RAAC: pob ysgol yng Nghymru ar agor i bob disgybl
RAAC: All schools in Wales open to all pupils
Mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn ei hadeiladau addysg wedi talu ar ei ganfed, heb unrhyw achosion pellach o RAAC wedi'u canfod yng Nghymru ac mae pob ysgol bellach ar agor i bob disgybl, meddai'r Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, heddiw.
O gymharu â gwledydd eraill yn y DU sydd wedi cynnal arolygon manwl o'u stad ysgolion, mae gan Gymru lawer llai o achosion o Goncrit Awyredig Awtoclafiedig Cyfnerth (RAAC) mewn ysgolion. Canfuwyd RAAC mewn dim ond pum ysgol yng Nghymru, o'i gymharu â 231 yn Lloegr a 39 yn yr Alban. Mae’r pump ysgol yng Nghymru wedi ailagor i’r holl ddisgyblion.
Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles:
"Dros y naw mlynedd ddiwethaf, rydyn ni wedi cyflwyno rhaglen helaeth ar gyfer adnewyddu ac adeiladu ysgolion a cholegau newydd, gan uwchraddio a rhoi rhai newydd yn lle'r rhai sydd fwyaf angen sylw am resymau diogelwch ac ansawdd.
"Mae'r ffaith bod cyn lleied o achosion o RAAC wedi'u nodi yn ein hysgolion, dim ond pump yng Nghymru o'i gymharu â dros 270 mewn mannau eraill yn y DU, yn dyst i fuddsoddiad Llywodraeth Cymru yn ein canolfannau dysgu."
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynyddu lefel y cyllid cyfalaf sydd ar gael drwy'r rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy i £850m ar gyfer y cyfnod 2022/23 i 2024/25 – sy’n gynnydd o 25% o'i gymharu â llinell sylfaen 2021/22. Hyd yn hyn mae dros £2.35 biliwn wedi'i dargedu at brosiectau adeiladu newydd ac adnewyddu sylweddol.
O'r 1,463 o ysgolion a gynhelir yng Nghymru, manteisiodd dros 170 o ysgolion o'r buddsoddiad hwn o dan y don fuddsoddi gyntaf, ac mae 200 o ysgolion a cholegau yn elwa ar y don bresennol. Mae hyn, ynghyd â'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £203 miliwn mewn cyfalaf cynnal a chadw dros y 4 blynedd diwethaf, yn golygu bod awdurdodau lleol a sefydliadau addysg bellach yng Nghymru wedi gallu mynd i'r afael ag agweddau allweddol ar gynnal a chadw mewn perthynas â’u hysgolion a'u colegau.
Ychwanegodd Jeremy Miles:
"Rwy' am ddiolch i staff ein hysgolion, cynghorau, colegau a phrifysgolion am weithredu'n gyflym dros y misoedd diwethaf i gynnal yr asesiadau hyn; ac i sicrhau'r effaith leiaf posibl ar ddysgwyr yn y nifer fach o adeiladau a oedd yn cynnwys RAAC."