English icon English
Dawn Bowden TD 7886

Prosiectau twristiaeth yng Nghymru yn ennill cyfran o £5 miliwn er mwyn cael y pethau pwysig yn iawn ar gyfer ymwelwyr

Tourism projects in Wales win share of £5m to help get the basics right for visitors

Heddiw cadarnhaodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden, bod prosiectau twristiaeth ledled Cymru wedi ennill cyfran o gronfa gwerth £5 miliwn Llywodraeth Cymru, sef Y Pethau Pwysig, er mwyn cynorthwyo i ddarparu profiad gwyliau o’r radd flaenaf.

Mae 29 prosiect seilwaith twristiaeth yng ngogledd, canolbarth, de-orllewin a de-ddwyrain Cymru wedi cael buddsoddiad gan y gronfa, sy’n helpu i gyflawni gwelliannau seilwaith twristiaeth ar raddfa fach.

Mae’r gronfa, sy’n agored i awdurdodau lleol ac awdurdodau parciau cenedlaethol, hefyd yn cefnogi prosiectau sy’n gwella hygyrchedd a phrosiectau sy’n gwneud eu cyrchfannau yn fwy amgylcheddol gynaliadwy.

2023 yw Blwyddyn Llwybrau Cymru sy'n rhoi cyfle i'r sector twristiaeth arddangos atyniadau, tirweddau a’r arfordir drwy ffyrdd a llwybrau. Mae’r prosiectau a gymeradwywyd yn dangos sut mae awdurdodau lleol a pharciau cenedlaethol wedi ystyried y profiad cyfan i ymwelwyr a'r seilwaith hanfodol sy'n gwneud profiad llwybr yn gyflawn, o lwybrau, i barcio i sicrhau bod cyfleusterau'n hygyrch i bawb.    

Dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden:

“Rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu buddsoddi £5 miliwn mewn ystod o brosiectau newydd a fydd o gymorth i ddarparu profiad gwyliau o’r radd flaenaf i bobl ledled Cymru.”

“Mae’r prosiectau a gefnogir gan gronfa Y Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru yn gwneud gwir wahaniaeth. Mae gan amwynderau twristiaeth lleol ran fawr i’w chwarae o ran sicrhau bod taith yn un i’w chofio. Yn aml, ni sylwir ar y cyfleusterau hyn, ond maent yn rhan bwysig o brofiad ymwelwyr ac o fudd i bobl sy’n byw yn yr ardal hefyd.”

Lansiwyd cronfa Y Pethau Pwysig ar gyfer 2023-25 ym mis Chwefror 2023, ac mae 29 prosiect ledled Cymru wedi eu cymeradwyo i gael cyllid. Mae’r rhain yn cynnwys:

Gogledd Cymru:

  • Cyngor Ynys Môn - £250,000 i Môn Agored – i ailwampio toiledau ym Miwmares, Rhosneigr, Traeth Bychan a Moelfre, gan gynnwys cawodydd, cyfleusterau storio beiciau, a phwyntiau gwefru cerbydau trydan lle bo’n berthnasol.
  • Cyngor Gwynedd - £300,000 ar gyfer cynllun i uwchraddio seilwaith ymwelwyr yn Ninas Dinlle ger Caernarfon – gan gynnwys rhoi arwyneb newydd i faes parcio, pwyntiau gwefru ceir trydan, cysgodfan feiciau, cysgodfan fysiau ac ardal bicnic hygyrch.
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy - £300,000 ar gyfer cysgodfannau a cholofnresi Llandudno – i ddisodli tri chysgodfan ar hyd promenâd Traeth y Gogledd Llandudno, rhoi arwyneb newydd ar waliau a lloriau a gosod meinciau newydd yng Ngholofnresi Llandudno.
  • Cyngor Sir y Fflint - £160,000 ar gyfer Darganfod Sir y Fflint ar Lwybrau – gwella arwyddion, dehongli, a gwella nifer o’r llwybrau ledled Sir y Fflint.

Canolbarth Cymru:

  • Cyngor Sir Powys - £300,000 ar gyfer Prosiect Amwynderau Ymwelwyr – gan gynnwys gwella elfennau mynediad a meysydd parcio, llwybrau, pwyntiau gwefru cerbydau trydan, arwyddion a dehongli ac uwchraddio toiledau mewn amryw leoliadau.
  • Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog - £298,739 ar gyfer Cyfleusterau Ymwelwyr – Parc Gwledig Craig y Nos a Maes Parcio Sgydau Cwm Porth – i gynnwys cyfleusterau newid yn nhoiledau Cwm Porth a gwella mynediad a maes parcio Parc Gwledig Craig y Nos.

De-orllewin Cymru:

  • Cyngor Dinas a Sir Abertawe - £180,000 ar gyfer prosiect Ailddatblygu Amffitheatr Abertawe i gynnwys to ar ffurf hwyl, goleuo ar y safle a goleuo pensaernïol, prif gyflenwad trydan gan gynnwys nifer o bwyntiau trydan, llawr o deiars rwber wedi eu hailgylchu, ffynnon ddŵr, ac addurno’r lleoliad, brandio, arwyddo, a gwaith celf.
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot - £300,000 ar gyfer Cynllun Parcio Ymwelwyr Mynachlog Nedd – creu rhwng 25 a 40 man parcio ceir, man gollwng a pharcio bysiau os yn ymarferol, a phanel cyfeirio / dehongli dwyieithog.
  • Cyngor Sir Caerfyrddin - £264,000 ar gyfer gwella Amgueddfa Cyngor Sir Caerfyrddin – gan gynnwys tirlunio, goleuo, arwyddo a dehongli, gwefru cerbydau trydan a chyfleusterau cefnogi beicio.

De-ddwyrain Cymru:

  • Cyngor Bro Morgannwg - £288,000 ar gyfer y prosiect Porthceri – Porth i’r Arfordir sy’n cynnwys gwell mynediad, seddi a chysgodfan, mwy o fannau parcio, goleuadau solar, man gwefru cerbydau trydan, gwell arwyddion, llwybrau troed newydd, dehongli, ardal storio biniau, a meinciau hygyrch.
  • Cyngor Dinas Casnewydd - £300,000 ar gyfer gosod seilwaith gwefru cerbydau trydan mewn safleoedd twristiaeth allweddol ar draws Casnewydd – darparu isafswm o ddau bwynt gwefru cerbydau trydan yn Rodney Parade, Canolfan Ymwelwyr Pont Gludo Casnewydd a Stadiwm Dinas Casnewydd o fewn Pentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd.