Pryderon yn cael eu lleisio ynghylch yr effaith ar ffermio o ganlyniad i oedi wrth gyflwyno gwiriadau ar y ffin
Concerns raised on border check delay’s impact on farming
Mae’r oedi parhaus wrth gyflwyno gwiriadau ar fewnforion o’r UE yn peri risg i fioddiogelwch ac yn rhoi ffermwyr Cymru o dan anfantais, mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru wedi rhybuddio.
Mewn llythyr at Lywodraeth y DU mae’r Gweinidog Materion Gwledig wedi amlinellu pryderon Llywodraeth Cymru ynghylch effaith rhagor o oedi wrth gyflwyno gwiriadau ar fewnforion, a oedd i fod i ddechrau ym mis Gorffennaf.
Yn y llythyr mae’r Gweinidog yn amlinellu pwysigrwydd lefelau uchel o fioddiogelwch er mwyn diogelu anifeiliaid rhag clefydau fel clwy’r traed a’r genau.
Dywedodd y Gweinidog: “Mae’r oedi parhaus wrth gyflwyno gwiriadau ar fewnforion o’r UE yn peri risg i’n bioddiogelwch gyfunol, risg sy’n cynyddu gydag amser. Mae’r diffyg mynediad at systemau olrhain yr UE, hysbysiadau am glefydau a systemau ymateb ar frys yn gwaethygu’r risg ymhellach.
“Rwy’n pryderu yn fawr iawn y bydd y sector ffermio yng Nghymru o dan anfantais, ac na fydd y sefyllfa yn deg ar gyfer cynrychiolwyr Cymru – sy’n gorfod mynd drwy wiriadau costus o ran arian ac amser wrth allforio i’r UE, wrth i gystadleuwyr yn yr UE barhau i fanteisio ar ddiffyg unrhyw wiriadau rheoleiddiol o’r fath.
“Rwyf hefyd yn rhannu’r pryderon a leisiwyd gan Gymdeithas Milfeddygon Prydain mewn perthynas â chlefydau egsotig yn cyrraedd y wlad hon.”
Tynnodd y Gweinidog sylw at bwysigrwydd mynd i’r afael â materion bioddiogelwch ar lefel Prydain Fawr gyfan.
Dywedodd hi: “O ystyried yr ansicrwydd yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth y DU, mae angen i’n swyddogion gweithio gyda’i gilydd fel mater o frys i gytuno ar y cyd ar ddull sy’n seiliedig ar risg o reoli risgiau bioddiogelwch, a gwneud penderfyniadau polisi ynghylch materion iechyd y chyhoedd, iechyd anifeiliaid ac iechyd planhigion sy’n effeithio ar y DU gyfan.”
Ailadroddodd y Gweinidog hefyd fod gwarchod bioddiogelwch yn fater datganoledig ac, er bod dull gweithredu ledled Prydain yn well o ystyried nad yw clefydau'n parchu ffiniau, rhaid i'r drefn ffiniau yn y dyfodol i warchod iechyd y cyhoedd, iechyd anifeiliaid a phlanhigion ddiwallu anghenion Cymru.
.Mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, hefyd wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU i ofyn am i Weinidogion Cymru gael eu cynnwys yn y trafodaethau ynghylch rheoli mewnforion. Mae hefyd wedi ailadrodd y dylai unrhyw wariant ar reoli ar y ffin gael ei ariannu gan drysorlys y DU.