Prosiect Trawsnewid Trefi'r Rhyl yn talu ar ei ganfed – Gweinidog yr Economi
Rhyl Transforming Towns project is a win-win – Economy Minister
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething heddiw fod prosiect mewn cyn safle adeiladwyr yn y Rhyl yn talu ar ei ganfed yng nghanol y dref gan greu swyddi, creu cyfleoedd hyfforddi a chefnogi tai fforddiadwy.
Mae uned gweithgynhyrchu fframiau pren Creating Enterprise yn cael ei datblygu ar gyn safle Travis Perkins yn y dref gyda chymorth gwerth £6m o gyllid gan Gronfa Cymunedau Arfordirol Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.
Bydd y ffatri newydd, a reolir gan Creating Enterprise, yn cynhyrchu cydrannau adeiladu modiwlaidd ar gyfer y sector tai newydd. Bydd y prosiect yn creu wyth swydd newydd yn ogystal â rhoi cymorth i i bobl leol ddi-waith gael swyddi.
Menter gymdeithasol yw Creating Enterprise, a buddsoddir yr elw masnachol i helpu tenantiaid a phobl leol i gael gwaith.
Un nodwedd allweddol ar y fenter yw academi gyflogaeth y sefydliad, sy’n cefnogi pobl leol i fanteisio ar gyfleoedd cyflogaeth â thâl yn ogystal â chynnig profiad gwaith buddiol a chyfle i ennill cymwysterau, hybu hyder, gwella sgiliau ac ehangu cylchoedd cymdeithasol i leihau unigedd.
Ymwelodd Gweinidog yr Economi Vaughan Gething â'r safle i weld y cynlluniau a chlywed mwy am y datblygiad.
Dywedodd: "Mae wedi bod yn wych gweld y datblygiad hwn yn y Rhyl. Mae'n syniad arloesol sy'n darparu cyfleoedd gwaith a sgiliau, tra'n helpu i roi hwb i ganol y dref a chyfrannu tuag at adeiladu cartrefi fforddiadwy. Rwy'n falch bod y prosiect dan arweiniad Creating Enterprise wedi derbyn dros £297,000 o’r gronfa Cymunedau Arfordirol.
"Mae'r prosiect hwn yn talu ar ei ganfed mewn sawl ffordd. Edrychaf ymlaen at weld sut y bydd yn parhau i fynd o nerth i nerth."
Dywedodd Adrian Johnson, Rheolwr Gyfarwyddwr – Gwasanaethau Masnachol Cartrefi Conwy: "Rydym yn falch iawn o groesawu Vaughan Gething i'n ffatri newydd yma yn y Rhyl, lle byddwn yn cynhyrchu deunyddiau pren pwrpasol ar gyfer y sector tai.
"Mae'r fenter newydd hon yn ymwneud â chyflawni ethos Creating Enterprise drwy gynnig lleoliadau gwaith i bobl sy'n ddi-waith ar hyn o bryd ac sydd bellaf o'r farchnad swyddi.
"Bydd wyth swydd newydd yn cael eu creu i ddechrau. Ein nod yw cynorthwyo pobl leol, gan gynnwys tenantiaid Cartrefi Conwy neu Gyngor Sir Ddinbych i gael gwaith amser llawn a gwella sgiliau i ddarparu dyfodol cynaliadwy.
"Bydd y busnes newydd hwn hefyd yn helpu i gyflawni uchelgeisiau Llywodraeth Cymru i adeiladu cartrefi di-garbon net sy'n effeithlon ble gall ein tenantiaid fyw."