English icon English

Prosiectau peilot i fynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad academaidd

Pilot projects to tackle the impact of poverty on educational achievement

Lansiwyd rhaglen beilot i gefnogi ysgolion i fynd i'r afael â'r effaith y mae tlodi’n ei chael ar gyrhaeddiad dysgwyr.

Mae saith pennaeth o bob rhan o Gymru wedi cael eu recriwtio fel Pencampwyr Cyrhaeddiad.

Mae'r tîm yn dod â phenaethiaid o bob cwr o Gymru ynghyd sydd â chyfoeth o brofiad, ac sydd eisoes wedi helpu i lunio polisïau cenedlaethol allweddol a goruchwylio prosiectau a ysbrydolwyd gan y gymuned.

Bydd y rhaglen beilot yn rhedeg am chwe mis a bydd rôl y Pencampwyr Cyrhaeddiad yn cynnig cefnogaeth i gymheiriaid mewn ysgolion. Byddant hefyd yn helpu i lywio polisi Llywodraeth Cymru ynghylch cyrhaeddiad addysgol drwy ddefnyddio eu profiad eu hunain a rhannu arferion gorau.

Mae'r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn cefnogi Llywodraeth Cymru, ac wedi helpu i recriwtio'r Pencampwyr Cyrhaeddiad newydd.

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles: "Rydw i wrth fy modd yn gallu cyhoeddi enwau ein Pencampwyr Cyrhaeddiad newydd.  Mae'r rhai a benodwyd wedi dangos cynnydd cyson wrth fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol. Mae ganddyn nhw brofiad o fentora ac maen nhw'n ymwybodol o'r pwysau cynyddol y mae'r argyfwng costau byw yn ei gael ar deuluoedd. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda chi i gyd dros y chwe mis nesaf."

Dywedodd Prif Weithredwr yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol, Tegwen Ellis: "Rydyn ni’n hynod falch bod yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn mynd i fod yn arwain y rhaglen beilot bwysig yma ar ran Llywodraeth Cymru. Mae mynd i'r afael ag effaith tlodi ar addysg yn flaenoriaeth i ni i gyd, a bydd y pencampwyr cyrhaeddiad yn cynnig ffordd inni wneud hynny.”