymru.”
Dywedodd y Cynghorydd Dai Davies, Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Gweithredol dros Adfywio a Datblygu Economaidd:
“Rwy’n falch fod Gweinidog yr Economi wedi gallu ymweld â Blaenau Gwent heddiw i weld y datblygiad cyffrous hwn ei hun. Mae technoleg cerbydau trydan yn sicr yn mynd i helpu i fynd i’r afael â'r her o leihau allyriadau carbon yn y tymor hwy ac mae'n wych y bydd y gwaith datblygu hwn yn digwydd yma yng Nglynebwy. Rwy’n hyderus y bydd y ffordd hon o weithio mewn partneriaeth yn helpu i ddatblygu swyddi lleol medrus iawn ar gyfer y dyfodol, ac y bydd hyn o fudd i'n cymuned a'n heconomi leol.”