cows in field-2

Prosiectau yn Sir Benfro a Gogledd Cymru yn cael eu hestyn yn y frwydr yn erbyn TB mewn gwartheg

Pembrokeshire and North Wales projects extended in fight against bovine TB

  • Y Llywodraeth newydd wedi ymrwymo i ddileu TB mewn gwartheg 
  • Prosiectau yn Sir Benfro a Gogledd Cymru wedi cael eu hestyn yn dilyn llwyddiannau 
  • Cydweithrediad cryf rhwng ffermwyr, milfeddygon, y byd academaidd a'r llywodraeth yn allweddol i frwydro yn erbyn TB mewn gwartheg 

Mae dau brosiect peilot sy'n helpu ffermwyr a milfeddygon i fynd i'r afael â thwbercwlosis mewn gwartheg yn cael eu hestyn, yn dilyn llwyddiant yn Sir Benfro a Gogledd Cymru. 

Daw'r cyhoeddiad heddiw (11 Awst) wrth i Weinidog y Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd, Llyr Gruffydd, gwrdd â chyfranogwyr y prosiect yn Sioe Amaethyddol Môn. 

Mae 28 o ffermydd a 12 o bractisiau milfeddygol, gyda chefnogaeth Prifysgol Aberystwyth, yn treialu offer a dulliau lle mae ffermwyr a milfeddygon yn gweithio'n agos gyda'i gilydd i gymryd camau, wedi'u teilwra ar lefel buches, i nodi a rheoli risg TB yn eu gwartheg, gwella bioddiogelwch a diogelu buchesi a busnesau rhag TB.  

Ar ffermydd yng Ngogledd Cymru a Sir Benfro, mae newidiadau wedi'u gwneud i arferion hwsmonaeth a rheoli buchesi, dulliau prynu gwartheg a mesurau bioddiogelwch i gadw clefydau allan. Mae ffermwyr a milfeddygon yn rhannu profiadau ac yn defnyddio data i weithredu, gan gynnwys symud anifeiliaid risg uchel ar ffermydd yn wirfoddol fel mesur ataliol. 

Yn ogystal â dangos llwyddiant ar ffermydd sy'n treialu, mae'r dull yn denu diddordeb y tu hwnt i Gymru, gan gynnwys cydnabyddiaeth yn Adolygiad Godfray ac yn strategaeth TB Gwartheg Gogledd Iwerddon. 

Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd:  

"Mae TB yn gysgod tywyll dros ffermydd teuluol, nid yn unig yr agweddau ariannol er bod hynny'n bwysig wrth gwrs, ond y straen a'r pryder y mae'r clefyd yn eu hachosi. 

"Mae'r prosiectau hyn yn dangos grym ffermwyr, milfeddygon, ymchwilwyr, yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion a'r llywodraeth yn gweithio gyda'i gilydd. Gyda'n gilydd, gallwn dorri'r cylch dieflig hwn." 

Mae Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Dr Richard Irvine, yn croesawu'r cyhoeddiad:  

"Mae llwyddiant y prosiectau yng Ngogledd Cymru a Sir Benfro yn dangos i ni fod cydweithio yn allweddol, ac rwy'n canmol pawb sy'n cymryd rhan am eu gwaith hyd yma.  

"Mae'r ddau brosiect yn dangos yn glir ffermwyr a milfeddygon yn datblygu camau gweithredu yn erbyn TB ar lefel buches a lleol gyda'i gilydd – i leihau risgiau TB mewn buchesi yr effeithir arnynt, ac i gadw'r clefyd allan.  

"Drwy bartneriaeth a defnyddio ystod o offer, gwybodaeth a dulliau, gellir cymryd camau cadarnhaol i frwydro yn erbyn TB. 

"Bydd canfyddiadau o waith parhaus y prosiectau hyn hefyd yn helpu i lywio'r gwaith i adnewyddu'r rhaglen dileu TB yng Nghymru."